– Senedd Cymru am 3:38 pm ar 23 Hydref 2019.
Yr eitem nesaf yw'r ddadl gan Aelodau o dan Reol Sefydlog 11.21(iv) ar fynd i'r afael â throseddau casineb LHDT. Dwi'n galw ar Siân Gwenllian i wneud y cynnig.
Cynnig NDM7144 Sian Gwenllian, Mick Antoniw, Leanne Wood
Cynnig bod Cynulliad Cenedlaethol Cymru:
1. Yn galw ar Lywodraeth Cymru i ddarparu adroddiad o gynnydd am ei gwaith i fynd i'r afael â throseddau casineb LHDT yng Nghymru.
2. Yn galw am ddatganoli cyfiawnder er mwyn sicrhau dull integredig o fynd i'r afael â throseddau casineb LHDT ac amddiffyn pobl LHDT yng Nghymru.
3. Yn galw ar Lywodraeth Cymru i amlinellu ei chynigion ar sut y gallai creu system gyfiawnder ddatganoledig i Gymru hybu diogelwch a llesiant pobl LHDT.
Diolch, Llywydd. A diolch i'm cyd-gyflwynwyr, Leanne Wood a Mick Antoniw, am ganiatáu i'r ddadl yma ddigwydd heddiw yma.
Mi ges i'm symbylu i ymchwilio i fater troseddau casineb yn erbyn y gymuned lesbiaidd, deurywiol, hoyw a thraws yng Nghymru yn sgil digwyddiadau mewn tref yn fy etholaeth i. Mae'r elusen GISDA wedi bod yn cefnogi pobl ifanc fregus yn Arfon ers degawdau, a dwi'n cofio gweithio efo Brian Thirsk a'r criw cyntaf o wirfoddolwyr, nôl yn yr 1980au, pan ddaeth hi'n amlwg bod rhai o bobl ifanc yr ardal angen cefnogaeth. Mae'r elusen erbyn hyn yn rhan bwysig ac adnabyddus o'n cymunedau ni, ac yn ddiweddar gwelwyd bod angen sefydlu man cyfarfod diogel ar gyfer rhai o bobl ifanc LHDT yr ardal. Sefydlwyd clwb ieuenctid a chrëwyd cyfle i bobl ifanc o'r gymuned honno i gymdeithasu a rhannu profiadau, a hynny yn yr iaith Gymraeg.
Ond, yn anffodus, mae rhai o aelodau'r grŵp a'r clwb ieuenctid wedi dioddef rhagfarn homoffobaidd. Yn wir, fe ymosodwyd ar un person ifanc tra'n aros am fws ar ôl bod yn y clwb. Ymosodiad homoffobaidd, ffiaidd. Bu aelodau eraill yn destun ymosodiadau geiriol hefyd. Yn sgil hynny, roedd rhai o'r bobl ifanc yn teimlo nad oedden nhw am fynd i'r clwb, ond fe dynnwyd yr asiantaethau ynghyd ac fe drafodwyd pa gamau a oedd angen eu cymryd er mwyn caniatáu i'r clwb gael parhau i'r dyfodol.
Mae'r stori yma yn tanlinellu pam fod yn rhaid mynd i'r afael â'r cynnydd mewn troseddau casineb yn erbyn pobl lesbiaidd, deurywiol, hoyw a thraws yng Nghymru, a hynny ar frys. Dros y flwyddyn ddiwethaf, cofnodwyd bron i 4,000 o droseddau casineb yng Nghymru, yr uchaf eto ar gyfer troseddau casineb yn y wlad yma, a bron i ddwbl y ffigwr ers 2013. Siom yw gweld y lefelau yn codi unwaith eto, a hynny ar draws pob math o nodwedd warchodedig: hil, crefydd, anabledd, ac yn erbyn pobl LHDT. Mae troseddau casineb yn erbyn y gymuned yma yn benodol wedi cynyddu 12 y cant, o 670 i 751 dros y flwyddyn ddiwethaf, a'r nifer o droseddau casineb yn erbyn pobl traws wedi cynyddu o 64 i 120—bron i ddwbl. Ac mae'n debyg, wrth gwrs, fod yna nifer o resymau dros y cynnydd, yn cynnwys mwy o barodrwydd i ddod ymlaen i riportio troseddau a dulliau gwell o gasglu'r wybodaeth, ond rhaid inni dderbyn bod rhagfarn hefyd wrth wraidd y cynnydd mewn troseddau casineb, a rhaid mynd i'r afael â'r rhagfarn hwnnw os ydym ni am greu cymdeithas wâr yng Nghymru—un sy'n coleddu gwahaniaeth, un sy'n parchu hawliau unigolion o ran eu rhywedd.
Mi ddywedwn i fod hyn oll yn ddadl deilwng dros ddatganoli cyfiawnder i Gymru, gan greu'r cyfle i adolygu'r holl broses o ddelio â throseddau casineb, ac mi fydd Leanne Wood yn sôn am hyn yn ei chyfraniad hi. Yn y cyfamser, cyn gallu datganoli cyfiawnder, mae angen mynd i'r afael â'r diffyg adnoddau. Mae yna bryder difrifol ynghylch y diffyg adnoddau sydd eu hangen i fynd i'r afael â throseddau casineb, ac mae yna anghydraddoldeb mewn cefnogaeth ledled Cymru, sy'n golygu bod yr adnoddau yn dameidiog ac yn destun i loteri cod post. Er enghraifft, y clwb ieuenctid roeddwn yn sôn amdano yn GISDA ydy'r unig un o'i fath yng Ngwynedd gyfan, a'r unig un, hyd y gwn i, sy'n darparu lle i aelodau Cymraeg eu hiaith.
Mae yna waith da yn digwydd, a dwi yn falch bod ein comisiynydd heddlu a throseddau yn y gogledd, Arfon Jones, yn cyflawni gwaith clodwiw. Mae gan Heddlu Gogledd Cymru ddau swyddog amrywiaeth a throseddau casineb sy'n rhoi hyfforddiant i swyddogion newydd i adnabod troseddau casineb. Ac mae'r bwrdd cyfiawnder troseddau casineb hefyd wedi bod yn gwneud gwaith da ar draws Cymru. Ac felly, er mai torcalonnus ydy gweld cynnydd yn nifer y troseddau sydd yn cael eu recordio gan yr heddlu, efallai bod hyn yn golygu bod yna well ymwybyddiaeth a bod y cynnydd yn deillio o well ymwybyddiaeth gan yr heddlu a'r cyhoedd a hynny sydd wedi arwain at fwy o riportio. Ac, wrth gwrs, mae'n well i ddioddefwr ddefnyddio a chael cefnogaeth drwy'r gwasanaethau, yn hytrach na dioddef mewn tawelwch.
Ond mae'n rhaid i fi ddweud dwi'n teimlo bod Llywodraeth Cymru wedi methu â gwir amgyffred yr angen i roi pwysigrwydd i'r mater yma, ac i fynd at wraidd y broblem wrth fynd i'r afael â throseddau casineb. Mae yna fframwaith wedi cael ei ddyfeisio ar gyfer mynd i'r afael â throseddau casineb, ond nid ydym wedi cael llawer o wybodaeth am hwnnw na dim diweddariad ers bron i ddwy flynedd. Ac, wrth gwrs, mae angen rhoi ystyriaeth tymor hir i'r mater yma, ac i weld lefelau troseddau casineb yn gostwng unwaith ac am byth. Ac mae hyn yn golygu bod yn rhaid inni roi sylw ar fesurau ataliol, gan ddechrau yn yr ysgol.
Byddai gwersi mewn addysg perthynas a rhywioldeb yn golygu byddai plant yn ennill dealltwriaeth glir o amrywiaeth pobl a pherthynas iachus. Mi fydden nhw'n dysgu am wahanol fathau o deuluoedd, cyfeillgarwch, perthynas broffesiynol a pherthynas rywiol yn ogystal â goddefgarwch a bod yn gynhwysol ynglŷn â hunaniaeth. Mae'n hanfodol, yn fy marn i, a dwi'n gwybod bod y Gweinidog addysg yn cytuno, fod yr addysg hon yn cael ei roi i bob un plentyn yng Nghymru.
