– Senedd Cymru am 4:29 pm ar 23 Hydref 2019.
Symudwn ymlaen yn awr at y ddadl ar adroddiad y Pwyllgor Plant, Pobl Ifanc ac Addysg, 'Cyllido Ysgolion yng Nghymru', a galwaf ar Gadeirydd y pwyllgor i gyflwyno'r cynnig. Lynne Neagle.
Diolch yn fawr, Ddirprwy Lywydd. Rwy'n falch o gael agor y ddadl hon heddiw ar adroddiad y Pwyllgor Plant, Pobl Ifanc ac Addysg ar gyllido ysgolion yng Nghymru. Mae mynediad at addysg o ansawdd uchel yn hawl sylfaenol i'n plant a'n pobl ifanc i gyd. Ni ddylai ddibynnu ar ble rydych yn byw, eich cefndir cymdeithasol na'r iaith rydych yn dysgu ynddi.
Addysg dda yw un o'r blociau adeiladu pwysicaf y gall plentyn ei gael. Fodd bynnag, yn llawer rhy aml clywn am y pwysau enfawr y mae ysgolion yn ei wynebu wrth geisio rheoli eu cyllidebau lle nad yw'r cyllid a gânt yn ddigonol. Mae hyn yn amlwg yn cael effaith negyddol ar ddarpariaeth addysg, gan gynnwys ysgolion yn gorfod cwtogi ar nifer y staff er mwyn mantoli eu cyllidebau.
Roedd cwestiynau wedi codi hefyd ynghylch lefel y tryloywder a'r amrywiad o ran dosbarthiad cyllid i ysgolion a bu dadlau ynghylch y cydbwysedd rhwng cyllid heb ei neilltuo ar gyfer llywodraeth leol a'r arian sydd wedi'i dargedu'n fwy penodol tuag at flaenoriaethau addysg Llywodraeth Cymru. Yn fwy diweddar, clywsom fod pryder cyffredinol y byddai cyllidebau annigonol i ysgolion yn llesteirio'r gwaith o gyflawni agenda diwygio addysg Llywodraeth Cymru.
Mae lefel enfawr a digynsail o ddiwygio'n digwydd ym maes addysg. Mae gennym gwricwlwm newydd radical ar gyfer Cymru, Deddf anghenion dysgu ychwanegol bwysig newydd, cyflwyno dull ysgol gyfan o ymdrin ag iechyd meddwl a diwygiadau pellgyrhaeddol i ddysgu proffesiynol yn sail i'r cyfan. Ni allwn ddisgwyl i'r diwygiadau pwysig hyn lwyddo heb gyllid digonol.
Yng ngoleuni hyn, cytunodd y pwyllgor i gynnal yr ymchwiliad er mwyn edrych yn benodol ar ddigonolrwydd cyllid ysgolion yng Nghymru a'r ffordd y caiff cyllidebau ysgolion eu pennu a'u dyrannu. Wrth fwrw ymlaen â'r ymchwiliad, clywsom dystiolaeth gan amrywiaeth eang o randdeiliaid ar draws y sector. Aethom ati hefyd i gynnal astudiaethau achos manwl gyda thair ysgol, lle cyfarfuom â phobl ar bob lefel—disgyblion a rhieni, athrawon ac arweinwyr ysgol, awdurdodau lleol a llywodraethwyr ysgol. Roedd yr hyn a glywsom yn y tair ysgol yn ddidostur iawn, ac ar brydiau, yn frawychus. Roedd gweld effaith cyfyngiadau cyllidebol ar y rhai ar y rheng flaen yn uniongyrchol yn dangos pa mor bwysig yw hi i fynd i'r afael â'r sefyllfa hon. Hoffwn ddiolch i bawb a roddodd o'u hamser i gyfarfod â ni yn ystod yr astudiaethau achos, ac am eu barn onest am y problemau a wynebir.
Gwnaeth y pwyllgor gyfanswm o 21 o argymhellion, yn cwmpasu ystod eang o faterion. Yn yr amser sydd ar gael heddiw, ni allaf ymdrin â'n holl argymhellion. Fodd bynnag, fe amlinellaf rai o'r prif bryderon a godwyd. Rydym yn falch bod y Gweinidog Addysg wedi derbyn yr holl argymhellion yn ein hadroddiad a'r croeso cyffredinol y mae wedi'i roi i waith y pwyllgor yn y maes allweddol hwn. Mae'n peri pryder, serch hynny, nad yw ymateb y Gweinidog yn cynnwys manylion clir ynglŷn â sut y gweithredir nifer o'r argymhellion. Ac rwy'n gobeithio y bydd y Gweinidog yn gallu ymhelaethu ar ei hymateb yn ystod y ddadl heddiw ar nifer o'r argymhellion allweddol hynny.
Wrth amlinellu canfyddiadau'r ymchwiliad, hoffwn ddechrau gyda'r casgliad mwyaf pryderus y daethom iddo fel pwyllgor, a lle roedd y dystiolaeth a gafwyd yn ysgubol. Yn syml iawn, nid oes digon o arian yn mynd i mewn i'r system addysg yng Nghymru ac nid oes digon yn cyrraedd yr ysgolion. Gwelsom hyn yn uniongyrchol yn ystod ein hymweliadau ag ysgolion. Fel rydym wedi'i amlinellu yn yr adroddiad, casgliad syml yw hwn nad oes iddo ateb syml, gwaetha'r modd. Mae'r system ar gyfer ariannu ysgolion yn hynod gymhleth, yn amlhaenog ac yn ddibynnol ar lawer o ffactorau, nid yn lleiaf wrth gwrs y swm o arian sydd ar gael i Lywodraeth Cymru o San Steffan. Rhaid cydnabod hefyd fod y cyfrifoldeb am ddarparu cyllid digonol ar gyfer ein hysgolion yn torri ar draws portffolios Gweinidogion. O ystyried cymhlethdod y fformiwlâu ariannu, rhaid i Weinidogion ar draws Llywodraeth Cymru weithio gyda'i gilydd i sicrhau bod ysgolion yn cael yr arian sydd ei angen arnynt.
Mae cyllid ychwanegol ar gyfer addysg yn hanfodol—a dychwelaf at y pwynt hwn yn fuan—ond er y byddai wedi bod yn hawdd argymell cyllid ychwanegol, credwn nad cynyddu lefel y cyllid yn unig yw'r ateb. Hefyd, rhaid defnyddio'r cyllid yn effeithiol ac yn y mannau cywir. Er mwyn deall y problemau y mae ein hysgolion yn eu hwynebu yn llawn, mae'n hanfodol inni wybod yn gyntaf beth yw graddau'r bwlch cyllido sy'n wynebu'r system addysg yng Nghymru, yn enwedig ar yr adeg hon o ddiwygio sylweddol. Mae angen inni ddeall faint y mae'n costio i redeg ysgol ac addysgu plentyn, fel isafswm sylfaenol, cyn ystyried yr holl ffactorau angenrheidiol megis amddifadedd a theneurwydd poblogaeth, yn ogystal â'r agenda ddiwygio enfawr.
Mae argymhelliad 1 yn ein hadroddiad yn galw'n glir felly ar Lywodraeth Cymru i gynnal adolygiad brys i sefydlu hyn. Mae ymateb y Gweinidog wedi bod yn gadarnhaol iawn, gan gadarnhau bod Llywodraeth Cymru a llywodraeth leol eisoes wedi dechrau ar y gwaith o ystyried cwmpas yr adolygiad. Edrychaf ymlaen at gael y wybodaeth ddiweddaraf am gamau gweithredu gan y Gweinidog maes o law. A gaf fi ddweud er hynny, beth bynnag fydd canlyniad yr ymchwiliad hwnnw, na ellir ei roi yn y blwch 'rhy anodd', fel sydd wedi digwydd gydag adolygiadau blaenorol ar ariannu ysgolion, megis adolygiad Bramley yn 2007 a'r blynyddoedd dilynol?
I ddychwelyd at fater cyllid ychwanegol, rwy'n siŵr bod yr Aelodau'n ymwybodol fod cyhoeddiadau diweddar am gyllid ar gyfer addysg yn Lloegr wedi arwain at swm canlyniadol o bron £200 miliwn i Gymru. O ystyried bod Llywodraeth Cymru wedi derbyn holl argymhellion adroddiad y pwyllgor, buaswn yn gobeithio y bydd y rhan fwyaf, os nad y cyfan, o hwn yn cael ei glustnodi ar gyfer addysg yng Nghymru.
Fel y nodir yn ein hadroddiad, nid yw'r problemau a wynebir yn ymwneud yn unig â lefel y cyllid i ysgolion, maent yn ymwneud hefyd â'r ffordd y mae'n gwneud ei ffordd i reng flaen yr ysgol a'r modd y'i defnyddir. Mae hyn yn amlwg yn dibynnu ar nifer o ffactorau, gan gynnwys blaenoriaethu'r gyllideb ar lefel Llywodraeth Cymru, sut y caiff adnoddau ar gyfer llywodraeth leol eu rhannu rhwng awdurdodau, a yw awdurdodau lleol yn blaenoriaethu ysgolion o fewn eu proses gyllidebu eu hunain, i ba raddau y maent yn dirprwyo cyllid i'r ysgolion eu hunain, a sut y maent yn dosbarthu'r cyllid hwnnw rhwng ysgolion.
O ystyried cymhlethdod y system, roeddem yn pryderu wrth glywed nad yw Llywodraeth Cymru yn monitro lefel y flaenoriaeth y mae awdurdodau lleol yn ei rhoi i ysgolion wrth ddosbarthu eu cyllid. Mae Llywodraeth Cymru wedi bod yn glir iawn drwy gydol yr ymchwiliad mai awdurdodau lleol sy'n gyfrifol am ddyrannu adnoddau i addysg, ac maent yn atebol yn ddemocrataidd am hyn. Er ein bod yn derbyn y safbwynt hwn, o ystyried cyfrifoldeb cyffredinol Llywodraeth Cymru dros addysg, credwn fod rhaid iddi allu bodloni ei hun fod awdurdodau lleol yn rhoi digon o flaenoriaeth i addysg.
