6. Dadl ar Adroddiad y Pwyllgor Plant, Pobl Ifanc ac Addysg: Cyllido Ysgolion yng Nghymru

Part of the debate – Senedd Cymru am 4:29 pm ar 23 Hydref 2019.

Danfonwch hysbysiad imi am ddadleuon fel hyn

Photo of Lynne Neagle Lynne Neagle Labour 4:29, 23 Hydref 2019

(Cyfieithwyd)

Diolch yn fawr, Ddirprwy Lywydd. Rwy'n falch o gael agor y ddadl hon heddiw ar adroddiad y Pwyllgor Plant, Pobl Ifanc ac Addysg ar gyllido ysgolion yng Nghymru. Mae mynediad at addysg o ansawdd uchel yn hawl sylfaenol i'n plant a'n pobl ifanc i gyd. Ni ddylai ddibynnu ar ble rydych yn byw, eich cefndir cymdeithasol na'r iaith rydych yn dysgu ynddi.