Part of the debate – Senedd Cymru am 3:38 pm ar 23 Hydref 2019.
Diolch, Llywydd. A diolch i'm cyd-gyflwynwyr, Leanne Wood a Mick Antoniw, am ganiatáu i'r ddadl yma ddigwydd heddiw yma.
Mi ges i'm symbylu i ymchwilio i fater troseddau casineb yn erbyn y gymuned lesbiaidd, deurywiol, hoyw a thraws yng Nghymru yn sgil digwyddiadau mewn tref yn fy etholaeth i. Mae'r elusen GISDA wedi bod yn cefnogi pobl ifanc fregus yn Arfon ers degawdau, a dwi'n cofio gweithio efo Brian Thirsk a'r criw cyntaf o wirfoddolwyr, nôl yn yr 1980au, pan ddaeth hi'n amlwg bod rhai o bobl ifanc yr ardal angen cefnogaeth. Mae'r elusen erbyn hyn yn rhan bwysig ac adnabyddus o'n cymunedau ni, ac yn ddiweddar gwelwyd bod angen sefydlu man cyfarfod diogel ar gyfer rhai o bobl ifanc LHDT yr ardal. Sefydlwyd clwb ieuenctid a chrëwyd cyfle i bobl ifanc o'r gymuned honno i gymdeithasu a rhannu profiadau, a hynny yn yr iaith Gymraeg.
Ond, yn anffodus, mae rhai o aelodau'r grŵp a'r clwb ieuenctid wedi dioddef rhagfarn homoffobaidd. Yn wir, fe ymosodwyd ar un person ifanc tra'n aros am fws ar ôl bod yn y clwb. Ymosodiad homoffobaidd, ffiaidd. Bu aelodau eraill yn destun ymosodiadau geiriol hefyd. Yn sgil hynny, roedd rhai o'r bobl ifanc yn teimlo nad oedden nhw am fynd i'r clwb, ond fe dynnwyd yr asiantaethau ynghyd ac fe drafodwyd pa gamau a oedd angen eu cymryd er mwyn caniatáu i'r clwb gael parhau i'r dyfodol.