Mae argymhelliad 5 yr adroddiad, felly, yn galw ar Lywodraeth Cymru i fonitro'r gwariant hwn yn fwy manwl, er mwyn sicrhau ei hun fod digon o arian yn cael ei ddarparu i alluogi ysgolion i gyflawni'n effeithiol yr hyn sy'n ofynnol ganddynt: addysg o ansawdd uchel, yn ogystal â gwella a chyflawni'r agenda ddiwygio. Er bod y Gweinidog wedi derbyn yr argymhelliad hwn, nid yw'r manylion yn ei hymateb yn rhoi unrhyw arwydd o sut y bydd Llywodraeth Cymru yn cyflawni'r rôl fonitro ehangach y galwasom amdani. Felly, byddwn yn gofyn am eglurhad pellach gan y Gweinidog ar y mater hwn.
Yn y dystiolaeth a gawsom, roedd dryswch ynglŷn â diben asesiadau wedi'u seilio ar ddangosyddion o fewn y setliad llywodraeth leol. Safbwynt clir Cymdeithas Llywodraeth Leol Cymru a Chymdeithas Cyfarwyddwyr Addysg Cymru oedd nad oes gan asesiadau wedi'u seilio ar ddangosyddion fawr o ddylanwad ar faint a werir ar addysg. Fodd bynnag, dadleuodd undebau'r prifathrawon nad oes fawr o bwynt sefydlu asesiadau wedi'u seilio ar ddangosyddion os nad yw awdurdodau lleol yn eu hystyried. Er ein bod yn derbyn nad yw cyllid ar gyfer Llywodraeth Leol wedi'i glustnodi, credwn fod yn rhaid i Lywodraeth Cymru ddarparu mwy o eglurder ynglŷn â diben asesiadau wedi'u seilio ar ddangosyddion. Er nad ydynt yn rhagnodi faint sy'n rhaid i awdurdod lleol ei wario, onid ydynt o leiaf cymaint ag amcangyfrif Llywodraeth Cymru o faint y dylai fod angen i awdurdod lleol ei wario er mwyn cynnal lefel safonol o wasanaeth? Nid yw hynny'n gwbl glir o ymateb Llywodraeth Cymru i argymhelliad 6.
Lywydd, codwyd llawer o faterion eraill pwysig yn ystod yr ymchwiliad yr hoffwn eu trafod ond ni allaf ymdrin â hwy heddiw. Hoffwn gloi drwy ddweud fy mod yn credu'n wirioneddol mai diffyg cyllid digonol i'n hysgolion yw un o'r problemau mwyaf sy'n wynebu ein gwasanaethau cyhoeddus. I ailadrodd, rwy'n falch iawn fod y Gweinidog wedi cytuno i gomisiynu adolygiad i nodi faint o arian y mae'r system ysgolion yng Nghymru ei angen ac edrychaf ymlaen at wybodaeth bellach am hynny.
Buddsoddi mewn addysg yw'r buddsoddiad ataliol pwysicaf y gall unrhyw Lywodraeth ei wneud. Daeth yn bryd i bawb ohonom weithio gyda'n gilydd, ar draws y pleidiau, ar draws Llywodraeth Cymru a llywodraeth leol, i sicrhau bod ein hysgolion yn cael yr arian sydd ei angen arnynt i ddarparu'r addysg o safon uchel y mae ein holl blant a'n pobl ifanc yn ei haeddu. Diolch yn fawr.
A gaf fi ddiolch i chi, Lynne? Nid wyf yn credu y dylai Llywodraeth Cymru fod wedi synnu'n arbennig at gynnwys yr adroddiad hwn. Mae'r cyllid fesul disgybl ar gyfer ysgolion wedi bod yn wael yn hanesyddol o'i gymharu â gweddill y DU, ac mae'r canlyniadau i'w gweld bellach. Mae athrawon, arweinwyr ysgolion, undebau fel Cymdeithas Genedlaethol y Prifathrawon ac arweinwyr cynghorau wedi bod yn wirioneddol ofnus ynglŷn â pha mor agored yw ysgolion i gwtogi ariannol, a diolch i bob un ohonynt am ddod gerbron y pwyllgor i roi eu tystiolaeth. Ac yn ogystal â'u pryderon am y swm cyffredinol sydd ar gael i ysgolion, mae athrawon ac arweinwyr ysgolion wedi bod yn effro iawn i'r gwahaniaeth gweladwy rhwng cynghorau a pha mor annelwig yw'r rhesymau pam y mae'r gwahaniaethau hynny'n bodoli.
Er gwaethaf y bwlch ariannu hirsefydlog rhwng disgyblion, ymrwymodd y Ceidwadwyr Cymreig i'r adroddiad hwn oherwydd ein bod yn credu bod problem mewn perthynas â chyllid Llywodraeth y DU. Er y gallem fod wedi gwthio'r pwynt amlwg fod Llywodraeth Cymru yn dewis sut y mae'n blaenoriaethu ei gwariant, a'r arian ychwanegol y pen a ddarperir gan y cyllid gwaelodol, mae rhai o'r pryderon hyn yn rhai i'r DU gyfan, felly roedd yn rhaid bod Llundain yn rhannol gyfrifol am ddatrys y broblem. Ond mae Llundain wedi ymateb. O ganlyniad i'r diffyg cenedlaethol sy'n lleihau, mae Llywodraeth y DU wedi ymrwymo £7.1 biliwn i ysgolion dros y tair blynedd nesaf. Dywed y Sefydliad Astudiaethau Cyllid y bydd hyn yn adfer gwerth y pot o arian i ysgolion i lle roedd cyn i effeithiau'r cwymp ariannol ddechrau gadael eu hôl. Mae hyn yn golygu bod tua £355 miliwn yn ychwanegol yn dod i Gymru o gyllideb ysgolion y DU—a'r gyllideb ysgolion yw honno, nid y gyllideb addysg—dros y tair blynedd nesaf. Mae gan y Gweinidog yr eglurder yn awr i ganiatáu ar gyfer ymrwymiad amlflwyddyn, fel y gofynnodd amdano wrth dderbyn argymhelliad 15.
Y £195 miliwn sy'n dod i Gymru o gyllideb ysgolion y DU ar gyfer 2020-1 o ganlyniad i'r adolygiad o wariant eleni—clywsom gan y Trefnydd ychydig wythnosau'n ôl nad yw'r penderfyniad wedi'i wneud ynglŷn â sut y gwerir yr arian hwnnw. Rwy'n gobeithio y cawn wybod ei fod wedi'i ddyrannu'n fuan, oherwydd yn y tair blynedd diwethaf mae'r bwlch ariannu disgyblion rhwng Cymru a Lloegr wedi culhau'n amlwg—dywed Cymdeithas Genedlaethol yr Ysgolfeistri ac Undeb yr Athrawesau ei fod yn £645; mae Llywodraeth Cymru yn dweud fel arall. Ond mae wedi culhau, oherwydd mae nifer y disgyblion yn Lloegr wedi tyfu'n sylweddol dros y blynyddoedd diwethaf ac nid yw cyllid yno wedi dal i fyny. Yng Nghymru, dim ond 29 o ddisgyblion ychwanegol a gawsom yn ystod y 10 mlynedd, ond mae'r bwlch cyllido hirsefydlog—a gadewch i ni gofio ei fod wedi bod cymaint ag £800—yn dal i fod yno, er gwaethaf y cyllid gwaelodol.
Mae'r bwlch wedi deillio o benderfyniadau cyllidebol hirdymor a wnaed gan Lywodraeth Cymru, nid Llywodraeth y DU. Mae'n rhagflaenu ac yn codi o resymau gwahanol i'r rhai sy'n effeithio ar ysgolion yn Lloegr, ac yn wahanol i Lywodraeth Cymru, mae Llywodraeth y DU wedi gweithredu'n gymharol gyflym, gan wrthdroi'r toriadau mewn termau real sydd wedi effeithio ar werth y gacen ariannu ysgolion honno. Felly, gan fod yr arian ychwanegol hwn yn dod bellach, y cwestiwn yn awr yw a welwn y bwlch cyllid y pen i ddisgyblion yn agor eto. Oherwydd os gwnaiff, bydd yn gwbl glir mai dewis a wneir ym Mae Caerdydd ydyw, nid un yn Llundain.
A wnewch chi dderbyn ymyriad?
Yn gyflym iawn. Efallai y byddaf yn symud ymlaen i ateb eich cwestiwn a dweud y gwir.
Mae'n rhaid i mi ddweud, rwy'n synnu eich bod chi, Suzy Davies, yn mabwysiadu ymagwedd 'swyddfa ganolog' o'r fath. Roeddech yn rhan o'r pwyllgor, ac mae'n adroddiad adeiladol. Nid yw wedi'i fwriadu i fod yn y ffordd rydych chi'n ei gyflwyno, fel rhaniad rhwng y DU a Bae Caerdydd. A fyddech cystal â bod yn fwy adeiladol ac adlewyrchu barn y pwyllgor?
Gadewch i mi barhau, oherwydd, wrth gwrs, fel y crybwyllodd Lynne Neagle yn ei sylwadau agoriadol, cyfeiriwyd at San Steffan yn hyn, a chredaf ei bod yn werth inni nodi bod San Steffan bellach wedi ymateb i bryderon a wnaed yn amlwg iddynt yn ystod y pedair neu bum mlynedd diwethaf yn unig. Nid yw Llywodraeth Cymru wedi ymateb i'r bwlch ariannu fesul disgybl a amlygwyd iddynt ers i mi fod yma a chyn hynny. Felly, yr hyn rwyf am ei ddweud yw, hyd yn oed os yw Llywodraeth Cymru yn ymrwymo'r £355 miliwn cyfan i ysgolion—nid i addysg, i ysgolion—yna, fel y dywed adroddiad y pwyllgor, rydym yn taro 'niwl cyllido' llywodraeth leol, a dyma rwyf am ganolbwyntio arno yn awr. Oherwydd, mewn rhai ffyrdd, hoffwn yn fawr pe bai'r Gweinidog llywodraeth leol yma i ymateb i'r ddadl hon, oherwydd credaf mai ar lefel llywodraeth leol y mae angen gweithredu ar frys.
Nawr, rwy'n derbyn bod pwysau ehangach ar y grant cynnal refeniw, ond mae'r adroddiad hwn wedi amlygu'r hyn sy'n edrych fel mympwy o ran sut y cyllidir ysgolion. Mae'r gwahaniaeth enfawr yng nghronfeydd wrth gefn a diffyg ysgolion yn dangos bod rhywbeth yn mynd o'i le'n wael. Nid oes unrhyw gysondeb rhwng awdurdodau lleol o ran y modd y maent yn blaenoriaethu gwariant craidd ar ysgolion a dim llinell atebolrwydd i Lywodraeth Cymru sy'n cysylltu ei phenderfyniadau ar faint y mae ysgolion ei angen, ei chyfraniad o ganlyniad i hynny i'r grant cynnal refeniw, a faint y mae cynghorau'n ei wario ar ysgolion mewn gwirionedd.