Mae Stonewall Cymru yn dweud yn glir iawn—maen nhw'n dweud fel hyn: mae addysg perthynas a rhywioldeb cynhwysol ac effeithiol yn sicrhau bod pob person ifanc yn derbyn y wybodaeth sydd ei hangen arnyn nhw i gadw'n ddiogel, i wneud penderfyniadau gwybodus, cael perthnasoedd iach a pharatoi ar gyfer bywyd yng Nghymru yn yr unfed ganrif ar hugain.
Mae'n hanfodol bod yr holl adnoddau a chefnogaeth posib yn trosglwyddo i'n hysgolion ni er mwyn sicrhau eu bod nhw'n hyderus i gyflwyno gwersi addysg perthynas a rhywioldeb yn effeithiol. Ac mae'n dda gweld bod cynnwys yr elfen yma—yr addysg perthynas a rhywioldeb—yn y cwricwlwm yn un sydd wedi derbyn cefnogaeth glir a chadarn ar draws y pleidiau yn y Siambr yma.
Dwi'n hapus ein bod ni fel Senedd heddiw yn gallu trafod y mater yma ac yn gallu gwneud safiad cryf ar y cyd ar faterion difrifol sy'n mynd i galon ein cymdeithas ni. Mae'n rhaid inni edrych ar ôl ein gilydd. Dwi'n edrych ymlaen at glywed cyfraniadau cyd-Aelodau i'r cynnig sydd gerbron.
Rwy'n falch o gyfrannu at y ddadl hon heddiw. Diolch yn fawr, Siân, am agor y ddadl. Rwy'n credu ei fod yn adlewyrchiad trist o'r cyfnod rydym yn byw ynddo fod adroddiadau am droseddau casineb yn erbyn pobl LHDT yng Nghymru a Lloegr wedi saethu i fyny yn ôl data newydd sydd newydd gael ei grybwyll, data a luniwyd gan y Swyddfa Gartref a sefydliadau eraill. Yn wir, o edrych ar yr ystadegau, credaf fy mod yn iawn i ddweud bod cynnydd o 25 y cant wedi bod yn nifer y troseddau casineb ar sail cyfeiriadedd rhywiol yn unig—25 y cant.
Mae hwn yn ystadegyn sy'n peri pryder mawr, ond wrth gwrs, y tu ôl i'r ystadegau, mae yna straeon unigol torcalonnus. A Siân, roeddech yn sôn am un o'r straeon diweddaraf, sydd wedi cael cyhoeddusrwydd, yng Ngwynedd, yn eich etholaeth chi, rwy'n credu, a roddodd fachgen yn ei arddegau yn yr ysbyty. Fel y dywedoch chi, aelod o glwb ieuenctid oedd hwnnw—dim ond 13 mlwydd oed. Ymosodwyd arno mewn safle bws lleol wrth iddo gael ei gam-drin yn eiriol. Deallaf fod y sylfaenydd, Aled Griffiths, mewn cyfarfod, wedi galw am aelodau—dywedodd y dylai cynghreiriaid sefyll gyda'i gilydd dros gydraddoldeb. Ac rwy'n credu y byddai pob un ohonom sy'n gynghreiriaid yn y Siambr hon ac yn y sefydliad hwn yn cytuno ac yn cefnogi'r safbwyntiau hynny—mae angen i bawb ohonom sefyll gyda'n gilydd, fel y dywedoch chi ar ddiwedd eich araith. Wrth gwrs, un enghraifft yw hon. Mae llawer mwy. Mewn achos arall, dyrnodd dyn ei gymydog a gweiddi geiriau homoffobig sarhaus arno—mae'n erchyll darllen y manylion hyn hyd yn oed. Mae'n anghredadwy bod hyn yn digwydd yng nghymdeithas heddiw, ond fe ddyrnodd ei gymydog a'i sarhau'n homoffobig mewn modd erchyll, a hynny ar ôl ymosod ar ei bartner yn ôl yr honiad. Felly, roedd nifer o bobl yn gysylltiedig â'r ymosodiad hwnnw.
Felly, diben y ddadl hon yw galw ar Lywodraeth Cymru i weithio gydag awdurdodau lleol, gydag ysgolion a'r heddlu i geisio dileu'r rhagfarn a'r trais y mae ein hetholwyr LHDT ledled Cymru yn ei wynebu o ddydd i ddydd.
Os astudiwch yr ystadegau, mae'n peri mwy fyth o ofid. Mae troseddau casineb gwrth-draws wedi cynyddu mwy na phedair gwaith yn y pum mlynedd diwethaf. Felly, mae'r rhain yn ystadegau syfrdanol na fyddech yn eu derbyn mewn unrhyw agwedd arall ar fywyd nac unrhyw linell arall o ystadegau troseddol. Felly, mae gwir angen mynd i'r afael â hyn cyn gynted ag y bo modd.
Rydych wedi sôn am ddatganoli cyfiawnder, ac rwy'n credu eich bod wedi dweud bod Leanne Wood yn bwriadu edrych ymhellach ar hynny. Ac yn sicr nid wyf yn gwrthwynebu datganoli rhagor o bwerau i'r lle hwn lle bo angen. Rwy'n credu ei bod yn eithaf dymunol, mewn sawl ffordd, fod gennym, fel y dywedodd yr Ysgrifennydd cyllid a'r cyn Brif Weinidog yn wir, yr offer priodol i ymdrin â'r materion hyn. Hoffwn eich annog i fod yn ofalus, oherwydd, wrth gwrs, nid pwerau pellach yw'r ateb bob tro. Fel y dywedoch chi, rwy'n credu, mae'n rhaid i ni wybod beth y bwriadwn ei wneud gyda'r pwerau hynny, a dyna pam rwy'n credu bod pwynt 3 yn galw ar Lywodraeth Cymru i gyflwyno strategaeth sy'n dangos sut y gellir cysylltu pob un o'r meysydd gwahanol hyn er mwyn ceisio gwneud i bethau weithio'n well. Felly, buaswn yn pryderu pe bai'r ffocws yn cael ei dynnu oddi ar ddefnyddio'r pwerau sydd gan Lywodraeth Cymru ar hyn o bryd a'i droi ar drafodaeth—er mor bwysig yw hi—ynglŷn â'r modd y caiff pwerau'r lle hwn eu cynllunio yn y dyfodol, oherwydd ar hyn o bryd, rwy'n credu bod angen i bobl LHDT ledled Cymru wybod ein bod yn gofalu amdanynt ac yn gwneud yr hyn a allwn ar hyn o bryd i'w cefnogi.
Fe sonioch chi am addysg, ac mae'r Gweinidog addysg yn y Siambr heddiw, ac mae'n ymddangos i mi na allwch ymdrin â throseddau casineb a homoffobia, a phob math o ffobiâu eraill, heb fynd i'r afael â'r rheini'n gynnar mewn gwirionedd. Yn aml, mae hadau troseddau sy'n cael eu cyflawni yn ddiweddarach mewn bywyd wedi'u hau'n gynnar iawn, ac mae'n ymwneud â'r dylanwadau niweidiol cynnar ar bobl ifanc nad ydynt yn cael sylw ac nid oes ganddynt enghraifft dda i'w dilyn bob amser, felly credaf fod gan ysgolion a'r byd addysg rôl bwysig i'w chwarae. A buaswn yn dweud bod camau breision wedi cael eu gwneud yn y maes hwnnw—mae materion na châi eu crybwyll o'r blaen bellach yn cael eu trafod mewn ysgolion, felly mae hwnnw'n gynnydd, ond mae angen inni fynd yn llawer pellach i fynd i'r afael â'r broblem er mwyn sicrhau, yn y dyfodol, fod pobl LHDT, pobl draws—yn wir, yr holl bobl rydym yn eu cynrychioli—yn gallu teimlo'n ddiogel a theimlo'n rhydd, mewn clybiau ieuenctid neu lle bynnag, i fynegi eu hunain a byw'r math o fywydau y maent eisiau eu byw ac y maent yn haeddu gallu eu byw yn rhydd a heb ragfarn yng Nghymru.
