2. Cwestiynau i'r Gweinidog Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol – Senedd Cymru ar 23 Hydref 2019.
8. A wnaiff y Gweinidog ddatganiad am y defnydd o ymgynghorwyr allanol gan Fwrdd Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr? OAQ54597
Mae'r bwrdd iechyd yn defnyddio ymgynghorwyr allanol i ddarparu arbenigedd ychwanegol mewn meysydd penodol. Yn ddiweddar, mae hyn wedi cynnwys arbenigedd datrys problemau i fynd i'r afael â'i sefyllfa ariannol ar frys a chyflawni'r argymhellion ac adborth gan y Pwyllgor Cyfrifon Cyhoeddus a'r uned cyflenwi cyllid.
Wel, un o’r bobl hynny yw Philip Burns, sydd wedi cael ei gyflogi gan y bwrdd, mae’n debyg, i fod yn rhan o’r broses o geisio adnabod cyfleoedd i arbed pres. Nawr, yn ôl y sôn, mae e’n cael ei dalu £2,000 y dydd, ynghyd â chostau i deithio nôl ac ymlaen o Marbella. Dwi wedi gofyn i’r bwrdd iechyd i gadarnhau ydy hyn yn wir ers dros fis. Dwi ddim wedi cael ymateb, ac felly dwi wedi cael fy ngorfodi i gyflwyno cais rhyddid gwybodaeth.
Nawr, dyma’r gŵr, wrth gwrs, mae’n debyg, sydd y tu ôl i’r bwriad i newid rotas nyrsys—rhywbeth sydd wedi achosi cryn ofid ymhlith nyrsys yn y gogledd ac, yn wir, wedi tanseilio llawer o’r ewyllys da sydd rhwng nyrsys a’u cyflogwyr. Nawr, mae’n debyg bod ei gyflog e’n fwy sylweddol na’r arbedion fydd hynny’n yn eu cynhyrchu. Ond ta waith am hynny, fy nghwestiwn i yw: oni ddylai fod yna fwy o dryloywder o gwmpas y modd y mae’r bobl allanol yma yn cael eu cyflogi? Ac onid ydych chi’n cytuno â fi ei bod hi’n gwbl annerbyniol fy mod i wedi cysylltu ers dros fis â’r bwrdd i ofyn am y manylion hynny a fy mod i dal heb gael ateb?
Rwy'n credu bod yna un neu ddau o wahanol bwyntiau yn codi. Nid wyf yn ymwybodol o gwbl a yw'r cyfarwyddwr adfer dros dro yn gyfrifol am yr ymgynghoriad parhaus ag undebau llafur ynghylch rhestrau dyletswyddau nyrsys. Nid wyf yn credu bod hwnnw'n bwynt teg i'w wneud yn y ddadl hon.
Mae cwestiwn cwbl ddilys, serch hynny, yn codi ynghylch tryloywder gwybodaeth ynglŷn â thelerau cyflogi ymgynghorwyr a'u costau. Er bod y costau o ran y cynnydd blynyddol yn uwch yn y system yng Nghymru, dylwn nodi eu bod at ei gilydd yn debyg i'r disgwyl yn y system yn Lloegr. Mae angen i ni sicrhau bod problemau'n cael eu datrys ac adferiad sylweddol yn digwydd yn swyddogaeth gyllidol Bwrdd Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr, ac rydym ar bwynt lle nad yw'r ymyriadau blaenorol wedi gweithio i sicrhau'r newid gwirioneddol sydd ei angen. Disgwyliaf i'r bwrdd iechyd gyflawni hynny—nid yn unig i gynnig rhestr o gyfleoedd nad ydynt wedi'u cymryd, ond i wneud cynnydd mewn gwirionedd ar gyfleoedd sy'n bodoli i wella eu swyddogaeth gyllidol. Nid yw hynny'n golygu bod pob un o'r rheini'n ddieithriad yn peryglu'r gallu i ddarparu gofal iechyd o'r ansawdd rydych chi a phawb arall yn y Siambr hon yn ei ddisgwyl.
Er hynny, byddaf yn siarad â'r bwrdd iechyd ynglŷn â darparu gwybodaeth, oherwydd ni ddylech orfod gofyn dros gyfnod mor hir iddynt ddarparu gwybodaeth a ddylai fod ar gael i chi a chynrychiolwyr cyhoeddus eraill.
Diolch i'r Gweinidog.