Gwasanaethau Iechyd Meddwl

Part of 2. Cwestiynau i'r Gweinidog Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol – Senedd Cymru am 3:10 pm ar 23 Hydref 2019.

Danfonwch hysbysiad imi am ddadleuon fel hyn

Photo of Joyce Watson Joyce Watson Labour 3:10, 23 Hydref 2019

(Cyfieithwyd)

Diolch am eich ateb, ond y mis hwn mae'r gwasanaeth iechyd meddwl arloesol y tu allan i oriau arferol, The Twilight Sanctuary, yn cael ei lansio yn Llanelli, ac fe gomisiynwyd y gwasanaeth sy'n cael ei redeg gan Mind a Hafal gan fwrdd iechyd Hywel Dda, Heddlu Dyfed-Powys a Chyngor Sir Gaerfyrddin. Ac mae'n un o brosiectau cyntaf y rhaglen trawsnewid iechyd meddwl a'r cyntaf o'i fath yng Nghymru. Mae'n enghraifft wych o'r hyn y gellir ei gyflawni drwy weithio ar y cyd. Bydd yn galluogi pobl ag iechyd meddwl sy'n dirywio i gael help pan fydd gwasanaethau fel arfer ar gau, sef rhwng dydd Iau a dydd Sul, rhwng 6 p.m. a 2 a.m. yn y bore. Weinidog, rwy'n awyddus i weld a ydych yn gwybod, ar ôl i'r cynllun peilot hwn—os mai dyna ydyw—gael ei asesu, a fwriedir lansio rhaglenni tebyg ar draws canolbarth a gorllewin Cymru.