Rhaid i mi ofyn a ddylai awdurdodau lleol fod yn gwbl rydd i ddefnyddio arian a ganfuwyd gan y Llywodraeth i fynd i'r afael â phroblem benodol a nodwyd ar rywbeth arall yn gyfan gwbl. Fel y dywedodd Lynne Neagle, mae gwariant ar brofiad ysgol da yn ymgorfforiad o wariant ataliol ac felly, dylai digon o gyllid i ysgolion fod yn flaenoriaeth i bob cyngor. Ond fel y mae'r Llywodraeth yn cyfaddef, ni fydd yn dylanwadu ar y blaenoriaethu, er ei bod yn derbyn argymhelliad 2.
Mewn tystiolaeth i ni, soniodd y ddau Weinidog am bwysigrwydd ymddiriedaeth broffesiynol rhwng Llywodraeth a chynghorau o ran eu penderfyniadau. Ond beth am yr ymddiriedaeth broffesiynol rhwng staff ysgolion a chynghorau, ac ysgolion a'r Llywodraeth? Hyd yn oed wrth dderbyn ein holl argymhellion, mae'r Gweinidog wedi osgoi ateb rhai o'r cwestiynau a gafwyd yn yr argymhellion. Ceir cwestiwn anghysurus ynglŷn â phwy y mae'n ymddiried ynddynt fwyaf i gyflawni ei dyheadau ar gyfer rhai oedran ysgol, gan ei bod yn ymddangos i mi ei bod yn fwy na pharod i ymddiried mewn arweinwyr ysgolion sydd â chyfrifoldeb enfawr am gynllunio cwricwlwm newydd, ond pan ddaw'n fater o ariannu'r ysgol er mwyn ei gyflwyno, mae hynny'n rhywbeth i rywun arall ac nid yw'n glir i mi pwy, eto i gyd arweinwyr ysgolion fydd yn atebol os bydd y cwricwlwm yn methu oherwydd diffyg arian i ysgolion.
Bydd eich gwaddol, Weinidog, yn dibynnu ar y modd y byddwch yn datrys y broblem ariannu ysgolion a nodir mor glir yn ein hadroddiad. Rwy'n mawr obeithio y bydd yr adroddiad hwn yn eich helpu chi, a'r Gweinidog llywodraeth leol, i gael yr arian sydd ei angen arnoch ar gyfer ysgolion. Diolch.
Mi oeddwn i'n falch iawn o fod yn rhan o'r ymchwiliad pwysig yma, ac mae yna argymhellion pwysig iawn yn cael eu cyflwyno yn yr adroddiad. Mi ddylai hi fod yn gyfnod cyffrous ar gyfer addysg yn ein hysgolion yng Nghymru. Mae cyflwyno cwricwlwm newydd sy'n parchu doniau ein hathrawon yn gysyniad y mae Plaid Cymru wedi'i gefnogi ar hyd y blynyddoedd.
Ond, yn anffodus, os nad ydy'r newid anferth yma'n cael ei gefnogi gan gyllid ac adnoddau digonol, mae perig gwirioneddol inni golli'r cyfle euraidd yma, ac y bydd cyflwyno'r cwricwlwm newydd ar y gorau yn anghyson ar draws Cymru ac ar y gwaethaf yn llanast llwyr. Yng nghanol hyn oll, ein plant a'n pobl ifanc fydd yn dioddef.
Mae'r papur a gyhoeddwyd yr wythnos hon, o'r enw 'Addysg Addas ar gyfer y Dyfodol yng Nghymru', yn tynnu sylw at yr union broblem yma, gan ddweud am y gofid am y lefel o adnoddau fydd ar gael i athrawon ddatblygu a darparu'r cwricwlwm newydd, ac mae prin yw'r arwyddion fod chwistrelliad sylweddol o adnoddau yn mynd i ddigwydd ar lefel ysgolion ac ar draws y system cyn y lansiad yn 2022.
Mae undeb yr NAHT yn dyfynnu ffigurau cyfrifiad ysgolion o Ionawr eleni o'u cymharu â'r flwyddyn flaenorol er mwyn darlunio'r broblem fel mae hi ar hyn o bryd, a dwi yn meddwl ei bod hi'n bwysig i ni ddarlunio'r argyfwng sydd angen ei sortio allan.
Felly, ddechrau eleni, roedd 1,286 yn fwy o ddisgyblion, ond 278 yn llai o athrawon a 533 yn llai o staff cymorth. Felly, o'r ffigurau yna, mae'n dod yn hollol amlwg fod y toriadau cyllidol sy'n cael eu disgrifio'n fanwl yn yr adroddiad—fod y toriadau yma'n golygu nad oes yna ddim athrawon yn cael eu penodi i lawer iawn o'r swyddi sy'n dod yn wag, fod toriadau yn golygu bod llai o athrawon yn gweithio'n llawn amser a mwy'n gweithio'n rhan amser, ac mai'r staff cymorth ydy'r cyntaf i gael eu taro drwy golli eu swyddi, gweithio llai o oriau neu wrth i ysgolion fethu adnewyddu cytundebau penodol.
Meddai un pennaeth ysgol gynradd wrthyf i, 'Rydym ni ar ein gliniau'. Mae hyn yn bryder gwirioneddol, ac mae camau wedi cael eu cymryd gan Lywodraeth Cymru i leihau baich gwaith athrawon, ond mae'r diffyg mewn cyllidebau ysgolion yn ychwanegu at lwyth gwaith, ac mae hyn oll, wrth gwrs, yn cael effaith gwbl andwyol ar addysg ein plant a'n pobl ifanc ni.
Felly, dwi'n croesawu argymhelliad 2 y pwyllgor yn fwy na'r lleill—mae'r lleill yn bwysig, ond argymhelliad 2, yn fy marn i, yw'r un sydd yn mynd i gyflwyno'r newid mwyaf sydd ei angen. Mi fyddai gweithredu argymhelliad 2 yn golygu y byddai yna feintiau dosbarth rhesymol er mwyn sicrhau y gall athrawon roi sylw priodol a digonol i bob plentyn. Mi fyddai fo'n golygu niferoedd digonol o staff cymorth dysgu a digon o gapasiti yn y system anghenion dysgu ychwanegol ar bob lefel i adnabod problemau mor gynnar â phosib, a sicrhau cefnogaeth gref i faterion lles ac iechyd meddwl ledled y system addysg.
Er fy mod i yn croesawu argymhelliad 1 am yr adolygiad, dwi yn meddwl ei bod hi'n bwysig peidio â disgwyl am ganlyniadau'r adolygiad. Mi fyddai disgwyl am hynny yn gallu arafu'r broses, ac mae angen i arian lifo i mewn i'n hysgolion ni rŵan. Mae'n bwysig, efo'r adolygiad, i fod yn glir am y tybiaethau cychwynnol hefyd, a sicrhau bod yna ystod o fodelau ysgol a modelau cost yn cael eu cymryd i ystyriaeth. Er enghraifft, mae yna wahaniaethau, onid oes, mewn modelau cost ysgolion mawr o'i gymharu efo ysgolion bach, gwledig/trefol, ac yn y blaen, ac yn y blaen.
Mae yna nifer o argymhellion synhwyrol yn yr adroddiad ynglŷn â gwahanol agweddau. Dwi'n credu bod argymhelliad 15 yn un i dynnu sylw ato fo ac yn fater o flaenoriaeth uchel, sef creu setliadau cyllido tair blynedd. Rŵan, dwi'n gwybod bod yna anawsterau yn sgil dibynnu ar amserlenni San Steffan, ond mae'n rhaid, dwi'n credu, dod o hyd i ffordd o wneud hyn. Mae yna grŵp arall o argymhellion yn ymwneud â'r haen ganol, a dwi yn edrych ymlaen at weld gwaith yr Athro Dylan Jones. Mae yna broblem fan hyn. Mae yna ddiffyg ymddiriedaeth rhwng ysgolion a'r consortia rhanbarthol, a theimlad cryf fod yna symiau mawr yn cael eu gwario ar y lefel yna.
Beth sydd yn bwysig, dwi'n credu, ydy cydnabod beth sydd yn argymhelliad 2. Pe baem ni'n gwneud hynny, mi fuasai'r drafodaeth yn gallu symud yn eu blaen, a dwi'n credu bod angen inni droi rŵan, fel roedd Cadeirydd y pwyllgor yn ei ddweud. Mae angen y drafodaeth aeddfed honno ar draws y Siambr, ar draws y dyletswyddau, i feddwl yn wahanol am gyllideb Cymru, ac i feddwl am gyllideb Cymru mewn termau ataliol.
A gaf fi ddechrau drwy ddiolch i'r rhai a gymerodd ran yn yr ymchwiliad, a diolch i Lywodraeth Cymru am ei hymateb cadarnhaol iawn i argymhellion y pwyllgor? Yn anochel, rwy'n credu y byddwn i gyd, mae'n debyg, yn trafod nifer o'r un meysydd, felly byddwch yn amyneddgar. Ond i mi, roedd yr ymchwiliad hwn yn dangos yn glir nad yw ariannu ysgolion mor syml ag yr hoffai rhai ei awgrymu. Felly, hyd yn oed os dechreuwn o'r cynsail ein bod i gyd yn derbyn bod ysgolion angen mwy o arian, ac rydym i gyd yn derbyn hynny, yn sicr nid oes ateb syml i'r cwestiwn faint sydd ei angen ar ysgolion mewn gwirionedd, faint ddylai hynny fod. Fel y dywedodd y Gweinidog yn ei hymateb, mae hyn yn hynod gymhleth ac amlhaenog, ac mae'n dibynnu ar lawer o ffactorau.
Credaf felly fod argymhelliad 1 y mae Siân newydd gyfeirio ato o'r adroddiad wedi'i fframio'n bendant iawn i ddarparu'r dystiolaeth i'n helpu i ateb y cwestiwn hwnnw ac i roi sail gadarnach i'r drafodaeth am addysg ysgolion a chyllid ar ei chyfer yng Nghymru. Dyna a wnaethom mewn perthynas â chyllid y GIG drwy adroddiad Nuffield, ac rwy'n credu y gall astudiaeth debyg ar gyfer addysg fod o gymorth mawr.
