Adroddiad 'Dilyn y Ddeddf'

Part of 2. Cwestiynau i'r Gweinidog Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol – Senedd Cymru am 2:57 pm ar 23 Hydref 2019.

Danfonwch hysbysiad imi am ddadleuon fel hyn

Photo of Jayne Bryant Jayne Bryant Labour 2:57, 23 Hydref 2019

(Cyfieithwyd)

Gofalwyr di-dâl yw ein harwyr di-glod. Mae grwpiau fel Fforwm Gofalwyr Casnewydd yn gwneud gwaith hynod bwysig yn cefnogi gofalwyr lleol a'u teuluoedd. Maent hefyd yn darparu llwyfan hynod werthfawr i ofalwyr gefnogi ei gilydd a rhannu eu profiadau. Roedd yn bleser mawr i mi groesawu’r Dirprwy Weinidog, gyda John Griffiths, i’r fforwm y mis diwethaf i glywed o lygad y ffynnon pa mor hanfodol yw’r grŵp i gynifer o bobl. Gwn fod y fforwm yn hynod ddiolchgar i chi am wrando ar eu pryderon ac am ystyried profiadau real y gofalwyr.

Un o'r materion a godwyd oedd pwysigrwydd sicrhau bod gofalwyr yn ymwybodol o'u hawliau. Rwy'n falch o glywed y bydd ymgyrch yn yr hydref, ond pa gamau pellach y bydd y Gweinidog yn eu cymryd i sicrhau bod ein gofalwyr wedi'u harfogi ac y gallant gael mynediad at y wybodaeth sydd ei hangen arnynt pan fydd angen?