Part of the debate – Senedd Cymru am 5:54 pm ar 23 Hydref 2019.
Iawn, wel, fe ddof ymlaen at hynny mewn ychydig bach, ond fel y cofiwch—credaf i chi glywed gan fy nghyd-Aelod, Angela Burns, heb fod yn bell iawn yn ôl am rai o'r safbwyntiau sydd gennym ar gredyd cynhwysol, ei amseriad a phryderon ynghylch yr oedi am bum wythnos ar ei ddechrau. Ond wrth gwrs, nid yw wedi'i ddatganoli ac ni allwn wneud mwy na hyn a hyn o waith ar hynny'n uniongyrchol ein hunain.
A gaf fi fynd yn ôl i ble y dechreuais, ynglŷn â deddfwriaeth a phroblem digartrefedd? Oherwydd os ydym am gyflwyno hawl statudol i hyn, yn bersonol nid oes gennyf lawer o amynedd gyda statud yn cael ei ddefnyddio’n symbolaidd yn unig, ac os gellir perswadio'r Gweinidog i ddilyn y llwybr hwn—ac rwy’n gobeithio y gwnaiff hi—y bydd hi’n annog ystyriaeth o'r mecanweithiau ar gyfer rhoi unrhyw hawliau mewn grym a chynnig camau unioni ar gyfer methiant i wneud hynny.
Rwy'n credu y byddai adolygiad ôl-ddeddfwriaethol o'r Ddeddf i'w groesawu'n fawr yn awr. Rydym yn cytuno, fel y clywsoch, gyda Tai yn Gynraf yn blaenoriaethu dod o hyd i lety, ond nid wyf yn berffaith siŵr bod y gefnogaeth gofleidiol yn dilyn, a gobeithio y byddwch yn nodi ein hymrwymiad i'r cyllid Cefnogi Pobl.
Weinidog—rwy'n credu fy mod wedi codi hyn gyda chi o'r blaen—mae pobl fregus o Gastell-nedd Port Talbot wedi cael eu cartrefu yn Abertawe yn ddiweddar, ac mae'r heddlu a thrigolion wedi dweud wrthyf fod yna broblemau ynghlwm wrth hynny. Mae gan y ddinas ei llinellau cyffuriau a'i phroblemau cyffuriau eisoes, gan gynnwys cogio, a hynny yn y sector cymdeithasol yn ogystal â'r sector rhentu preifat.
Nid dyna yw ffocws y cynnig hwn, ond rwy'n credu y gall ac y dylai'r sector rhentu preifat gyfrannu at leddfu digartrefedd. Efallai y bydd angen 40,000 o gartrefi sector cymdeithasol newydd arnom, ond byddai hynny'n cymryd 10 mlynedd, hyd yn oed o dan Lywodraeth Geidwadol Gymreig, felly rwy'n credu y dylai'r sector preifat hefyd fod yn asiant gweithredol i ddarparu tai o ansawdd da yn ogystal â bod yn bartneriaid da. Yn Abertawe, mae’r gwerthwyr tai Wallich a Dawsons wedi helpu cleientiaid a oedd wedi profi digartrefedd i ddod o hyd i lety cynaliadwy trwy gynnig gwarantau yn lle bondiau arian parod i landlordiaid, ynghyd â chymorth gydag oedi budd-daliadau ac ôl-ddyledion rhent, er enghraifft.