Yn ystod yr ymchwiliad, teimlwn fod cryn gamddealltwriaeth ynglŷn ag addysg ac ysgolion, mewn gwirionedd, y system ysgolion yng Nghymru, neu o leiaf roeddwn yn teimlo bod yna bobl a oedd yn defnyddio'r system i gyflwyno haenau o ddirgelwch yn seiliedig ar gymhlethdod. Roedd hynny'n cynnwys dadleuon ynglŷn â gwariant gros, gwariant fesul disgybl, diben asesiadau wedi'u seilio ar ddangosyddion. Ac mae rhai o'r dadleuon hynny'n dechnegol iawn, a chlywsom ddadleuon a oedd yn gwrthdaro ynglŷn â phwysigrwydd y data a gafwyd. Felly, rwy'n croesawu'r ffaith bod Llywodraeth Cymru wedi cytuno i geisio darparu dealltwriaeth fwy eglur a mwy o gysondeb yn y broses o gasglu ystadegau a llunio adroddiadau.
Nawr, fel y gŵyr pawb ohonom, ceir o leiaf bedair lefel o benderfyniadau ariannol yn y system. Dechreuwn gyda chyllid y DU i Gymru. Mae'n rhaid i mi gefnogi fy nghyd-Aelod Hefin David yma wrth herio'r hyn a ddywedodd Suzy Davies, oherwydd mae hyn wedi'i osod yn erbyn cefndir o ddegawd o gyni dan law'r Torïaid. Felly, i bob llais ar ran y Ceidwadwyr Cymreig yn y ddadl hon sy'n gofyn am fwy o arian i ysgolion, ystyriwch y maniffestos roeddech yn sefyll arnynt—
A wnewch chi dderbyn ymyriad?
—a'r toriadau i wariant rydych wedi eu gorfodi ar Gymru. Fe gymeraf eich ymyriad.
Rwy'n ddiolchgar iawn i chi am gymryd yr ymyriad. Y gwir amdani yw bod cyfuniad o ffactorau ynghlwm wrth ariannu ysgolion, nid yn unig yr arian sy'n dod o San Steffan, y clywsoch eisoes ei fod yn cynyddu gannoedd o filiynau o bunnoedd o'r flwyddyn nesaf, ond hefyd effeithir arno gan y ffordd y rhannwch yr arian hwnnw yma fel Llywodraeth Cymru, a'r modd y dosbarthwch yr arian hwnnw ledled Cymru. Nawr, yn fy etholaeth i yng ngogledd Cymru, y realiti yw bod y ddau awdurdod lleol wedi cael eu taro gan wasgfa enfawr ar eu cyllid o ganlyniad i'r cynnydd yn y cyllid i'r cynghorau sy'n dod i leoedd yn ne Cymru, megis Caerdydd, Casnewydd, Abertawe, Rhondda Cynon Taf, Merthyr Tudful ac eraill, ar yr un pryd ag y gwneir toriadau yng Nghonwy, Sir Ddinbych, Sir y Fflint, Gwynedd ac Ynys Môn. Pam y mae hynny'n digwydd? Mae'n annerbyniol.
Nid yw hynny'n wir.
Mae'n berffaith wir.
Wel, rwy'n rhagdybio y bydd y Llywydd yn rhoi rhywfaint o amser ychwanegol i mi yn awr yn fy nghyfraniad oherwydd fy mod wedi cael llond bol ar sefyll yn y Siambr hon wythnos ar ôl wythnos yn clywed y Torïaid yn galw am fwy o wariant ar ein holl wasanaethau cyhoeddus a chithau wedi llywodraethu dros 10 mlynedd o gyni. Ni chymerwn unrhyw wersi gan y Ceidwadwyr ar wariant.
Yn ail, penderfyniadau cyllidebol Llywodraeth Cymru, y byddaf yn eu trafod yn awr, gan gynnwys y dyraniad i awdurdodau lleol a'r cyllid tuag at gyflawni blaenoriaethau addysg cenedlaethol. Yn drydydd, penderfyniad awdurdodau lleol yn eu blaenoriaethau lleol, sy'n cynnwys gwariant ar addysg ysgolion a fformiwla ariannu ysgolion lleol, ac wrth gwrs, yn olaf, blaenoriaethau a osodir gan arweinwyr ysgolion lleol eu hunain ar gyfer yr anghenion unigol o fewn yr ysgolion.
Felly, fel y gwyddom, y ffordd y mae ein system addysg yn gweithio yng Nghymru yw trwy bolisi cenedlaethol a rhai grantiau cenedlaethol fel y grant amddifadedd disgyblion—y soniodd Suzy amdano’n gynharach, polisi sy'n helpu i oresgyn anfantais—y consortia rhanbarthol, sy'n helpu i herio a chodi safonau, a chydwasanaethau hefyd, sy'n helpu i'w gwneud yn fwy costeffeithiol i awdurdodau lleol ac ysgolion, a blaenoriaethau awdurdodau lleol, sy'n cynnwys y fformiwla ariannu ar gyfer cyllido ysgolion. Ac mae hyn i gyd wedi'i grynhoi yn dda iawn, mewn gwirionedd, yn y diagram ar dudalen 22 yr adroddiad, ac rwy'n ei ganmol fel rhan o’r broses o ddeall yr ymchwiliad hwn. Mae'n dangos yn daclus i ni sut y mae arian yn llifo o amgylch y system. Ond mae’r ffeithiau hynny yn fy arwain at fy mhwynt nesaf, sef bod angen i’r cyllid a ddyrennir gan Lywodraeth Cymru ac awdurdodau lleol gefnogi’r system addysg ysgolion honno yn ei chyfanrwydd, ac ar adegau o gyfyngiadau ariannol, er mwyn cynyddu cyllid mewn unrhyw ran benodol o'r system, y gwir amdani yw fod angen gwneud penderfyniadau ynghylch pwy sy'n cael mwy, ac felly, pwy sy'n cael llai, ac mae honno'n her allweddol i'r system gyfan ymateb i'r anghenion yn ein cymunedau.
Felly, mae'n iawn bod argymhelliad 2 yr adroddiad yn pwysleisio'r angen am wariant ataliol a'r cysylltiad ag argymhelliad 4 ynghylch pwysigrwydd dull sy'n seiliedig ar anghenion o ddyrannu cyllid. I mi, mae hynny'n cynnwys blaenoriaeth uchel i’r angen i ganolbwyntio ar fynd i'r afael ag effaith tlodi ar ragolygon a chyflawniadau ein plant. Ond rwyf hefyd am adleisio'r hyn a ddywedodd Lynne Neagle ar ddechrau'r ddadl hon am raddfa'r agenda addysg rydym yn ei dilyn yng Nghymru ar hyn o bryd, a chredaf ei bod yn werth atgoffa ein hunain ein bod yn siarad am y cwricwlwm newydd, rydym yn siarad am y trawsnewid drwodd i ADY, rydym yn siarad am annog agwedd ysgol gyfan tuag at iechyd meddwl, ynghyd â chefnogi a datblygu staff addysgu. Felly, mae addysg a chyllid ysgolion, o fewn fframwaith o wariant ataliol, yn fater cyllido pwysig i Lywodraeth Cymru yn y degawd sydd i ddod, ac o ganlyniad, gobeithio ein bod yn gweld rhywfaint o newid ar ôl blynyddoedd o doriadau Torïaidd—arhoswn i weld a ddaw'r arian i ni—fel y gallwn ddechrau gwella'r sefyllfa ariannu ar gyfer awdurdodau lleol ac ar gyfer ysgolion, a bod Llywodraeth Cymru ac awdurdodau lleol yn gallu darparu gwell dealltwriaeth o anghenion cyllido ein hysgolion, ond rhaid inni gydnabod hefyd, hyd yn oed os yw cynghorau'n cael mwy o arian, fod faint o'r arian hwnnw sy'n cyrraedd ysgolion yn dal i ddibynnu ar flaenoriaeth pob ysgol—pob awdurdod lleol, mae'n ddrwg gennyf.
Yn olaf, Lywydd, dylem gofio hefyd nad yw'r canlyniadau a gyflawnir yn ein hysgolion yn gysylltiedig yn unig â'r swm o arian y maent yn ei dderbyn. Hyd yn oed yn yr ysgolion sy'n gwario'r symiau uchaf o arian, mae llawer o dystiolaeth yn dangos bod y lefelau cyrhaeddiad yn aml yn is nag mewn rhai ysgolion sy’n gwario llawer llai, ac nid wyf yn siŵr ein bod wedi deall yn iawn pam fod hynny’n digwydd.
Ac er fy mod yn cytuno ag argymhelliad 21, sy'n ein hatgoffa bod angen i Lywodraeth Cymru sicrhau bod yr arian yn cyrraedd y rheng flaen at y dibenion a fwriadwyd, ni ddylai'r ddadl am gyllid ysgolion dynnu ein sylw oddi ar y trafodaethau ynghylch gwella perfformiad, lle nad yw cyllid ysgolion ond yn un ffactor yn unig.
A gaf fi ddiolch i'r pwyllgor am yr adroddiad hwn ac a gaf fi ddweud y byddwn yn cefnogi'r cynnig? Mae ariannu ein hysgolion, fel gyda'n GIG, bob amser wedi bod yn fater dadleuol, ond fel gyda'r GIG, ni allwn fethu sicrhau bod ein system addysg yn derbyn cyllid digonol. Ni waeth pa bwysau ariannol sydd ar ein hawdurdodau lleol, nid cyllidebau ysgolion yw'r lle i wneud toriadau. Dim ond trwy ariannu ein hysgolion ar lefel sy'n sicrhau bod ein plant yn cael yr addysg orau bosibl ac felly, y dechrau gorau mewn bywyd, y gallwn sicrhau nid yn unig eu dyfodol hwy ond ffyniant y wlad gyfan yn y dyfodol. Addysg yw sylfaen ein heconomi a gwead cymdeithasol ein cymdeithas.
Weinidog, mae'r byd yn newid. Nid yw dal i fyny’n ddigon da bellach; mae angen i ni fod ar y blaen ac mae hynny, mewn economi ddiwydiannol fodern, yn golygu system addysg o'r ansawdd gorau posibl. Bydd y newidiadau a ddaw yn sgil deallusrwydd artiffisial yn ogystal â llawer o ddatblygiadau eraill mewn gwyddoniaeth a systemau cyfathrebu yn rhoi mwy a mwy o bwysau ar bawb sy'n ymwneud â'r sector addysg. Ni allwn eu siomi drwy beidio â darparu cyllid digonol.