Er bod agweddau cymdeithasol a'r gyfraith wedi datblygu llawer dros y degawdau diwethaf, mae llawer o bobl ifanc yn dal i deimlo nad ydynt yn cael eu derbyn am bwy ydynt yn eu cymunedau eu hunain. Mae llawer o bobl yn dal i wynebu rhagfarn, camdriniaeth, aflonyddu a gelyniaeth bob dydd. Sut y gallwn sicrhau pobl ifanc y byddant yn cael eu derbyn pan fyddant yn dod allan pan na allwn eu hamddiffyn rhag troseddau casineb? Yn ystod y flwyddyn ddiwethaf yn unig, mae bron i 4,000 o droseddau casineb wedi'u cofnodi yng Nghymru ar sail hil, crefydd, cyfeiriadedd rhywiol, anabledd a thrawsrywedd. Dyma ffigur uchaf erioed yng Nghymru, ac mae'n golygu bod y ffigurau wedi dyblu bron dros y chwe blynedd diwethaf.
Caiff pobl LHDT sydd hefyd yn bobl dduon ac Asiaidd a lleiafrifol ethnig eu heffeithio gan wahaniaethu dwbl. Yn ôl Stonewall, mae hanner y bobl LHDT du, Asiaidd neu leiafrifol ethnig wedi dioddef camwahaniaethu neu driniaeth wael oherwydd eu hethnigrwydd dan law eraill yn eu cymuned LHDT leol eu hunain, ac mae'r nifer hwn yn codi i dri o bob pump o bobl dduon LHDT. Ac nid yw traean o bobl lesbiaidd, hoyw a deurywiol sy'n arddel ffydd yn agored gydag unrhyw un yn eu cymuned ffydd ynglŷn â'u cyfeiriadedd rhywiol.
Nid yw troseddau casineb yn bodoli mewn gwacter. Mae cymdeithas wedi mynd yn fwy pegynol ac mae trafodaeth wleidyddol wedi mynd yn fwy gwenwynig. A thra bo Prif Weinidog y DU yn galw menywod Mwslimaidd sy'n gwisgo'r bwrca yn 'flychau llythyrau', a thra gall gerdded yn rhydd heb unrhyw gerydd na chanlyniad, mae gennym waith i'w wneud.
Nid yw Cymru'n ddiogel rhag hyn na'r ystadegau diweddaraf, ac maent yn dangos nad yw ein cymdeithas yn derbyn pawb yn llwyr nac yn gwbl deg eto. Maent yn dangos bod rhagfarn yn broblem, ac maent yn dangos, er gwaethaf y llwyddiannau niferus y mae Cymru wedi'u sicrhau o ran cydraddoldeb LHDT, nad ydym cyrraedd eto. Mae'n bosibl fod agweddau cymdeithasol wedi newid llawer dros y degawdau diwethaf, ac er bod newidiadau yn y gyfraith yn golygu bod mwy o ysgolion a gwasanaethau cyhoeddus yn cymryd sylw o wahaniaethu gwrth-LHDT ac yn mynd i'r afael ag ef, mae'n rhaid i ni barhau i wthio ymhellach.
O'r llu o rwystrau i gydraddoldeb sy'n rhaid i ni eu goresgyn, mae'r drafodaeth bresennol am hawliau traws yn bwysig iawn i mi. Mae pobl draws yng Nghymru a ledled y byd yn wynebu rhagfarn a gwahaniaethu ar sail eu hunaniaeth ryweddol. Mae 59 y cant o fenywod traws a 56 o ddynion traws yn dweud eu bod yn osgoi mynegi eu hunaniaeth ryweddol oherwydd eu bod yn ofni ymateb negyddol gan eraill. Ar gyfer ymatebwyr anneuaidd, roedd y ffigur yn llawer uwch, sef 76 y cant. Mae pobl draws hefyd yn wynebu mwy o risg o ddigartrefedd a hunanladdiad, ac wedi gorfod teithio i Lundain i gael gofal iechyd sylfaenol. Dylai fod gan bobl draws hawl ddiymwad i fyw heb ragfarn, gwahaniaethu ac erledigaeth. Pam na allwn ni gael uchelgais i Gymru fod yn arweinydd byd o ran gofal iechyd traws o ansawdd uchel a mynediad at wasanaethau a chyfleusterau yn unol â'u hunaniaeth ryweddol?
Mae system gyfiawnder well hefyd yn gallu arwain at newid hirdymor real. Ar hyn o bryd, mae system cyfiawnder troseddol Cymru a Lloegr yn gwneud cam â'n cymunedau—nid yw'n gweithio i bobl yma. Mae angen newid arnom a phŵer a chyfrifoldeb llawn dros gyfiawnder troseddol i greu system a fydd o fudd i'n holl gymunedau, er mwyn mynd i'r afael â throseddau casineb LHDT a diogelu pobl LHDT yn briodol. Gallem adolygu deddfau troseddau casineb fel bod troseddau casineb sy'n seiliedig ar gyfeiriadedd rhywiol, hunaniaeth ryweddol neu anabledd a niwroamrywiaeth yn cael eu trin yn gyfartal â'r rhai sy'n seiliedig ar hil a ffydd, drwy eu gwneud yn droseddau gwaethygedig. Gallem ddarparu hyfforddiant troseddau casineb gwrth-LHDT gwell ar gyfer yr heddlu ac erlynyddion, ar-lein ac all-lein. Gallem olrhain erlyniadau'n llwyddiannus i ddatblygu arferion gorau, a darparu cymorth wedi'i dargedu i ddioddefwyr.
Mewn cyd-destun ehangach, mae'n rhaid inni fynd i'r afael â'r rhagfarn gynhenid sy'n arwain at gyfraddau carcharu llawer mwy anghymesur yng Nghymru nag yn Lloegr ymhlith cymunedau pobl dduon ac Asiaidd a lleiafrifoedd ethnig, o'u cymharu â'r boblogaeth. Os ydych yn berson croendywyll yng Nghymru, rydych yn fwy tebygol o fod wedi'ch carcharu ac o gael dedfryd hirach. Nid yw hynny'n dderbyniol.
Diolch byth, rydym yn bell o ddyddiau adran 28 a'r lobi yn erbyn priodasau cyfartal, ond mae gennym gymaint mwy i'w wneud eto cyn y gall pobl LHDT deimlo'n ddiogel ac wedi'u derbyn yn ddieithriad yng Nghymru heddiw, ac i droseddau casineb fod yn rhywbeth sy'n perthyn i'r gorffennol.
Diolch yn fawr iawn i Leanne a Siân am gyflwyno'r ddadl hon, ynghyd â Mick Antoniw, oherwydd rwy'n credu ei bod yn ddadl ddiddorol iawn ac yn un nad ydym yn mynd i'r afael â hi'n aml. Hoffwn sôn am rai pethau cadarnhaol, oherwydd credaf y gallwn i gyd gytuno bod llawer o bethau ffiaidd yn digwydd yn ein cymdeithas.
Rwyf am dynnu sylw at Just a Ball Game?, sef elusen sy'n mynd i'r afael â'r ffobia LHDT+ ym myd chwaraeon, sy'n aml yn un o'r mannau lle mae pobl yn teimlo eu bod yn gallu bwrw eu swildod ac ymddwyn mewn ffordd benodol ar y terasau sy'n wahanol i'r ffordd y byddent yn ymddwyn ar y stryd. Rwy'n cofio cynnal cyfarfod cofiadwy y llynedd yn y Pierhead gyda Just a Ball Game?, a drefnwyd mewn cydweithrediad â fy niweddar etholwr Bob Woods, gweithiwr cymdeithasol blaenllaw ac ymgyrchydd hawliau LHDT. Ymhlith y rhai a oedd yn bresennol, er mawr foddhad i mi, roedd pum aelod o grŵp LHDT Teilo Sant, disgyblion sy'n cyfarfod yn fisol er mwyn trafod materion cyffredin sy'n peri pryder, a ddaeth yno, gyda chaniatâd eu rhieni, gydag aelod o staff. Ymhlith y siaradwyr roedd Neville Southall, un o 100 chwaraewr pêl-droed gorau'r ugeinfed ganrif—fel y gŵyr cefnogwyr pêl-droed, chwaraeodd i Everton a Chymru—a Gareth Thomas, y sgoriwr ceisiadau uchaf ond un y tu ôl i Shane Williams, ac un o chwaraewyr rygbi'r undeb a rygbi'r gynghrair enwocaf yng Nghymru a Phrydain. Mae'r ddau ohonynt yn eiconau yn eu gemau ac wedi chwarae rhannau amlwg yn y frwydr yn erbyn troseddau casineb homoffobig ym myd chwaraeon.
