Part of 2. Cwestiynau i'r Gweinidog Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol – Senedd Cymru am 3:11 pm ar 23 Hydref 2019.
Bydd gennyf ddiddordeb yn y gwerthusiad o'r peilot, nid i weld a oes modd ei ddefnyddio yng nghanolbarth a gorllewin Cymru, ond i weld a yw'n cynnig gwersi cenedlaethol hefyd. Yn y gronfa drawsnewid a lansiwyd gennym ochr yn ochr â 'Cymru Iachach', roeddem yn glir iawn ynglŷn â'n hawydd i ddeall prosiectau a oedd nid yn unig yn gymwys i gymuned fach ond a oedd â photensial i gael eu gwneud ar raddfa fwy ar gyfer rhanbarth ac ar draws y wlad. Mae gennyf ddiddordeb bob amser mewn cefnogi a deall arloesedd, gan gynnwys deall pan na fydd arloesedd o'r fath yn arwain at ledaeniad ehangach o bosibl, ond i ddeall pa wersi y gallwn eu dysgu ohono a beth a wnawn am y system gyfan. Mae'n werth nodi bod y rhaglen trawsnewid gwasanaethau iechyd meddwl a ddechreuwyd ac a lansiwyd gan Hywel Dda ym mis Medi 2017 yn cyd-fynd â'r weledigaeth a'r gwerthoedd sy'n sail i 'Cymru Iachach'. Felly, byddaf yn parhau i fod â diddordeb ac ar ryw adeg, efallai y bydd yn bosibl ymweld â'r prosiect gyda'r Aelod etholaeth.