Part of the debate – Senedd Cymru am 5:22 pm ar 23 Hydref 2019.
Caf fy arwain gan arbenigedd Luke yn y mater hwn, ac rwy'n siŵr y byddem i gyd eisiau i'r gwaith fod yn gynhwysfawr, ond buaswn yn gobeithio y byddai wedi’i gwblhau cyn toriad haf 2020, a felly mae'n gyfle i ddylanwadu ar y set nesaf o drafodaethau'r cyllideb.
Yn ei dro, hoffwn ganolbwyntio ar argymhelliad 4, sy'n gofyn i ni ystyried sut y gellir pennu dyraniad adnoddau i awdurdodau lleol trwy ddull sy'n seiliedig ar anghenion, a beth y dylai'r dull hwn ei ystyried mewn perthynas â’r elfen addysg o gyllid awdurdod lleol. Rwy’n croesawu’r ffaith bod y rhan addysg o'r is-grŵp dosbarthu llywodraeth leol eisoes yn ystyried y potensial ar gyfer datblygu dull amgen yn lle’r fformiwla addysg o fewn y model setliad llywodraeth leol. Yn ei hanfod, mae'r gwaith ar elfen addysg y fformiwla yn beilot y bydd angen ei brofi'n drylwyr iawn cyn y gellir ystyried cyflwyno’r fethodoleg hon ymhellach, a byddaf yn ystyried sut y mae'r gwaith hwn yn cyd-fynd â'r gwaith a ddatblygir o dan argymhelliad 1. Ac rwy'n ddiolchgar iawn i'r Gweinidog Llywodraeth Leol a Thai am gytuno i weithio mewn partneriaeth â mi ar yr argymhelliad penodol hwn. Ac wrth gwrs, byddwn yn hapus iawn i roi'r wybodaeth ddiweddaraf i gyd-Aelodau am y gwaith hwnnw.
Er mwyn parhau i godi safonau, rwy'n cydnabod bod angen cefnogaeth ar ein hysgolion trwy gyllid craidd. Fodd bynnag, fel rydym wedi trafod yn helaeth y prynhawn yma, gan fod y setliad llywodraeth leol heb ei neilltuo, mater i awdurdodau lleol yw penderfynu ar eu blaenoriaethau. A hoffwn ddweud wrth Suzy Davies ac wrth Alun Davies yn wir: efallai fod gennych farn ynghylch ariannu ysgolion yn uniongyrchol, ond mae'n rhaid i mi ddweud bod barn wahanol gan arweinwyr Llafur awdurdodau lleol yng Nghymru, ac yn wir y rheini yn y Blaid Geidwadol sydd mewn swyddi â chyfrifoldeb mewn awdurdodau lleol yng Nghymru, sy'n teimlo'n wahanol iawn. Efallai y dylech gael sgyrsiau gyda hwy.
A Darren, o ran y rhagosodiad ffug hwn o raniad rhwng gogledd a de, rhoddais amser yn ddiweddar i fynd i’r is-grŵp dosbarthu. Gofynnais yn benodol i arweinwyr y cynghorau a gynrychiolwyd yno y prynhawn hwnnw a fyddent yn cynnal adolygiad o'r data a'r fformiwla ariannu. Ac mae'n rhaid i mi ddweud, fe wnaeth arweinydd Wrecsam, y credaf ei fod yng ngogledd Cymru, ac arweinydd Gwynedd y credaf ei fod yng ngogledd Cymru hefyd, wrthod yn bendant y cynnig i drafod newid y fformiwla ariannu.
Felly, os caf fynd yn ôl at fy sgript, ac rwy'n ymwybodol o'r amser, Lywydd, hoffwn gydnabod fy mod yn parhau, o fewn yr adran addysg, i ddarparu grantiau sylweddol, yn ychwanegol at y dyraniadau yn y grant cynnal refeniw i ariannu ysgolion lleol, awdurdodau lleol a chonsortia addysg rhanbarthol. Fel rwy'n siŵr y bydd yr Aelodau'n cydnabod, mae gennym agenda ddiwygio hynod uchelgeisiol wedi'i nodi yng nghynllun gweithredu cenhadaeth ein cenedl, ac er y pwysau parhaus ar ein cyllidebau, roeddwn yn falch y llynedd o allu cyhoeddi'r buddsoddiad unigol mwyaf yn addysg broffesiynol y proffesiwn addysgu ers dechrau datganoli. Ac wrth bennu cyflogau athrawon am y tro cyntaf yng Nghymru eleni, rydym wedi gwyro oddi wrth yr argymhellion yn Lloegr trwy sicrhau bod y cyflog cychwynnol i athrawon sy'n dechrau gweithio yng Nghymru yn uwch nag y mae dros y ffin. Bydd hyn yn helpu i hyrwyddo addysgu fel proffesiwn dewisol ar gyfer graddedigion a rhai sy’n newid gyrfa.
I gloi, i'r holl Aelodau sy'n gwneud yr achos dros ariannu ysgolion, rwy’n dweud, 'Wrth gwrs fy mod yn cefnogi cynyddu cyllid i addysg', a chredaf fod fy record hyd yn oed cyn i mi ddod yn rhan o'r Llywodraeth yn brawf o hynny. Ond nid wyf eto wedi gweld cyfrifiad gwariant dilys a chynhwysfawr wedi'i ystyried yn dda gan unrhyw un yn yr wrthblaid sy'n dangos lle byddant yn torri cyllid er mwyn rhoi mwy o arian i fy nghyllideb. Nid oes prawf fod unrhyw wrthblaid yma'n gwneud cyllid i ysgolion yn flaenoriaeth. Ond fel erioed, rwy'n hapus iawn i drafod argymhellion ac awgrymiadau wrth iddynt ddod drwodd. A hoffwn ailadrodd unwaith eto fy mod yn croesawu adroddiad y pwyllgor ac rwy’n gobeithio bod cefnogaeth ar draws y Siambr i'r argymhellion y mae'n eu cynnwys.