Yn gywilyddus, ychydig o dan flwyddyn yn ôl, profodd Gareth Thomas ymosodiad homoffobig tra oedd ar noson allan yn fy etholaeth i, yng Nghaerdydd. Er clod iddo, dewisodd Gareth Thomas ddilyn y llwybr cyfiawnder adferol, yn hytrach nag erlyn y bachgen 16 mlwydd oed a rhoi record droseddol iddo—ac roedd Neville Southall yn ei ganmol am wneud hynny. Rwy'n siŵr bod honno'n ffordd lawer mwy effeithiol o gael y person ifanc 16 oed hwn i ailfeddwl ynglŷn â'i syniadau rhagfarnllyd, a ddysgodd, mae'n siŵr, gan bobl eraill yn ei deulu.
Rwyf eisiau siarad hefyd am Glwb Pêl-droed Dreigiau Caerdydd, sef tîm pêl-droed LHDT+ cyntaf, a'r unig un, yng Nghymru. Fe'i sefydlwyd yn 2008 gan gefnogwyr pêl-droed a oedd eisiau creu tîm yn rhydd o homoffobia a chwarae pêl-droed mewn gofod diogel a chefnogol. Maent yn dal i gael anhawster i ddod o hyd i gaeau chwarae yn ystod misoedd y gaeaf, caeau sydd fel arfer yn cael eu cymryd gan glybiau eraill. Felly, os oes unrhyw un yn gwybod am gae pêl-droed addas yn y gaeaf y gallent eu cynnig iddynt, mae croeso i chi gysylltu â mi.
Eu datganiad cenhadaeth yw hyrwyddo cyfranogiad mewn pêl-droed ac ymwybyddiaeth o'r gêm, cydlyniant cymdeithasol a ffyrdd iach o fyw mewn cymuned LHDT+ yng Nghaerdydd, de Cymru a thu hwnt. Maent yn chwarae yng nghynghrair y Rhwydwaith Cefnogwyr Pêl-droed Hoyw yn erbyn timau o bob rhan o'r DU. Sefydlwyd y rhwydwaith cefnogwyr yn 1989 gan gefnogwyr y gêm, ac mae wedi ehangu o ddilyn y gêm yn unig i ymgyrchu dros hawliau LHDT+ a rhyddid rhag camdriniaeth tra byddant yn mynd i gemau yn ogystal â chwarae. Mae tîm Caerdydd hefyd yn chwarae mewn cynghreiriau heterorywiol, lle maent, o bryd i'w gilydd, yn wynebu sylwadau difrïol gan dimau sy'n chwarae yn eu herbyn. Er bod y gynghrair yn tueddu i ymdrin â'r cwynion hyn yn gyflym, mae'n rhaid inni ddeall bod gennym lawer o waith i'w wneud o hyd, yn anffodus, i fynd i'r afael â homoffobia, yn union fel hiliaeth, ym myd chwaraeon, yn enwedig mewn pêl-droed.
Felly, mae Dreigiau Caerdydd yn cynnal trafodaethau gyda Dinas Caerdydd i sefydlu rhwydwaith cefnogwyr LHDT Dinas Caerdydd ac maent yn gobeithio ei lansio ym mis Chwefror y flwyddyn nesaf i gyd-fynd â Mis Pêl-droed v Homoffobia, a byddaf wrth fy modd yn cefnogi hwnnw.
Nid oes gan dîm Cymru rwydwaith cefnogwyr LHDT ar hyn o bryd ychwaith, felly mae'r rhain yn fentrau pwysig i normaleiddio parch at wahaniaeth ym myd chwaraeon, sy'n un o'r meysydd lle mae pobl yn teimlo y gallant ddechrau lleisio eu rhagfarn.
Mae'n rhaid i ni fod yn wyliadwrus ac yn anoddefgar o homoffobia a hiliaeth mewn chwaraeon drwy'r amser. Mae'n rhaid inni sicrhau y galluogir y genhedlaeth nesaf i wrthsefyll y rhagfarnau etifeddol a ymgorfforwyd mewn cyfraith yn y gorffennol. Ac mae adran 28 eisoes wedi cael ei chrybwyll fel cyfnod gwirioneddol gywilyddus yn ein hanes. Gallaf gofio, dros ddegawd ar ôl dad-droseddoli, fod fy ewythr fy hun wedi bod mewn helynt gyda'r gyfraith sawl gwaith yn syml oherwydd nad oedd gan blismyn homoffobig unrhyw beth gwell i'w wneud nag aflonyddu ar bobl hoyw a oedd yn cyfarfod yn llechwraidd mewn mannau cyhoeddus yn hytrach na chael yr hyder i gyfarfod yn agored ar yr un telerau â phobl heterorywiol.
A allwch chi ddirwyn i ben, os gwelwch yn dda?
Mae Siân Gwenllian eisoes wedi sôn am bwysigrwydd y cwricwlwm cydberthynas a rhywioldeb, a gobeithiaf y bydd hyn yn arwain at newid sylfaenol o ran sicrhau bod y genhedlaeth nesaf yn deall parch at wahaniaeth a sicrhau nad yw pobl yn cael eu llethu gan eu rhagfarnau, sy'n gallu arwain at broblemau iechyd meddwl gydol oes.
A gaf fi longyfarch Siân Gwenllian am gyflwyno'r ddadl hon ac am ei harwain yn y ffordd y gwnaeth, ac ar ei gwaith yn ei hetholaeth? Roedd gennyf ddiddordeb arbennig yn y stori ynglŷn â'r clwb ieuenctid yno, GISDA.
Fe ddywedodd ar un adeg yn ei haraith mai rhagfarn oedd wrth wraidd y cynnydd. Dywedodd Leanne Wood, a hynny'n gwbl briodol rwy'n credu, fod agweddau cymdeithasol wedi datblygu gryn dipyn yn ystod y degawdau diwethaf. Nid wyf yn gwybod a yw'n iawn dweud mai rhagfarn sydd wrth wraidd y cynnydd, oherwydd mae hynny, i mi, yn awgrymu bod rhagfarn wedi gwaethygu. Nid wyf yn gwybod a yw hynny'n wir yn y tymor byr. Yn sicr, yn y tymor hwy, fy argraff i, fel Leanne, yw bod pethau wedi gwella—yn amlwg, nid yw'n ddigon da ac mae yna broblemau y mae angen inni fynd i'r afael â hwy.
Mae gennym yr ystadegau hyn, ac mae'r ffocws wedi bod ar y rhai yr adroddwyd wrth yr heddlu yn eu cylch a'r ffordd y maent wedi cofnodi'r troseddau, a'r cynnydd o 17 y cant yng Nghymru a'r 10 y cant ar draws Cymru a Lloegr dros y flwyddyn ddiwethaf. Pan fydd rhywun yn rhoi gwybod am drosedd casineb, mae'n bwysig iawn fod yr heddlu'n eu cofnodi mewn ffordd gyson. Tan yn ddiweddar, yn anffodus, dengys tystiolaeth nad yw hynny wedi digwydd, ac mae'n bwysig fod safonau cofnodi troseddau'n cael eu gosod yn ganolog.
Y ffordd y gwneir hyn yw fod rhywun yn rhoi gwybod am ddigwyddiad os yw'n honni bod trosedd wedi'i chyflawni, a chaiff ei gofnodi fel trosedd. Os yw'r person hwnnw, neu unrhyw un arall yn wir, yn dweud eu bod yn ystyried bod hil neu nodwedd warchodedig arall yn ffactor ysgogiadol, yna, unwaith eto, mae'n rhaid ei gofnodi fel trosedd casineb. Rwy'n credu bod hynny'n iawn ac yn briodol, ond mae hefyd yn iawn ein bod yn deall hynny ac yn deall nad oedd hynny'n digwydd mewn modd dibynadwy yn y gorffennol. Ac ni phrofwyd mai dyma oedd pob un o'r achosion hyn o reidrwydd, ac nid ydym wedi clywed gan bobl eraill a oedd yno, na diffynnydd yn arbennig, o ran yr hyn y gallent ei ddweud. Rwy'n credu bod 13 y cant o'r achosion hyn yn arwain at gyhuddiad neu wŷs, sy'n gyfran ychydig yn uwch nag ar gyfer troseddau'n gyffredinol.