Mewn byd technolegol, mae ein system addysg yn agored i bwysau eithafol, ac mae hyn yn golygu y bydd angen i'r proffesiwn addysgu fod yn hyfforddi'n barhaus i fynd i’r afael â phwysau o'r fath. Y cwestiwn felly yw sut y gallwn oresgyn yr heriau sydd o'n blaenau a darparu'r lefelau cyllid a ddylai olygu mai ein plant ni sy’n cael yr addysg orau yn y DU, os nad y byd?
Rydym yn gwybod am y problemau a wynebwn ac mae'n rhaid i ni dderbyn bod adnoddau'n gyfyngedig. Gan hynny, efallai fod yn rhaid inni edrych ar rai atebion radical. Yr hyn rwy'n ei olygu yw ei bod hi'n hen bryd i arian a ddyrennir drwy grantiau addysg Llywodraeth Cymru fynd yn uniongyrchol i ysgolion yn hytrach nag i awdurdodau lleol sy'n tocio'r arian er mwyn cyllido adrannau addysg lleol. Yr ysgolion a'r addysgu—[Torri ar draws.] Iawn, wrth gwrs.
A ydych chi'n sylweddoli bod rhan helaeth o wariant awdurdodau addysg lleol yn ganolog yn mynd ar gludiant cyn-ysgol?
Fe ellir ei wneud gan yr awdurdod ei hun yn uniongyrchol wrth gwrs, os yw hynny'n wir ar hyn o bryd.
Yr ysgolion a'r addysgwyr proffesiynol sy'n eu rhedeg sy'n gwybod orau ble i wario'r arian sydd ar gael; dyna’r bobl sydd yn y sefyllfa orau i benderfynu ar flaenoriaethau. Gadewch i ni ymddiried yn y gweithwyr proffesiynol hyn.
Cefais wybod gan brifathro rai blynyddoedd yn ôl am y costau mawr a wynebai i gael atgyweiriadau wedi’u gwneud i'w ysgol—£500 i atgyweirio dau dwll maint platiau cinio ar fuarth ei ysgol, y gallai fod wedi talu £100 am eu gwneud yn broffesiynol. A £1,100 i ailosod ffenestr lithro, y dywedodd tad disgybl, saer proffesiynol, y gallai fod wedi’i gosod am £90. Dwy enghraifft yn unig o ble y gwastreffir cyllideb ysgol. Dyma arian a ddylai fod yn mynd tuag at addysgu disgyblion. Os oes rhaid i ni dderbyn bod cronfeydd yn gyfyngedig, ni ddylem wastraffu'r cronfeydd sydd ar gael.
Hoffwn ddiolch i Lynne Neagle AC am ei harweiniad fel cadeirydd ein Pwyllgor Plant, Pobl Ifanc ac Addysg, am baratoi'r adroddiad hwn a hefyd am ei gyflwyno yma heddiw. Mae hi wedi taro'r hoelen ar ei phen: yn syml iawn, nid oes digon o arian yn mynd i mewn i system addysg Cymru, ac yn sicr nid oes digon yn cyrraedd ein hysgolion.
Nawr, wrth gwrs, ers cyhoeddi'r adroddiad hwn—[Torri ar draws.] Nid wyf hyd yn oed wedi dechrau. Ni allaf, mae’n ddrwg gennyf.
Ers cyhoeddi’r adroddiad hwn, a diolch byth, mae ein Prif Weinidog, y Gwir Anrhydeddus Boris Johnson AS, wedi cyhoeddi y bydd Llywodraeth Cymru yn derbyn £1.24 biliwn o wariant ychwanegol yn uniongyrchol ar gyfer ysgolion. Bydd yr arian yn rhoi cyfle i'r Gweinidog addysg roi camau pendant ar waith i gau, os nad dileu’r bwlch cyllido o £645 y disgybl rhwng Cymru a Lloegr. Yn gynharach eleni, dywedodd cynrychiolydd ar ran Cymdeithas Genedlaethol yr Ysgolfeistri ac Undeb yr Athrawesau wrthym mai hon oedd y flwyddyn waethaf ar gyllidebau ysgolion Cymru ers 1995, ac yn anffodus, mae pethau’n mynd i waethygu am fod y Gweinidog ei hun yn gwadu hyn mewn gwirionedd.
Mae Cymdeithas Llywodraeth Leol Cymru wedi rhagweld y bydd y bwlch yng nghyllideb ysgolion yn codi ymhellach i £319 miliwn yn 2022-23, ac mae'r toriadau y mae hyn yn eu hachosi yn creu anawsterau mawr. Er enghraifft, mae nifer yr athrawon wedi gostwng 1,500 rhwng 2010 a 2018, er mai dim ond 29 yn llai o ddisgyblion a geir. Mae angen cyllid digonol ar ysgolion, felly rwy'n falch bod argymhelliad 1 wedi'i dderbyn. Byddaf yn dilyn yr adolygiad brys gyda diddordeb mawr gan fy mod yn credu bod angen inni wybod, fodd bynnag, beth yw’r amserlen ar hyn ac erbyn pa bryd y gallwn obeithio cael ffigur sylfaen ar gyfer rhedeg ysgol ac addysgu plentyn yma yng Nghymru.
Nawr, mae'r adroddiad hefyd yn mynd i'r afael â monitro lefel y flaenoriaeth y mae awdurdodau lleol yn ei rhoi i ysgolion wrth iddynt ddosbarthu cyllid ac yn ein rhoi ar y trywydd iawn i gael gwell dealltwriaeth a mynd i'r afael â'r anghysondeb y gwyddom amdano wrth i'r 22 awdurdod lleol osod cyllidebau ysgolion. Er enghraifft, daw’r sefyllfa anghyfartal yn amlwg wrth ystyried y gall y swm a werir gan awdurdodau ar ysgolion amrywio o £5,107 i £6,456 y disgybl. Felly, rydym mewn sefyllfa ryfedd lle roedd 501 o ysgolion yn cadw cronfeydd wrth gefn sydd uwchlaw'r trothwyon statudol tra bod 225 ohonynt mewn diffyg ym mis Mawrth 2018. Yn frawychus, mae 70 y cant o ysgolion uwchradd Cymru mewn diffyg ar hyn o bryd. Mae hon yn broblem sy'n ymwneud â blaenoriaeth.
Tybed felly pam nad yw'r ymateb i'r argymhelliad ynghylch diffygion yn egluro sut rydych chi'n gweithio gydag awdurdodau lleol i archwilio rheolaeth effeithiol. Rwy’n croesawu eich ymrwymiad parhaus i herio consortia rhanbarthol ynghylch arian yn cyrraedd y rheng flaen. Mae'r Undeb Addysg Cenedlaethol wedi dweud wrthym eu bod wedi cael problemau gyda'r consortia ers iddynt gael eu sefydlu. Mae'r dystiolaeth a gawsom yn dangos diffyg dealltwriaeth o rolau llywodraeth leol a chonsortia rhanbarthol. Ni allaf feirniadu'r dryswch gan eich bod chi hyd yn oed yn dal i weithio ar ddarparu eglurder. Ac rwy’n cofio, Weinidog, yn ystod fy ngwaith craffu arnoch yn ystod un o'ch cyflwyniadau gweinidogol i ni yn y pwyllgor, eich bod wedi dweud, 'Janet, ni allaf fi hyd yn oed ddilyn yr arian o'r Llywodraeth i'r ysgolion', felly mae’n ofid, os na allwch chi ei ddilyn, sut y gall ein penaethiaid a’n rhieni ei ddilyn?
Nid oes unrhyw faes yn galw am fwy o eglurder na'r gwariant ar wella ysgolion. Yn 2018-19, er bod £11 miliwn wedi’i wario ar brynu gwasanaethau gwella ysgolion gan gonsortia, gwariodd awdurdodau lleol £10.9 miliwn yn ogystal ar welliannau i ysgolion. Felly, rwy’n cefnogi’n gryf y galwadau am gymharu’r ddau wariant ar frys. Nid oes lle i ddyblygu gwaith ac ysgafalwch ariannol. Rhaid gwneud i’r cyllid yn y system weithio mor effeithiol â phosibl gan fod sefyllfa'r ysgolion yn anghynaladwy ar hyn o bryd. Er enghraifft, cysylltodd pennaeth yng ngogledd Cymru â mi ddoe i egluro bod athrawon yn gadael y proffesiwn ac nad oes neb yn dod yn eu lle, mae athrawon yn lleihau eu horiau oherwydd pwysau cyllidebol, ac mae staff cymorth yn cael eu taro gan ddiswyddiadau a llai o oriau. Byddaf yn pleidleisio er budd gorau pobl ifanc a'n hathrawon gweithgar, ac felly rwy'n cefnogi'r holl argymhellion.
Fodd bynnag, credaf y gallwch chi, Weinidog, fynd ymhellach trwy fynd i'r afael â'r cwestiynau a ofynnais i helpu i roi hwb i ysgolion o'r fan hon, Llywodraeth Lafur Cymru, fel y mae ein Prif Weinidog wedi'i wneud o Lywodraeth y DU.
Fel eraill y prynhawn yma rwy'n credu, hoffwn fynegi fy niolch i'r pwyllgor am yr adroddiad hwn. Rwy'n credu ei fod yn tystio i waith ac ymrwymiad y pwyllgor cyfan ac arweiniad Lynne Neagle fod y pwyllgor hwn yn cyflwyno adroddiadau’n gyson sydd nid yn unig yn herio'r Llywodraeth ac yn dwyn y Llywodraeth i gyfrif, ond hefyd yn herio pob un ohonom i ymateb i'r materion hyn mewn ffordd resymol ac ystyriol.
A wnewch chi dderbyn ymyriad?
Gwnaf.
Ar y pwynt hwnnw, a ydych chi’n gresynu at y cywair gwleidyddiaeth plaid sydd wedi dod yn unig heddiw oddi ar feinciau’r Blaid Geidwadol?
Wel, nid ydych wedi clywed fy araith i eto [Chwerthin.]. Rwyf bob amser yn ofni pan geisiwn dynnu gwleidyddiaeth allan o wleidyddiaeth. Mae’r modd y dyrannwn ein cronfeydd a'r hyn a wnawn—[Torri ar draws.] Rydych chi'n ceisio bod yn adeiladol, ac nid oes angen i chi drydar; clywais yr hyn a ddywedoch chi—[Chwerthin.]—ac rwy'n cydnabod pwysigrwydd y pwynt rydych am ei wneud.