Mae'n werth nodi nad ansicrwydd deiliadaeth yw’r prif reswm pam y mae pobl yn gadael llety rhent preifat. Y tenant sy’n dod â’r rhan fwyaf o denantiaethau i ben, ond er hynny, pan fydd y landlord yn dirwyn y denantiaeth i ben, y prif reswm yw ôl-ddyledion rhent, ac yn aml, newidiadau yn y system fudd-daliadau sy’n sail i hynny. Nid wyf yn ceisio osgoi hynny, fel rwy’n gobeithio fy mod wedi dangos yn glir, ond os dywedwn fod a wnelo hyn â budd-daliadau yn unig, neu gyflog isel hyd yn oed, rydym yn colli golwg ar gamddefnyddio diod a chyffuriau a phroblemau iechyd meddwl cynifer a fyddai, heb yr heriau hynny, Leanne, yn gallu rheoli eu cyllid yn well, ni waeth pa mor anodd fyddai hynny. Rydym yn colli golwg ar y rhai sy'n dianc rhag trais a chael eu taflu allan o'u cartref teuluol, y rhai sy'n mynd ar goll o ofal, a hyd yn oed rhywbeth, fel y clywsom gan Jack Sergeant, sydd mor syml, ond mor ddinistriol yn bersonol, â methu cadw eich anifeiliaid anwes gyda chi.
Ac felly trof at bwynt 6 yn ein cynllun gweithredu, sef addysg. Roedd Llywodraeth Cymru yn anghywir i beidio â chefnogi Bil meinciau cefn Bethan Sayed ar gynhwysiant ariannol. Fel rwy'n siŵr y byddwn yn clywed eto yn y ddadl hon, nid yw digartrefedd bob amser yr hyn y credwn ydyw, a gallai ddigwydd i unrhyw un. Mae rheoli arian a datblygu gwytnwch yn erbyn sioc yn bethau a ddysgwn, ac mae hynny'n ymwneud lawn cymaint â phrofiad personol ac iechyd meddwl ag â deallusrwydd neu dlodi cymharol. Mae lle i hyn ym meysydd dysgu a phrofiad y cwricwlwm newydd. Mae digartrefedd yn bodoli ym mhobman, fel y dywedodd Neil, ac ni fydd prinder deunydd Cynefin i ddarparu'r cynnwys lleol hwn. Mewn gwirionedd, mae cyngor Abertawe eisoes wedi ymrwymo i ddatblygu rhaglen addysg gyda phobl ifanc, wedi'i chydgynhyrchu, i wella eu gwaith ar atal digartrefedd.
Felly, casglu data—os caniatewch hyn i mi, Ddirprwy Lywydd—nid yw hyn yn ymwneud â digartrefedd yn unig yn fy marn i. Beth sy'n ddefnyddiol i'w gasglu trwy ddata? Gadewch i ni gymryd y gymuned sefydlog o bobl dduon a lleiafrifoedd ethnig fel un enghraifft. Ar un adeg, roeddent wedi’u gorgynrychioli mewn ceisiadau tai cymdeithasol, ond bellach, y gwrthwyneb sy’n wir. Ac nid wyf yn siarad am ffoaduriaid a cheiswyr lloches yma, ond teuluoedd sydd wedi ymsefydlu yng Nghymru, teuluoedd Cymreig y mae eu ffactorau risg o ddigartrefedd yn gyfarwydd—chwalfa perthynas, anghenion cymorth heb eu diwallu, methu byw'n annibynnol—ond gall fod ffactorau ychwanegol fel gorlenwi, cael eich cartrefu mewn ardal lle rydych yn wynebu gwahaniaethu neu gam-drin hiliol, lle nad oes unrhyw breswylwyr eraill yn siarad iaith eich cartref, efallai eich bod yn rhy bell o'ch man addoli, eich system gymorth, a lle bydd diffyg gwelededd cymorth tai yn eich gyrru tuag at dai preifat o ansawdd gwael, felly nid ydych yn ymddangos yn yr ystadegau tai.
Yn olaf, mae Noddfa Digartref Abertawe yn wynebu cau oherwydd ei fod £900 yn y coch: swm mor fach am rywbeth a all wneud gwahaniaeth mor fawr, ac mae'r un peth yn wir am gyllid Cefnogi Pobl. Cadwch hwn a’i glustnodi am dair blynedd, Weinidog, neu byddwn yn gofyn i bobl Cymru ofyn i ni ei wneud. Diolch.