Fodd bynnag, credaf mai un dull cywirol defnyddiol yw cymharu ystadegau troseddau a gofnodwyd gan yr heddlu â'r hyn a welwn yn arolwg troseddu Prydain. Mae'r duedd wedi bod yn wahanol yn hwnnw. Ar y materion hyn, mae gennym amrywiadau'r arolwg, ac mae'r cyntaf rwyf am gyfeirio ato yn arolwg 2007 i 2009, ac roedd hwnnw, o'i grosio i fyny o ffigur yr arolwg i'r boblogaeth gyfan, yn awgrymu bod 69,000 o droseddau casineb yn gysylltiedig â chyfeiriadedd rhywiol wedi'u cyflawni ledled y DU. Ac yna, yn 2010-12, disgynnodd y ffigur hwnnw o 69,000 i 42,000 yn arolwg troseddu Prydain, ac yn 2013-15 disgynnodd eto i 29,000. Ceir cynnydd bach yn 2016-18 o 29,000 i 30,000, ond nid yw'n ystadegol arwyddocaol ar sail y niferoedd yn yr arolwg. Ar y troseddau casineb trawsryweddol, nid oeddent yn gofyn y cwestiynau perthnasol yn y ddau arolwg cyntaf. Gwnaethant hynny yn y ddau olaf, ond mae ganddynt ryw fath o ymateb seren, drwy ddweud bod y niferoedd yn rhy fach iddynt allu grosio i fyny'n ddibynadwy a rhoi amcangyfrif ar gyfer y wlad yn ei chyfanrwydd. Mae un drosedd casineb yn ormod, ac mae'r troseddau casineb trawsryweddol hyn—. Yn amlwg, mae pobl drawsryweddol, a nifer y bobl sy'n arddel yr hunaniaeth honno wedi cynyddu, ac mae'n cael ei drafod mewn ffordd nad oedd yn digwydd oddeutu degawd yn ôl. Efallai y bydd pobl yn dadlau ynglŷn â'r trefniadau ar gyfer chwaraeon neu beth yw'r trefniadau ar gyfer tai bach, ond mae'n anfaddeuol pan fydd troseddau'n cael eu cyflawni, a throseddau treisgar yn aml, a hynny'n unig oherwydd, neu o leiaf yn cael eu hysgogi gan hunaniaeth rhywun.
Felly, cytunaf â llawer o'r hyn a ddywedwyd yn y ddadl hon, ond buaswn yn cynnwys yr elfen gywirol honno o edrych ar arolwg troseddu Prydain yn ogystal â'r ystadegau heddlu a gofnodwyd. Pan fyddwch yn cymharu ystadegau'r heddlu ar draws y DU, yn gyffredinol, buaswn yn dweud nad yw heddluoedd Cymru yn y 10 uchaf ar gyfer troseddau casineb, ond mae un eithriad i hynny, a chyfeiriadedd rhywiol yw'r maes hwnnw, lle mae dau o heddluoedd Cymru—Gwent, yn fy rhanbarth i, a de Cymru, sy'n cyffwrdd â rhan o fy rhanbarth—yn bedwerydd ac yn bumed o'r 43, gyda 26 trosedd casineb ar sail cyfeiriadedd rhywiol am bob 100,000. Felly, mae'n bosibl ei fod yn awgrymu bod problem benodol yno yng Nghymru, yn ne Cymru o leiaf, y dylem fod yn boenus yn ei chylch ac y dylem holi pam fod hynny'n digwydd, ac edrych i weld sut y gallwn ei wella, hyd yn oed os nad yw Cymru ar y blaen, yn gyffredinol, mewn perthynas â'r troseddau casineb eraill.
Fe ddywedaf yn syml nad wyf wedi cael fy argyhoeddi eto o'r cyswllt â phwyntiau 2 a 3 yn y cynnig, ac am y rheswm hwnnw nid wyf yn bwriadu cefnogi'r cynnig heddiw. Mae'n anffodus o ran amseru, oherwydd rwy'n edrych ymlaen yn fawr at glywed yr Arglwydd Thomas yfory; rwy'n credu ei fod yn lansio'i adroddiad comisiynydd ar y Comisiwn ar Gyfiawnder yng Nghymru am 8:30 yfory yn y Pierhead. Rwy'n gobeithio gweld rhai o fy nghyd-Aelodau yno, ac rwy'n awyddus iawn i wrando, darllen ac ystyried yr adroddiad hwnnw cyn ystyried ein safbwynt ar ddatganoli cyfiawnder. Nid ydym wedi ein darbwyllo ynglŷn â hynny eto; yn benodol, buaswn yn poeni pe baem yn mynd o gomisiynwyr heddlu a throseddu sydd wedi'u hethol i heddlu ar gyfer Cymru gyfan yn sgil hynny. Gwn fod Llywodraeth Cymru yn gwneud rhai pethau da mewn rhai meysydd yma, ond nid yw hynny ynddo'i hun yn rheswm digonol dros ddatganoli cyfiawnder yn ei gyfanrwydd yn fy marn i, ond fe fyddaf yn darllen yr hyn a ddywed yr Arglwydd Thomas a'i dîm yfory yn ofalus iawn. Diolch.
Diolch, Lywydd, ac rwy'n falch iawn o gael siarad yn y ddadl hon. Mae llinell enwog yn y ffilm Network, a ddaeth allan yn 1976: 'I'm mad as hell and I'm not going to take it anymore'. Onid yw'n ddatganiad am ein cyfnod ni? Cymaint o ddicter, yn enwedig gan y rhyfelwyr bysellfwrdd ar-lein. Ond ar yr un pryd, nid yw pobl yn barod i'w ddioddef mwyach. Mae dioddefwyr camdriniaeth yn rhoi gwybod am droseddau, a'r nifer uchaf erioed yn adrodd am droliau a bwlis. Felly, dyna pam y mae'n rhaid i ni annog a chefnogi'r mecanweithiau adrodd, fel y mae Llywodraeth Cymru yn ei wneud drwy'r Ganolfan Genedlaethol Adrodd am Droseddau Casineb a Chymorth, yn ogystal â'r grant cymunedau lleiafrifol i fynd i'r afael â throseddau casineb.
Mae ystadegau'r heddlu ar gyfer y flwyddyn ddiwethaf yn dangos cynnydd o 17 y cant yn y troseddau casineb yr adroddwyd yn eu cylch yng Nghymru o gymharu â'r flwyddyn flaenorol. Heddiw, rydym yn canolbwyntio ar droseddau yn erbyn y gymuned LHDT ac fel y dywedwyd eisoes, dyna yw bron i chwarter yr holl droseddau a gofnodwyd. Mae elusen Stonewall yn dweud nad yw hyn ond yn crafu'r wyneb, ac yn ôl eu hymchwil, ni roddir gwybod am bedair o bob pum trosedd casineb gwrth-LHDT, ac mae pobl iau yn arbennig o gyndyn i fynd at yr heddlu. Felly, mae'n ymddangos ei bod yn amhosibl mynd i'r afael â'r broblem hollbresennol hon drwy'r system cyfiawnder troseddol yn unig. Problem cymdeithas yw hi ac mae'n mynnu atebion cymdeithasol.
Fis nesaf, byddaf yn trefnu cyfres o ddigwyddiadau ymgyrch y Rhuban Gwyn i godi ymwybyddiaeth o gam-drin domestig, a'r ffocws mawr i mi yw ymgysylltu â phobl ifanc drwy gysylltu hynny â chydberthynas iach sy'n cael ei addysgu yn yr ysgol. Yr unig ofnau y cawn ein geni â hwy yw ofn uchder ac ofn synau uchel. Mae popeth arall yn ymddygiad a ddysgir. Mewn geiriau eraill, mae plant yn gynhenid oddefgar. Ni, yr oedolion, yw'r broblem a bod yn onest. Gyda chyfryngau cymdeithasol mor ganolog i'w bywydau heddiw, efallai bod pobl ifanc yn fwy agored na neb i gael eu beirniadu am bwy ydynt, beth maent yn ei gredu a phwy maent yn eu caru. Dyna pam fod rhaid inni amddiffyn gwersi LHDT-gynhwysol yn awr yn fwy nag erioed. Gwelsom ar y newyddion sut yr ymosodwyd ar ysgolion yn Birmingham sy'n ceisio dysgu'r rhaglen No Outsiders, a hynny am resymau crefyddol honedig. Mae'n drist gweld oedolion yn pregethu rhagfarn y tu allan i gatiau ysgol. Mae'n fy atgoffa o'r lluniau hyll o Birmingham arall—Birmingham, Alabama yn y 1960au. Roedd hwnnw'n fath gwahanol o ragfarn, ond câi ei yrru gan yr un culni meddwl. Rwy'n gobeithio felly y bydd Llywodraeth Cymru yn cefnogi ein hysgolion a'n hawdurdodau addysg i'r eithaf yn erbyn ymgyrchoedd o'r fath, pe baent yn digwydd yng Nghymru.