Ond y prynhawn yma, rwyf am fynd i’r afael â thri mater yn y ddadl hon. Y cyntaf yw'r swm o arian sydd ar gael i'r gyllideb addysg ac i ysgolion. Bydd pob un ohonom yn dadlau’r achos—ac rwyf wedi dadlau yn y Llywodraeth—dros gael arian i’n meysydd portffolio ein hunain, ac rwyf wedi dioddef y boen enfawr o anghytuno â Kirsty Williams yn y Llywodraeth wrth iddi ddadlau’r achos dros gyllid addysg. Rwy'n tystio i arweiniad Lynne Neagle fel Cadeirydd y pwyllgor, ond gallwn wneud hynny hefyd mewn perthynas â'r Gweinidog addysg ei hun. Yn rhy aml o lawer, rydym yn cael y dadleuon hyn ac rydym yn cael y trafodaethau hyn, ond gwn o fy mhrofiad yn y Llywodraeth fod y Gweinidog sydd gennym heddiw hefyd yn rhywun sydd wedi dadlau dros gyllid o fewn y Llywodraeth ac wedi dadlau drosto o fewn y gyllideb yn y Cabinet. Fe ildiaf.
Diolch yn fawr. Wrth gwrs, er bod yna gyllideb addysg o dan oruchwyliaeth y Gweinidog addysg, un o'r pethau a ganfuwyd yn ystod ein gwaith pwyllgor yw mai pen llywodraeth leol i bethau sydd wedi bod yn achosi'r broblem, ac rwy'n tybio efallai fod gennych chi rywbeth i'w ddweud am hynny.
Oes, a byddaf yn mynd i’r afael â hynny yn yr araith hon. Ond rhaid gwneud y pwynt mai cyllideb y Llywodraeth yw hi yn y pen draw, ac mae angen i'r Llywodraeth wneud penderfyniadau ar y materion hyn, ac mae'r rhain yn faterion hynod o wleidyddol, mae'n rhaid i mi ddweud. Mae arwain yn galw am benderfynu, a dywedaf hyn wrth bob Gweinidog yn y lle hwn y prynhawn yma: rydym yn disgwyl i gyllideb gael ei chyflwyno yn ddiweddarach y tymor hwn sy'n cydnabod pwysigrwydd addysg ac yn cydnabod lle canolog ysgolion yn yr hyn y ceisiwn ei wneud. Rwy'n gweld bod y prif chwip yn ei lle, ac mae hi wedi bod yn garedig iawn wrthyf yn ddiweddar, felly nid wyf am sathru ar yr haelioni hwnnw, ond rwy'n ofni efallai y gwnaf, pan ddywedaf wrthi fod cyllideb a gyhoeddir nad yw'n rhoi chwarae teg i addysg ac i ysgolion yn gyllideb a fydd yn mwynhau cefnogaeth y meinciau cefn hyn. Mae angen i ni sicrhau bod y gyllideb, pan gaiff ei chyflwyno, yn un sy'n cydnabod pwysigrwydd system addysg wedi'i hariannu'n ddigonol.
Mae'r ail bwynt yr hoffwn ei wneud yn ymwneud â chymhlethdod y system, ac mae Suzy Davies, mewn sawl ffordd, wedi mynd i'r afael â hyn. Gadewch i mi ddweud hyn—yn ystod y trafodaethau ar y gyllideb a gynhaliwyd y llynedd, fel y bydd pobl yn cofio, fi oedd y Gweinidog llywodraeth leol. Cefnogais yr arian ychwanegol a gâi ei ddarparu i addysg bryd hynny, ac fe'i cefnogais ar ffurf grant i geisio sicrhau bod y cyllid hwn yn cyrraedd yr ystafell ddosbarth mewn gwirionedd ac nad yw'n gorffen ei daith yn y neuadd sir leol.
Rwy'n ddiolchgar i'r pwyllgor am ddangos yn glir fod llawer gormod o gymhlethdod yn y system, ac o’r herwydd, nad yw ysgolion yn derbyn yr arian y byddem yn disgwyl iddynt ei gael. Pe bai'r system yn cael ei diwygio, ni fyddai angen gwneud y pethau hyn yn y fath fodd, ond mewn system heb ei diwygio, rwy’n ofni na fydd blaenoriaeth glir i sicrhau bod staff addysgu, plant a phobl ifanc, sydd â hawl i ddisgwyl gwell gennym, yn gweld y budd, hyd yn oed pan wneir y penderfyniadau anodd hynny ar gyllid.
Buaswn yn gofyn i'r Gweinidog ystyried nid yn unig y dadleuon dros gyllid ychwanegol, ond hefyd yr hyn a geir yn yr adroddiad hwn am gymhlethdod y system. Buaswn yn hollol glir yn fy meddwl ei bod yn iawn ac yn briodol ein bod yn dadlau ac yn trafod neilltuo cyllid addysg, ein bod yn clustnodi arian ar gyfer ysgolion er mwyn sicrhau bod pob awdurdod lleol yn cael eu gorfodi i wario'r arian sy'n ddyledus ar gyfer addysg trwy'r lle hwn a'i fod yn cyrraedd yr ystafell ddosbarth.
Buaswn yn gofyn hefyd i'r Gweinidog ystyried ariannu ysgolion trwy'r consortia neu system arall o gyllido rhanbarthol. Byddai hyn yn cyfyngu ar gymhlethdod a biwrocratiaeth, ac yn cynyddu capasiti sefydliadau lleol i ddarparu system addysg. Ond mae'n rhaid i ni sicrhau, unwaith eto, ein bod yn mynd i'r afael â'r cymhlethdod a'r fiwrocratiaeth o fewn y system. Os na allwn wneud hyn, ofnaf y bydd yn rhaid inni ystyried cyllido ysgolion yn uniongyrchol. Nid yw hyn yn rhywbeth y dadleuais drosto yn y gorffennol, ond mae bellach yn rhywbeth y credaf efallai y bydd yn rhaid inni ei ystyried os na allwn ddiwygio'r system mewn unrhyw ffordd arall. Mae'n bwysicach i mi fod athrawon, fod pobl ifanc, fod plant y wlad hon yn cael yr addysg y maent yn ei haeddu na'n bod yn aberthu eu haddysg ar allor ein hegwyddorion, ac mae'n rhaid i ni wneud y penderfyniad hwnnw. Ni allwn ddymuno arian i mewn i'r ystafell ddosbarth heb wneud dim arall, mae'n rhaid i ni ei bleidleisio i mewn i'r ystafell ddosbarth, ac mae'n rhaid i ni bleidleisio o blaid newidiadau sy'n gwneud i’r arian hwnnw gyrraedd yr ystafell ddosbarth. Ni allwn ddweud ein bod am weld hynny, a gwneud araith hawdd, boblogaidd ar brynhawn Mercher os nad ydym yn barod i wneud y penderfyniadau anodd fore Llun nesaf i sicrhau bod cyllid yn cyrraedd yr athro, y disgybl, y myfyriwr yn yr ystafell ddosbarth. Ac felly, rwy’n dweud wrth bobl, 'Peidiwch â derbyn yr adroddiad hwn y prynhawn yma oni bai eich bod yn ddigon dewr i sefyll dros eich argyhoeddiad i ddadlau dros wneud i’r arian gyrraedd yr ystafell ddosbarth.'
Fe ddof i ben, Lywydd—rwy'n gwybod fy mod yn profi eich amynedd eto y prynhawn yma—gyda'r pwynt a wneuthum mewn cwestiynau yn gynharach. Mae gennyf ymrwymiad personol y gwn fod y Gweinidog yn ei rannu tuag at anghenion dysgu ychwanegol, a phan fuom yn gweithio gyda'n gilydd yn yr adran addysg i ddarparu system ddiwygiedig ar gyfer anghenion dysgu ychwanegol, gwnaethom sicrhau hefyd fod yr adnoddau yno i gyflawni hynny. Ond gwyddom fod angen clustnodi'r adnoddau hynny yn ogystal, ac rwy’n gobeithio, pan gyflwynir y gyllideb, y bydd gennym le ar gyfer anghenion dysgu ychwanegol wedi'i glustnodi o fewn y gyllideb honno, fel ein bod yn gwneud mwy na diwygio'r system yn unig, ac yn darparu’r addysg y maent yn ei haeddu i blant a phobl ifanc ag anghenion dysgu ychwanegol ym mhob rhan o’r wlad hon. Diolch.
Y Gweinidog Addysg, Kirsty Williams.
Diolch yn fawr iawn, Lywydd. A gaf fi ddechrau trwy ddiolch i'r pwyllgor am eu hadroddiad a'r ystyriaeth a roesant i'r maes hollbwysig hwn? Rwy'n ddiolchgar iawn i'r pwyllgor am wneud y penderfyniad i edrych ar y pwnc hwn, ac fel bob amser, fel y dywed Alun Davies, mae ystyriaeth y pwyllgor wedi bod yn fanwl, yn feddylgar ac yn ddefnyddiol i mi fel Gweinidog Addysg. Fel y dywedais yn fy ymateb ysgrifenedig i'r pwyllgor, mae cryfder y dystiolaeth a ddarparwyd yn tynnu sylw at ba mor hanfodol yw hi fod ein hysgolion yn derbyn y lefelau priodol o gyllid.
Mae'r adroddiad hefyd yn tynnu sylw at ba mor gymhleth yw'r system ariannu ysgolion. Mae hynny'n rhywbeth rwy'n ei gydnabod hefyd. Mae'n amlhaenog ac mae'n dibynnu ar lawer o ffactorau, sy'n ei gwneud yn anhygoel o anodd darparu un ateb syml. Rwyf wedi derbyn holl argymhellion y pwyllgor, ac mae fy swyddogion eisoes wedi dechrau bwrw ymlaen â'r rhain, ond rwy'n clywed y pwyntiau a godwyd gan Gadeirydd y pwyllgor ac rwy'n hapus i ddarparu ymatebion ysgrifenedig pellach i'r pwyntiau a gododd oherwydd ni fydd gennyf amser yn fy nghyfraniad y prynhawn yma i fynd i’r afael â phob un ohonynt.