Diolch. A gaf fi alw yn awr ar y Dirprwy Weinidog a'r Prif Chwip, Jane Hutt?
Diolch, Ddirprwy Lywydd. Hoffwn ddechrau drwy ddiolch i'r Aelodau am gyflwyno'r ddadl hon heddiw, dadl a groesewir gan Lywodraeth Cymru. Mae'n cyfrannu at ein hymgyrch i sicrhau mwy o gydraddoldeb a chynhwysiant i holl bobl Cymru. Nid oes lle i anoddefgarwch, iaith casineb ac achosion o droseddau casineb yn ein cymdeithas. Rydym yn benderfynol o'u chwynnu, ac mae'r ddadl heddiw wedi dangos pa mor gryf yw'r teimladau ar y pwyntiau hynny ar draws y Siambr. Mae pob math o drosedd casineb yn annerbyniol. Rwyf wedi ysgrifennu at yr Ysgrifennydd Cartref i annog Llywodraeth y DU i gydnabod bod troseddau casineb a ysgogir gan elyniaeth ar sail cyfeiriadedd rhywiol yn cael eu cydnabod fel troseddau gwaethygedig, yn unol â throseddau casineb ar sail hil a ffydd, ac yn ogystal, byddaf yn ysgrifennu at yr Ysgrifennydd Cartref i annog Llywodraeth y DU i gydnabod bod troseddau casineb a ysgogir gan elyniaeth ar sail hunaniaeth drawsryweddol ac anabledd yn droseddau gwaethygedig hefyd.
A wnaiff y Gweinidog dderbyn ymyriad? Rwy'n falch iawn o'ch clywed yn dweud y byddwch yn cyflwyno'r sylwadau hynny. Wrth gwrs, un o'r nodweddion gwarchodedig lle nad yw trais yn erbyn y rhai sydd â'r nodwedd warchodedig honno'n cael ei drin fel trosedd casineb yw trais yn erbyn menywod. A ydych yn credu y gall fod yna achos? Ni fuaswn yn gofyn i chi ohirio—buaswn yn gofyn i chi ystyried gweithredu ar y lleill—ond hoffwn ofyn i chi ystyried a yw'r amser wedi dod i drin trais yn erbyn menywod fel trosedd casineb yn ogystal, oherwydd, wedi'r cyfan, mae gwreig-gasineb yn un o'r rhagfarnau dyfnaf a mwyaf gwreiddiedig yn ein cymdeithas heddiw.
Ie. Wel, rwy'n ddiolchgar i Helen Mary Jones am godi'r pwynt hwnnw. Wrth gwrs, mae yna ryngweithiad, ac rwy'n credu bod y ffaith bod troseddau casineb—. Mae hyn wedi'i godi heddiw. Mae croestoriad wedi bod yn broblem arbennig hefyd. Er enghraifft, gallai person anabl fod wedi profi trosedd casineb a thrais hefyd, ac mae angen i bob un o'r nodweddion gwarchodedig fod yn gymwys o ran adnabod troseddau casineb a gyflawnir ar sail sawl nodwedd warchodedig.
Ond mae'n rhaid i ni gydnabod ein bod, yr wythnos ddiwethaf, wedi gweld cynnydd siomedig mewn troseddau casineb. Mae'r ystadegau a gyhoeddwyd gan y Swyddfa Gartref, fel y dywedodd Siân Gwenllian, yn dangos cynnydd o 17 y cant yn nifer y troseddau casineb a gofnodwyd ledled Cymru o'i gymharu â 2017-18, ac o'r 3,932 o droseddau casineb a gofnodwyd ar draws pedair ardal heddlu Cymru, roedd 19 y cant ohonynt yn droseddau casineb ar sail cyfeiriadedd rhywiol ac roedd 3 y cant ohonynt yn droseddau casineb ar sail trawsrywedd, ac er nad yw troseddau casineb sy'n gysylltiedig ag unigolion LHDT+ ond oddeutu 22 y cant o'r troseddau hyn, mae'n ymddangos bod y ffigur hwn yn cynyddu. Rydym wedi gwneud cryn dipyn o waith i gynyddu ymwybyddiaeth o droseddau casineb ac i annog dioddefwyr i roi gwybod amdanynt, felly mae'r cynnydd yn debygol o fod yn rhannol oherwydd bod cyfraddau adrodd wedi gwella, ond mae'r ystadegau hyn yn ein hatgoffa sut y mae angen feddwl beth arall y gellir ei wneud—ac mae'n rhaid sicrhau mai dyna yw canlyniad y ddadl hon—sicrhau nad oes neb yn cael eu targedu oherwydd eu hunaniaeth. Felly, mae'r heddluoedd ledled Cymru hefyd wedi gweithio'n galed i sicrhau eu bod yn nodi ysgogiadau i droseddau casineb yn gywir, ac mae'n bosibl fod hyn yn achosi rhywfaint o'r cynnydd ymddangosiadol yn nifer y troseddau casineb a gofnodwyd, ond mae angen inni gofio, fel y dywedodd Nick Ramsay, fod yna unigolyn â stori am elyniaeth neu drawma y tu ôl i bob ystadegyn. Gan weithio gyda'r pedwar heddlu yng Nghymru a'r bwrdd cyfiawnder troseddol ar gyfer troseddau casineb, mae gennym systemau cadarn ar waith i ymchwilio i droseddau casineb, cefnogi dioddefwyr a sicrhau bod troseddwyr yn cael eu dwyn i gyfrif. Ond mae'n rhaid i ni adolygu effeithiolrwydd y systemau hynny hefyd.
Drwy gronfa bontio'r UE, rydym yn darparu £360,000 ychwanegol dros y ddwy flynedd nesaf i'r ganolfan genedlaethol adrodd am droseddau casineb a chymorth, sy'n cael ei rhedeg gan Cymorth i Ddioddefwyr Cymru. Mae hynny'n bwysig, fel y dywedodd Joyce Watson, ac mae hefyd yn ymwneud â sut rydym yn mynd i'r afael â hyn, gan godi ymwybyddiaeth a chefnogi dioddefwyr. Bydd yr arian cael ei ddefnyddio i hyfforddi gwirfoddolwyr a chodi ymwybyddiaeth o sut i adrodd am droseddau casineb. Ymwelais â'r ganolfan yr wythnos ddiwethaf, ynghyd â sefydliadau megis Stonewall Cymru a Pride, pan fuom yn edrych ar sut y gallem sicrhau, cefnogi a chynghori'r ganolfan genedlaethol adrodd am droseddau casineb a chymorth mewn perthynas â'r materion dan sylw a bellach, gallwn ymestyn eu gwasanaethau gyda'r cyllid hwn.
Mae cefnogi dioddefwyr yn hanfodol, ond mae angen i ni atal agweddau cas rhag ffurfio yn y lle cyntaf. Felly, dyna pam rydym hefyd, drwy gyllid pontio'r UE, yn darparu £350,000 i Gymdeithas Llywodraeth Leol Cymru ar gyfer y prosiect troseddau casineb mewn ysgolion. Mae'r prosiect hwn wedi'i gynllunio i annog plant i ddatblygu eu sgiliau meddwl beirniadol, i gwestiynu siarad ac ymddygiad cas, a'u darbwyllo i beidio â chyflawni troseddau casineb yn y dyfodol. Felly, bydd gweithgareddau'n arfogi staff â'r sgiliau i herio troseddau casineb a chefnogi dioddefwyr yn yr ysgol. A thrwy hyn a'r gwaith ehangach ar y cwricwlwm newydd, sydd eisoes wedi'i grybwyll, ein nod yw cefnogi staff addysgu i sicrhau bod ysgolion yn meithrin dinasyddion egwyddorol, gwybodus sy'n cyfrannu at gymdeithas fwy cydlynus.