Fodd bynnag, er bod cylch gwariant Llywodraeth y DU yn dangos rhywfaint o lacio ar linynnau'r pwrs, mae’n rhaid i ni gydnabod nad yw'n darparu'r sail hirdymor gynaliadwy i gynllunio arni sydd ei hangen yn ddybryd ar ein gwasanaethau cyhoeddus ac y cyfeirir ati yn argymhelliad 15 o adroddiad y pwyllgor. Rhaid imi ddweud wrth Suzy Davies, gyda'r parch mwyaf, dyfynnodd ffigur cyllid tair blynedd sydd ar gael i'r Adran Addysg. Buaswn wedi dwli bod yn y sefyllfa honno. Y gwir amdani yw nad yw'r Llywodraeth hon yn gwybod beth yw ei dyraniad gwariant am fwy na blwyddyn. Mae'n hawdd iawn rhoi'r sicrwydd hwnnw i gydweithwyr yn Lloegr a pheidio â darparu'r un sicrwydd i ni yma yng Nghymru, ac mae angen i bobl wybod hynny. Mae’r Ceidwadwyr Cymreig—
A wnewch chi dderbyn ymyriad?
Na wnaf. Mae’r Ceidwadwyr Cymreig yn siarad yn annidwyll am lefel y cyllid a dderbyniodd Cymru trwy'r cylch gwario ar gyfer y flwyddyn nesaf. Fel y dylent wybod, oherwydd materion yn ymwneud â’r modd o drin ardrethi annomestig, mae hynny wedi arwain at ostyngiad o £178 miliwn yng nghyllideb Cymru, ac ni allwch gymharu tebyg a thebyg wrth edrych ar gyllidebau adrannol. Yn y bôn, mae cyllideb gyffredinol Cymru wedi codi, mae wedi codi, tua 2.3 y cant mewn termau real y flwyddyn nesaf—dyna ffaith rwy’n gwbl hapus i'w chydnabod—tra bod yr adrannau allweddol yn Lloegr wedi gweld codiadau o fwy na 3 y cant mewn termau real. Dyna realiti'r sefyllfa rydym yn ymdrin â hi.
Rwyf hefyd yn parhau i weld bod y Ceidwadwyr Cymreig yn cyfeirio at fwlch gwariant honedig o £600 y disgybl o'i gymharu â Lloegr. Maent yn gwybod, Lywydd, eu bod yn dyfynnu hen ffigur o 2011, ac maent yn gwybod ei fod yn anghywir. Maent yn gwybod bod y ffigurau diweddaraf yn dangos bod y bwlch wedi'i ddileu fwy neu lai. Os ydym am wneud cynnydd ar y mater hwn, mae’n hen bryd ein bod yn onest am y sefyllfa rydym i gyd yn ei hwynebu a’n bod yn rhoi'r gorau i geisio camarwain pobl.
Bydd yr Aelodau’n ymwybodol o’r alwad ddoe, Lywydd, gan Senedd Ieuenctid Cymru am fwy o bwyslais ar sgiliau bywyd gan gynnwys addysg ariannol yn y cwricwlwm. Wel, ar ôl y perfformiad y prynhawn yma, y cyfan y gallaf ei ddweud yw efallai y gallwn drefnu dosbarth addysg i oedolion ar yr un pwnc i rai o'r Aelodau yn y Siambr hon. Gallai fod yn ddechrau da.
Lywydd, nid wyf yn bwriadu mynd trwy bob un o argymhellion yr adroddiad. Bûm yn glir yn fy ymateb i'r pwyllgor, ac os yw'r Cadeirydd eisiau eglurder pellach, rwy'n hapus i ddarparu hynny. Ond hoffwn ddarparu ychydig mwy o fanylion ynghylch prif argymhelliad yr adroddiad, argymhelliad 1. Rydym wedi ymgysylltu â rhanddeiliaid a alwodd am yr adolygiad yn ogystal â'r rhai sydd wedi ymchwilio i gyllid addysg. Felly, rydym wedi gofyn am gyngor gan yr Undeb Addysg Cenedlaethol, gan Gymdeithas Genedlaethol y Prifathrawon, gan Gymdeithas Arweinwyr Ysgolion a Cholegau, gan Undeb Cenedlaethol Athrawon Cymru—ein gwahanol randdeiliaid undeb.
Bydd y pwyllgor yn ymwybodol, fel y mae Siân Gwenllian, o'r cymhlethdodau wrth nodi cost sylfaenol rhedeg ysgol ac addysgu disgybl. Mae'r Sefydliad Astudiaethau Cyllid yn dweud bod gwariant cyfartalog y disgybl yng Nghymru ychydig o dan £6,000 y pen, ond mae gwariant y disgybl yn amrywio. Mae'n amrywio ar draws awdurdodau lleol. Mae'r amrywiaeth hon yn adlewyrchu cyfuniad o wahaniaethau o ran amddifadedd, teneurwydd poblogaeth, defnydd o staff mewn sefydliadau unigol, union strwythur system ysgolion mewn awdurdod addysg lleol, yn ogystal â'r dewisiadau a wneir gan awdurdodau lleol yn unol â’u cyfrifoldeb dros bennu cyllidebau ysgolion. Ac o ganlyniad, buaswn yn dadlau nad oes ysgol gyfartalog yng Nghymru.
Mae angen i ni gael dealltwriaeth glir o sut y mae gwahanol ysgolion a gwahanol awdurdodau yn gwario eu harian ar hyn o bryd, ac mae angen i ni wneud hynny i helpu i ddylanwadu ar lunio polisïau yn y dyfodol. Rwy’n falch felly o gyhoeddi y prynhawn yma fod yr addysgwr-economegydd blaenllaw, Luke Sibieta, wedi cytuno i ymgymryd â’r gwaith hwn yn annibynnol ar y Llywodraeth. Rwy’n siŵr y bydd yr Aelodau’n cydnabod arbenigedd a gwaith Luke yn y maes hwn, gan gynnwys ei waith i’r Sefydliad Astudiaethau Cyllid, a byddaf yn gwneud cyhoeddiadau pellach ar gylch gorchwyl yr adolygiad ac amserlenni adolygiad Luke yn y dyddiau nesaf.
A wnewch chi dderbyn ymyriad?
Gwnaf, wrth gwrs.
Ar yr adolygiad, beth yw'r amserlen ar ei gyfer, os gwelwch yn dda? Yr hyn rwy'n ei ofni yw fod—mae'n gymhleth, mae'r maes cyfan yn gymhleth. Onid yw’n mynd i fod yn esgus ar gyfer gwthio'r holl drafodaeth naill ochr, oherwydd mae angen yr arian ar yr ysgolion cyn gynted â phosibl, nid 12 mis yn nes ymlaen?
Caf fy arwain gan arbenigedd Luke yn y mater hwn, ac rwy'n siŵr y byddem i gyd eisiau i'r gwaith fod yn gynhwysfawr, ond buaswn yn gobeithio y byddai wedi’i gwblhau cyn toriad haf 2020, a felly mae'n gyfle i ddylanwadu ar y set nesaf o drafodaethau'r cyllideb.
Yn ei dro, hoffwn ganolbwyntio ar argymhelliad 4, sy'n gofyn i ni ystyried sut y gellir pennu dyraniad adnoddau i awdurdodau lleol trwy ddull sy'n seiliedig ar anghenion, a beth y dylai'r dull hwn ei ystyried mewn perthynas â’r elfen addysg o gyllid awdurdod lleol. Rwy’n croesawu’r ffaith bod y rhan addysg o'r is-grŵp dosbarthu llywodraeth leol eisoes yn ystyried y potensial ar gyfer datblygu dull amgen yn lle’r fformiwla addysg o fewn y model setliad llywodraeth leol. Yn ei hanfod, mae'r gwaith ar elfen addysg y fformiwla yn beilot y bydd angen ei brofi'n drylwyr iawn cyn y gellir ystyried cyflwyno’r fethodoleg hon ymhellach, a byddaf yn ystyried sut y mae'r gwaith hwn yn cyd-fynd â'r gwaith a ddatblygir o dan argymhelliad 1. Ac rwy'n ddiolchgar iawn i'r Gweinidog Llywodraeth Leol a Thai am gytuno i weithio mewn partneriaeth â mi ar yr argymhelliad penodol hwn. Ac wrth gwrs, byddwn yn hapus iawn i roi'r wybodaeth ddiweddaraf i gyd-Aelodau am y gwaith hwnnw.
Er mwyn parhau i godi safonau, rwy'n cydnabod bod angen cefnogaeth ar ein hysgolion trwy gyllid craidd. Fodd bynnag, fel rydym wedi trafod yn helaeth y prynhawn yma, gan fod y setliad llywodraeth leol heb ei neilltuo, mater i awdurdodau lleol yw penderfynu ar eu blaenoriaethau. A hoffwn ddweud wrth Suzy Davies ac wrth Alun Davies yn wir: efallai fod gennych farn ynghylch ariannu ysgolion yn uniongyrchol, ond mae'n rhaid i mi ddweud bod barn wahanol gan arweinwyr Llafur awdurdodau lleol yng Nghymru, ac yn wir y rheini yn y Blaid Geidwadol sydd mewn swyddi â chyfrifoldeb mewn awdurdodau lleol yng Nghymru, sy'n teimlo'n wahanol iawn. Efallai y dylech gael sgyrsiau gyda hwy.
A Darren, o ran y rhagosodiad ffug hwn o raniad rhwng gogledd a de, rhoddais amser yn ddiweddar i fynd i’r is-grŵp dosbarthu. Gofynnais yn benodol i arweinwyr y cynghorau a gynrychiolwyd yno y prynhawn hwnnw a fyddent yn cynnal adolygiad o'r data a'r fformiwla ariannu. Ac mae'n rhaid i mi ddweud, fe wnaeth arweinydd Wrecsam, y credaf ei fod yng ngogledd Cymru, ac arweinydd Gwynedd y credaf ei fod yng ngogledd Cymru hefyd, wrthod yn bendant y cynnig i drafod newid y fformiwla ariannu.
Felly, os caf fynd yn ôl at fy sgript, ac rwy'n ymwybodol o'r amser, Lywydd, hoffwn gydnabod fy mod yn parhau, o fewn yr adran addysg, i ddarparu grantiau sylweddol, yn ychwanegol at y dyraniadau yn y grant cynnal refeniw i ariannu ysgolion lleol, awdurdodau lleol a chonsortia addysg rhanbarthol. Fel rwy'n siŵr y bydd yr Aelodau'n cydnabod, mae gennym agenda ddiwygio hynod uchelgeisiol wedi'i nodi yng nghynllun gweithredu cenhadaeth ein cenedl, ac er y pwysau parhaus ar ein cyllidebau, roeddwn yn falch y llynedd o allu cyhoeddi'r buddsoddiad unigol mwyaf yn addysg broffesiynol y proffesiwn addysgu ers dechrau datganoli. Ac wrth bennu cyflogau athrawon am y tro cyntaf yng Nghymru eleni, rydym wedi gwyro oddi wrth yr argymhellion yn Lloegr trwy sicrhau bod y cyflog cychwynnol i athrawon sy'n dechrau gweithio yng Nghymru yn uwch nag y mae dros y ffin. Bydd hyn yn helpu i hyrwyddo addysgu fel proffesiwn dewisol ar gyfer graddedigion a rhai sy’n newid gyrfa.
I gloi, i'r holl Aelodau sy'n gwneud yr achos dros ariannu ysgolion, rwy’n dweud, 'Wrth gwrs fy mod yn cefnogi cynyddu cyllid i addysg', a chredaf fod fy record hyd yn oed cyn i mi ddod yn rhan o'r Llywodraeth yn brawf o hynny. Ond nid wyf eto wedi gweld cyfrifiad gwariant dilys a chynhwysfawr wedi'i ystyried yn dda gan unrhyw un yn yr wrthblaid sy'n dangos lle byddant yn torri cyllid er mwyn rhoi mwy o arian i fy nghyllideb. Nid oes prawf fod unrhyw wrthblaid yma'n gwneud cyllid i ysgolion yn flaenoriaeth. Ond fel erioed, rwy'n hapus iawn i drafod argymhellion ac awgrymiadau wrth iddynt ddod drwodd. A hoffwn ailadrodd unwaith eto fy mod yn croesawu adroddiad y pwyllgor ac rwy’n gobeithio bod cefnogaeth ar draws y Siambr i'r argymhellion y mae'n eu cynnwys.
Y Cadeirydd, Lynne Neagle, i ymateb i'r ddadl—Lynne Neagle.
Diolch i chi, Lywydd, ac a gaf fi ddiolch i'r holl Aelodau sydd wedi cyfrannu at y ddadl y prynhawn yma a diolch i'r Gweinidog am ei chyfraniadau? Fe geisiaf ymateb i rai o'r pwyntiau a wnaeth yr Aelodau yn y ddadl.
Suzy Davies, yn amlwg, fe gefnogoch chi ragosodiad yr adroddiad. Bu ychydig o anghydweld ynghylch faint o arian sydd gennym yn dod i ni yng Nghymru. Fy nealltwriaeth i yw ei fod yn llai nag y dywedoch chi, ond rwyf wedi bod yn glir iawn yn yr hyn a ddywedais wrth Lywodraeth Cymru fy mod am weld y rhan fwyaf ohono'n mynd tuag at addysg, ac rwy’n gobeithio y bydd hynny'n digwydd yn y gyllideb sydd ar y ffordd.
A gaf fi ddiolch i Siân Gwenllian am ei chyfraniad, yn enwedig y ffocws cryf iawn ar wariant ataliol? Fel y dywedais yn fy araith, buddsoddi mewn addysg yw’r buddsoddiad ataliol pwysicaf y gallwn ei wneud o ran mynd i’r afael â thlodi plant a chynyddu cyfleoedd bywyd. Mae wedi bod yn ffocws rheolaidd i’n gwaith craffu ar y gyllideb lle rydym wedi codi pryderon yn gyson, fel yn wir y mae’r pwyllgor iechyd wedi’i wneud, fod angen canolbwyntio mwy ar atal. Felly, rwy'n croesawu'n fawr y pwyslais rydych wedi'i roi ar hynny, a hefyd—
Rydym wedi clywed y prynhawn yma na fydd yr adolygiad sydd gennym yn argymhelliad 1 yn cael ei gwblhau tan yr haf nesaf. Felly, a ydych chi'n credu bod angen i Lywodraeth Cymru ail-gydbwyso’r gyllideb o blaid gwasanaethau ataliol, gan gynnwys addysg, yn y gyllideb nesaf, heb aros am ganlyniadau'r adolygiad?
Diolch, Siân. Roeddwn yn mynd i barhau i ddweud eich bod wedi gwneud y pwynt yn eich araith nad oeddech yn credu y dylai'r adolygiad fod yn rheswm dros aros cyn rhoi mwy o adnoddau tuag at addysg, ac rwy'n cytuno'n llwyr â hynny, ac rwy'n siŵr bod y Gweinidog hefyd yn cytuno â hynny. Nid oes unrhyw reswm dros aros. Pwrpas yr adolygiad, a amlygwyd hefyd gan Dawn Bowden, yw fod y pwyllgor yn awyddus i addysg fod ar sail debyg i iechyd, lle cawsom adolygiad Nuffield a edrychodd yn fanwl ar yr angen i wario ym maes iechyd ac sydd wedi wedi'i ddefnyddio fel sail ar gyfer gosod cyllideb. Felly, byddai hynny'n werthfawr iawn, ond yn sicr nid wyf yn credu bod angen aros, ac mae angen i ni weld y buddsoddiad ychwanegol hwnnw yn awr, oherwydd fe wyddom am y pwysau sydd yn y system yn awr.
A gaf fi ddiolch i Dawn Bowden am ei chyfraniad ac am y rôl a chwaraeodd yn y pwyllgor yn helpu i ddatrys y cymhlethdod? Mae'n wir ei fod yn hynod gymhleth. Mewn gwirionedd, ceir pennod gyfan yn yr adroddiad ar sut y mae cyllid ysgolion yn gweithio. Rwy'n ei argymell, mae'n ddeunydd darllen hynod ddiddorol. Ond mae'n arwydd o ba mor anodd yw olrhain yr arian. Cawsom drafodaeth faith yn y pwyllgor am gyni hefyd, ac rydym wedi ceisio llunio adroddiad sy'n cydnabod yr heriau sy'n wynebu Llywodraeth Cymru o ran yr hyn a ddaw i Lywodraeth Cymru o San Steffan, ond mae'n ceisio targedu lle mae angen i ni wella.
Diolch yn fawr iawn, Lynne. Pwynt o eglurhad yn unig am yr adolygiad ydoedd yn fwy na dim. Roedd ein hargymhelliad yn ymwneud â chyllid ysgolion—digonolrwydd cyllid ysgolion—nid addysg yn gyffredinol. Ac o gofio'r rhaniad rhwng llywodraeth leol a'r pot addysg yn ganolog, rwy'n credu bod hwnnw'n wahaniaeth pwysig y mae angen ei gofnodi.
Yn hollol. Rwy'n credu bod hynny wedi'i dderbyn—ei fod yn ymwneud â chyllido ysgolion, cost rhedeg ysgol, cost addysgu disgyblion unigol a chost y diwygiadau hefyd.
A gaf fi ddiolch i David Rowlands am ei gefnogaeth i adroddiad y pwyllgor? Cododd David fater cyllid uniongyrchol i ysgolion, fel y gwnaeth Alun Davies. Fel y nododd y Gweinidog, ceir safbwyntiau amrywiol iawn ar hynny. Cawsom rywfaint o dystiolaeth gan undebau fel y Gymdeithas Arweinwyr Ysgolion a Cholegau a ddywedodd y byddent yn croesawu fformiwla ariannu genedlaethol ar gyfer Cymru, ond wrth gwrs, roedd llywodraeth leol yn wrthwynebus iawn i hynny yn yr ymchwiliad. Yr hyn y mae'r pwyllgor wedi anelu i'w wneud yw ceisio sicrhau bod gennym agwedd gyson at gyllid, a dyna'n sicr yw ein ffocws.
A gaf fi ddiolch i Alun Davies am ei gyfraniad, ac rwyf wedi nodi peth ohono—hefyd ei gefnogaeth gref iawn i'r angen am gyllid priodol ar gyfer anghenion dysgu ychwanegol? Rwy'n gwybod bod hynny'n rhywbeth rydych chi'n ymrwymedig iawn iddo. Roedd honno'n thema gref iawn yn ymchwiliad y pwyllgor, ond hefyd yn ein gwaith craffu ar y Bil pan oedd yn mynd drwodd. Roedd rhanddeiliaid yn dweud wrthym, 'Ni fydd yn gweithio oni chaiff ei ariannu'n iawn', felly rydym yn glir iawn ar hynny.
Fe wnaethoch chi alw hefyd am gyllid wedi'i glustnodi ar gyfer ysgolion. Roeddwn yn aelod o'r pwyllgor cyllido ysgolion a gyfarfu yn 2005, tua 15 mlynedd yn ôl, a galwasom yno am ddiogelu cyllid ysgolion. Lleiafswm o gyllid fyddai—yr asesiad wedi’i seilio ar ddangosyddion fyddai'r lleiafswm y byddai'n rhaid ei wario yn ein hysgolion. Aeth yr adroddiad hwnnw a'r adroddiad a'i dilynodd—adolygiad Bramley—i'r blwch 'rhy anodd'. Dyna pam y gwnaf y pwynt na allwn ganiatáu i'r adolygiad sydd ar y ffordd fynd i'r blwch hwnnw hefyd.
A gaf fi ddiolch i'r Gweinidog am ei hymateb ac am ei hymwneud parhaus â'r pwyllgor, ac am yr agwedd gadarnhaol y mae wedi'i dangos tuag at argymhellion y pwyllgor? Rwy'n falch iawn fod Luke Sibieta wedi'i benodi. Bydd yr Aelodau'n cofio iddo ymgysylltu â'r pwyllgor—fe wnaeth sesiwn gyda ni—ac mae'n arbenigwr cydnabyddedig. Byddwn yn parhau i ddilyn y gwaith hwnnw gyda diddordeb mawr ac yn gobeithio y bydd yn arwain at ganfyddiadau arwyddocaol iawn.
A gaf fi gloi trwy ddiolch i bawb a roddodd dystiolaeth i'r pwyllgor ac a'n cefnogodd? I ailadrodd y pwynt a wneuthum, bydd yn rhaid i ni gael sgwrs aeddfed am hyn ar draws y pleidiau, ar draws y Llywodraeth ac ar draws llywodraeth leol, oherwydd mae angen i'r arian ddod o rywle. Ac rwy'n gobeithio y gallwn flaenoriaethu ein plant a'n pobl ifanc.
Y cwestiwn yw: a ddylid derbyn y cynnig? A oes unrhyw Aelod yn gwrthwynebu? Na, felly derbynnir y cynnig yn unol â Rheol Sefydlog 12.36.