Rydym yn datblygu ymgyrch gyfathrebu ar droseddau casineb drwy Gymru gyfan. Rydym yn casglu barn pobl yr effeithiwyd arnynt gan droseddau casineb i helpu i lunio'r ymgyrch. Ond rwyf hefyd yn falch ein bod wedi gweld cynnydd mewn grwpiau myfyrwyr LHDT+ mewn llawer o'n hysgolion. Fe sonioch chi am Ysgol Teilo Sant, Jenny Rathbone, y grŵp yn yr ysgol, ac mae yna gyrff a arweinir gan fyfyrwyr sy'n cael effaith gadarnhaol ar eu cymunedau ysgol ac ar agweddau a gwerthoedd cenedlaethau'r dyfodol o ddinasyddion Cymru.
Cyfarfûm â phrosiect GISDA yng ngogledd Cymru yn ddiweddar. Rwy'n arswydo wrth glywed am yr ymosodiadau a'r agweddau y mae'r bobl ifanc hynny wedi'u hwynebu'n ddyddiol. Codais hyn ar unwaith gyda Heddlu Gogledd Cymru ac asiantaethau diogelwch cymunedol, ac rwy'n credu bod cymorth ar gael bellach.
Ond mae angen i ni wneud popeth yn ein gallu i hybu hawliau pobl LHDT drwy bolisïau, cyllid a chefnogaeth weladwy. Gellid gwneud hyn hefyd drwy'r digwyddiadau rydym yn eu cynnal drwy gydol y flwyddyn—digwyddiadau Pride. Yn wir, ym mis Medi, cefais y fraint o agor digwyddiad Pride y Barri cyntaf erioed, ac mae digwyddiadau Pride yn digwydd mewn trefi ledled Cymru. Y Prif Weinidog a arweiniodd orymdaith Pride Cymru yng Nghaerdydd. Maent yn codi ymwybyddiaeth o gydraddoldeb ac amrywiaeth yn y ffordd fwyaf amlwg, ac fe wnaethom ddarparu £21,000 i Pride Cymru ar gyfer y digwyddiad eleni.
Credaf ei bod yn bwysig fod yr arian rydym yn ei roi i Stonewall Cymru, arian a roesom yn 2017 ar gyfer y grant cydraddoldeb a chynhwysiant, yn cynnwys penodi swyddog ieuenctid addysg newydd i weithio mewn ysgolion ledled Cymru, gan ddatblygu eu rhaglen modelau rôl mewn ysgolion. A bydd y modelau rôl hynny'n ymweld ag ysgolion ledled Cymru i adrodd eu straeon a chodi ymwybyddiaeth o brofiad pobl LHDT. Ond mae ganddynt hefyd gyllid penodol ar gyfer swyddog ymgysylltu traws.
Felly, drwy waith atal ymyrraeth gynnar, drwy ein rhaglen cydlyniant cymunedol—£1.52 miliwn dros y ddwy flynedd nesaf—yn cefnogi timau bach ym mhob un o'r wyth rhanbarth cydlyniant cymunedol yng Nghymru y gallwn wella a dwysáu ein gwaith ataliol. Ac rwy'n gobeithio, hefyd, y gallwn weithio gyda'n gilydd, nid yn unig fel Llywodraeth Cymru, awdurdodau lleol, y trydydd sector, gyda'r bwrdd cyfiawnder troseddol ar gyfer troseddau casineb, ond mae'n rhaid iddo fod gyda Llywodraeth y DU hefyd.
Felly, rydym yn edrych ymlaen at weld adroddiad comisiynydd yr Arglwydd Thomas pan gaiff ei gyhoeddi yfory. Byddwn yn edrych yn ofalus ar yr argymhellion hynny ac yn gweld beth arall y gallwn ei wneud i wella canlyniadau cyfiawnder. Ond rwy'n gobeithio y bydd yr ystyriaeth a roddwyd i faterion ehangach yn llywio ein hystyriaeth ynglŷn â sut y gallwn fynd i'r afael â throseddau casineb LHDT+ yn well. Rydym angen system gyfiawnder sy'n gweithio i Gymru, sy'n gyson â'n hysgogiadau polisi a'n hymrwymiad.
Felly, i gloi, hoffwn ailadrodd ein bod wedi ymrwymo i greu cymdeithas lle caiff amrywiaeth ei gwerthfawrogi a'i pharchu a lle gall pawb ffynnu. Rwyf eisiau cael dadl ar droseddau casineb yn y Llywodraeth y flwyddyn nesaf i ddarparu'r adroddiad cynnydd hwnnw y galwasoch amdano a sicrhau y gallwn gael ein dwyn i gyfrif am y gwaith a wnawn i symud ymlaen ar hyn.
Diolch. A gaf fi alw yn awr ar Mick Antoniw i ymateb i'r ddadl?
Diolch, Ddirprwy Lywydd. Yn gyntaf, rwyf am ddechrau drwy ddiolch i Siân Gwenllian am gyflwyno ac am agor y ddadl hon—rwy'n credu ei bod yn ddadl amserol iawn. Mae gan Siân, wrth gwrs, hanes hir o ymgyrchu ar y materion hyn, fel cryn dipyn o bobl yn y Siambr hon, felly roedd yn braf gweld y rhain yn dod at ei gilydd ar gyfer y ddadl hon heddiw.
Nid wyf yn bwriadu crynhoi'r hyn y mae pawb wedi'i ddweud, fel sydd weithiau'n draddodiadol gyda'r rhain, oherwydd mae'r pwyntiau wedi cael eu gwneud mor rymus; mae'r ystadegau yno. Felly, roeddwn yn meddwl y gallai fod yn gyfle i feddwl o ble rydym wedi dod mewn gwirionedd, oherwydd yn sicr bydd y rheini o fy nghenhedlaeth i, ac unrhyw un a fynychodd yr ysgol ar ddiwedd y 1950au a dechrau'r 1960au, yn gwybod fod hiliaeth, homoffobia a gwrthsemitiaeth yn rhan o ddiwylliant ysgolion. Mae'r newidiadau gwirioneddol sydd wedi digwydd drwy'r 1960au, yr 1970au, y 1980au hyd heddiw yn eithaf syfrdanol ac rwy'n credu ei bod yn bwysig eu cydnabod, oherwydd wrth gydnabod y rheini, rydym hefyd yn gallu nodi beth yw'r heriau sy'n dal i fodoli.
Cofiaf pan oeddwn yn fyfyriwr, pan ffurfiwyd Undeb Cenedlaethol Myfyrwyr Cymru, roeddent yn un o'r cyrff a aeth dros y baricedau gyntaf, mewn gwirionedd, er mwyn bwrw iddi â'r ymgyrch dros hawliau hoywon bryd hynny, rhywbeth nad oedd yn boblogaidd. Nid oedd yn ymgyrch gysurus y byddai pobl yn bwrw iddi gyda breichiau agored. Ond credaf fod pobl ifanc a oedd yn tyfu i fyny yn y 1970au yn teimlo ei bod yn ymgyrch angenrheidiol roedd yn rhaid ei hymladd; roedd yn rhan o'r newid yn y gymdeithas. Ac yng Nghymru, a dweud y gwir, y sefydliadau cenedlaethol Cymreig a gynhyrchodd, rwy'n credu, y cyfieithiad Cymraeg cyntaf o'r ymgyrch—'ymgyrch hawliau hoyw'—gan ddosbarthu bathodynnau yn Eisteddfod 1976 neu 1977. Ac roedd yn ddiddorol iawn gweld yr holl bobl hyn yn mynd o gwmpas yn credu eu bod yn cefnogi ymgyrch hapus, ond fe agorodd y drws ac roedd yn gam cyntaf i wynebu'r rhagfarn ddiwylliannol gynhenid a fodolai mewn cymaint o gymunedau ac yn y cenedlaethau hynny.
Wrth gwrs, mae hefyd yn bwysig cydnabod o ble rydym wedi dod o ran nifer y bobl a gafodd eu herlyn a'u carcharu mewn gwirionedd, oherwydd eu cyfeiriadedd rhywiol cyn i'r cyfreithiau gael eu newid. Yn 1945, erlynwyd 800 o ddynion, oherwydd câi ei ystyried yn drosedd wrywaidd. Yn 1955, erlynwyd 2,500, ac fe gafodd 700 eu carcharu. Felly, arwyddocâd gwirioneddol yr hyn a gâi ei wneud yn y 1950au gan arweinwyr fel Bertrand Russell, Clem Attlee ac Isaiah Berlin i gyflwyno'r cysyniad o ddiwygio'r gyfraith, mewn gwirionedd, ac i herio'r rheini—. Mae'n eithaf trist ein bod weithiau'n gorfod gwneud iawn am gynifer o anghyfiawnderau yn ein cymdeithas ar ôl marw'r rhai a gafodd gam. Felly yn achos Alan Turing, pan wnaeth Gordon Brown ymddiheuro am hynny, gyda chefnogaeth David Cameron ar y pryd. Mae cynifer o'r materion hyn yn rhai y mae'n rhaid inni ymdrin â hwy yn y ffordd honno, ar ôl i bobl farw. A byddai'r syniad o sbaddu cemegol fel triniaeth arferol ar gyfer trosedd yn rhywbeth y byddem yn ei ystyried yn ffasgaidd.
Wrth gwrs, rydym wedi byw drwy ymgyrch yr 1980au, ymgyrch adran 28, lle cafodd grymoedd Ceidwadol eu cynnull i ailsefydlu'r normau o gyfyngu ar hawliau hoyw, ac ymgyrch i frwydro yn erbyn y rheini mewn gwirionedd. Ac yna'r camau i ostwng yr oedran cydsynio o 21 i 18, sef, mewn gwirionedd, yr ymgyrch i'w ostwng i 16, ond wrth gwrs, oherwydd y gwrthwynebiadau, 18 oed yn unig ydoedd ar y pryd. Rwy'n credu bod pawb wedi rhyfeddu bryd hynny, eto, at y cam mawr ymlaen o ran deddfwriaeth, sef Deddf Partneriaeth Sifil 2004, a agorodd y drws go iawn yn fy marn i.
Ond ni allwn anwybyddu'r ffaith bod rhagfarn a chasineb yn cynyddu'n sylweddol, rhagfarn a oedd efallai o dan yr wyneb ac sydd bellach yn ailymddangos gyda'r gwenwyn sy'n bodoli yn ein gwleidyddiaeth, nid yn unig yng Nghymru neu'r DU, ond ar draws Ewrop ac yn rhyngwladol. Caiff ei hybu'n rhannol gan dwf yr asgell dde eithafol, ac yn rhannol gan anghydraddoldeb. Os edrychwch ar y sefyllfa y mae pobl hoyw yn ei hwynebu yn Rwsia Putin yn awr, yr erledigaeth gorfforol go iawn sy'n dal i fodoli, ac fel Llywodraethau, rydym yn ymdrin â'r bobl hyn, felly mae angen i'n moeseg ryngwladol newid i fynd i'r afael â hyn o ddifrif, yn hytrach na'r hyn sy'n digwydd yn rhyngwladol i bob pwrpas, sef troi llygad dall i'r digwyddiadau anfoesegol hynny.
Cefais fy nghalonogi—gwn mai anaml y gallaf wneud araith heb sôn am Ukrain oherwydd fy nghefndir—wrth weld eu bod wedi cynnal gorymdaith Pride am y tro cyntaf yn Kyiv, lle na chafwyd unrhyw ddigwyddiadau ac ymunodd gwleidyddion â hi. Credaf ei bod yn bwysig cymharu'r hyn sy'n digwydd yno â'r hyn sy'n digwydd ym Moscow, oherwydd rydym yn byw yn y byd global hwn, ond eto ceir 73 o wledydd lle mae bod yn hoyw yn anghyfreithlon o hyd. Felly, ni fyddaf yn mynd drwy'r datganiadau ar hynny, ond mae'n amlwg fod problemau mawr yn ein cymunedau o ran addysg rhyw, hyfforddiant a'r rôl y mae hynny'n ei chwarae mewn gwirionedd. Ac rwy'n credu ein bod i gyd yn dal i wybod bod yna ffordd eithriadol o bell i fynd, ac isgerrynt.
Ychydig yn ôl, yn ystod un o'r ymgyrchoedd etholiadol, cefais alwad ffôn gan rywun yn fy lobïo i ofyn beth oeddem yn bwriadu ei wneud am anlladrwydd cyfunrhywiaeth a oedd yn cael ei ddysgu yn ein hysgolion. Yr unig ffordd y credwn y gallwn ymateb oedd drwy ddweud, 'Wel, mae fy mab yn hoyw, beth ydych chi'n awgrymu y dylwn ei ddweud wrtho?' a rhoddodd y ffôn i lawr. Ond mae yna isgerrynt sy'n gwneud i bobl deimlo'n fwy parod i siarad yn y ffordd honno, ac rwy'n credu bod cysylltiadau rhwng y mathau o ragfarn a hiliaeth a chasineb sydd wedi dod i'r amlwg.
A gaf fi ddweud hefyd—? Yn fy hen swydd, yn gweithio fel cyfreithiwr i undeb llafur, gwnaeth cynrychiolwyr undebau llafur a chynrychiolwyr pobl hoyw yn ein hundebau llafur lawer o waith i roi llais a chynrychiolaeth. Ni wnaf byth anghofio un cynrychiolydd roeddwn yn siarad ag ef ac yn rhoi cyngor iddo ar rywbeth yn dweud wrthyf yn rhinwedd ei swydd fel cynrychiolydd nad oedd ei rieni wedi siarad ag ef ers iddo ddatgan ei fod yn hoyw, ac mae yna bobl felly yn bodoli o hyd, pobl nad oes ganddynt y mathau hynny o gysylltiadau teuluol mwyach.
Yn ddiweddar, clywsom am yr ymosodiad ar Owen Jones, y newyddiadurwr, a oedd yn amlwg yn ymosodiad heb ei gymell arno am ei fod yn hoyw, ac oherwydd ei safbwyntiau agored. Felly, rwy'n croesawu'n fawr pa mor bell rydym wedi dod, ond mae'n bwysig deall pa mor bell sydd gennym i fynd o hyd. Felly, rwy'n edrych ymlaen yn fawr at yr hyn y bydd yr Arglwydd Thomas yn ei ddweud yfory, oherwydd y peth allweddol am ddatganoli a'r system gyfreithiol—nid yw'n ymwneud â chyfraith er mwyn y gyfraith, mae'n ymwneud â sicrhau bod cyfreithiau yno i alluogi polisi i weithio, i gael ei weithredu a'i orfodi, ac mae'n ymwneud â chreu'r fframwaith hwnnw.
Rwy'n croesawu'r holl areithiau a wnaed heddiw. Rwyf am ganolbwyntio ar gwpl ohonynt, oherwydd roeddwn yn credu bod Joyce—
Na, na, rwy'n credu y bydd yn rhaid i chi fod yn gyflym.
Fe ddof i ben yn awr. Mae Joyce Watson wedi gwneud cwpl o bwyntiau pwysig iawn: effaith y cyfryngau cymdeithasol, pwysigrwydd mecanweithiau adrodd, y pwyntiau a wnaed gan Stonewall ynglŷn â'r ffaith nad yw hyn ond yn crafu'r wyneb ac er enghraifft, yr hyn sydd wedi bod yn digwydd yn Birmingham a'r gwersi y mae'n rhaid inni fod yn ymwybodol ohonynt a dysgu oddi wrth hynny. Ac i groesawu'n fawr iawn yr hyn y mae'r Gweinidog wedi'i ddweud o ran ariannu, yr adroddiadau a'r ymgyrchoedd. Ond fel y mae hen Undeb Cenedlaethol y Glowyr wedi'i ddweud erioed, pris rhyddid yw gwyliadwriaeth dragwyddol, ac mae angen inni fod yn wyliadwrus yn y maes hwn fel mewn cynifer o feysydd eraill yn ystod yr adeg a'r sefyllfa wleidyddol wenwynig ac anodd iawn rydym yn byw ynddi. Diolch.
Diolch. Y cynnig yw derbyn y cynnig. A oes unrhyw Aelod yn gwrthwynebu? Na, felly, derbyniwyd y cynnig yn unol â Rheol Sefydlog 12.36.