Part of the debate – Senedd Cymru am 5:59 pm ar 23 Hydref 2019.
Diolch, Ddirprwy Lywydd. Rwy’n croesawu’n fawr y cyfle i drafod y mater pwysig hwn a’r ysbryd y cafodd ei drafod ynddo hyd yma. Mae digartrefedd yn gymhleth ac fe’i hachosir gan nifer o wahanol ddigwyddiadau. Er bod pobl yn aml yn meddwl bod digartrefedd yn golygu cysgu ar y stryd, un math yn unig o ddigartrefedd yw cysgu ar y stryd, er mai dyna'r math mwyaf gweladwy a'r mwyaf peryglus yn ôl pob tebyg. Rydym yn gwybod bod llawer mwy o bobl ddigartref yn cysgu ar soffas a lloriau ffrindiau a theulu neu mewn llety dros dro, neu'n byw mewn amodau gorlawn, weithiau gyda dau deulu'n byw mewn tŷ dwy ystafell wely. Pan fydd y dewis rhwng byw mewn llety gorlawn neu fyw ar y strydoedd, mae'n hawdd gweld pam y mae pobl yn dewis y llety gorlawn iddynt eu hunain mewn perthynas â ffrind, a gallwch ddeall pam y mae pobl yn gwneud lle i bobl pan nad oes ganddynt le mewn gwirionedd, fel nad ydynt yn gorfod cysgu ar y stryd.
Mae digartrefedd yn ddinistriol. Caiff ei yrru gan renti uchel ac incwm isel, diffyg tai fforddiadwy, pobl ddim yn cael y cymorth sydd ei angen arnynt pan fo’i angen arnynt, ac mae hyn yn cynnwys budd-daliadau. Y peth pwysicaf yw atal pobl rhag mynd yn ddigartref yn y lle cyntaf trwy ymyrraeth gynnar, ac mae Llywodraeth Cymru wedi ymrwymo i hynny, a phasiwyd Deddf ychydig flynyddoedd yn ôl yn siarad am ymyrraeth gynnar. Bydd atal yn rhwystro pobl rhag mynd yn ddigartref yn y lle cyntaf. Mae angen i bobl ymyrryd pan geir bygythiad o ddigartrefedd, nid aros am y diwrnod cyn iddynt gael eu symud allan, neu mewn rhai achosion y diwrnod y cânt eu symud allan. Nawr, mae gan awdurdodau lleol bŵer a dyletswydd i'w wneud, ond mae angen i ni sicrhau bod pob awdurdod lleol yn defnyddio'r pŵer hwnnw a'r ddyletswydd honno er mwyn sicrhau nad yw pobl yn mynd yn ddigartref. Weithiau gall ymyrraeth gynnar gadw pobl yn y cartref y maent ynddo ar hyn o bryd, gan ddarparu cefnogaeth ar y cam hwn yn hytrach nag aros i bobl fynd yn ddigartref, ymateb mewn argyfwng, darparu cymorth brys fel lloches, bwyd a rhaglenni dydd tra bo rhywun yn ddigartref.
Mae angen tai, llety a chymorth—darparu tai a chymorth parhaus fel ffordd o symud pobl allan o ddigartrefedd. I rai pobl ddigartref, ni fydd darparu tŷ neu fflat yn datrys eu problemau. Mae ganddynt broblemau eraill. Maent angen y cymorth sy’n gysylltiedig â thai a'r gwasanaethau byw â chymorth sy'n helpu pobl i fyw mor annibynnol ag y gallant, neu symud ymlaen i fyw'n annibynnol. Mae llawer o wahanol grwpiau o bobl yn elwa o'r gwasanaethau hyn.
Ceir llawer o ddarparwyr yng Nghymru sy'n darparu cymorth sy'n gysylltiedig â thai a gwasanaethau byw â chymorth, ond nid fi fuaswn i pe na bawn i’n sôn am y rhai yn Abertawe. Gwneir gwaith da gan The Wallich hefyd, gan gynnwys eu prosiect menywod trawsffiniol yn Birchgrove, Abertawe, ac rwy'n annog pobl i ymweld ag ef os ydynt yn yr ardal, a Dinas Fechan hefyd, hostel 15 ystafell wely sy'n darparu lloches a chymorth i bobl ddigartref sengl. Mae'r hostel yn darparu llety a chefnogaeth i bobl ag amrywiaeth o anghenion cymorth, gan gynnwys problemau iechyd meddwl, anawsterau dysgu, ymddygiad troseddol neu gamddefnyddio sylweddau. Mae'r holl breswylwyr yn cyfarfod yn rheolaidd â'u gweithiwr cymorth a fydd yn cynnig gwaith datblygu personol, mynediad at wasanaethau priodol a chyngor ar chwilio am lety parhaol. Mae gan bob preswylydd ei le byw ei hun ac ystafelloedd byw cymunedol a rennir. Mae'r holl waith da yn bwysig, ond rydym yn dymuno i bawb gael cartref digonol. Ni fydd penodi tsar digartrefedd, yn ddelfrydol rhywun sydd wedi cael profiad o fyw'n ddigartref ac sy'n gallu craffu ar y cynnydd tuag at roi diwedd ar ddigartrefedd yng Nghymru, yn dod â digartrefedd i ben.
Mae angen i ni adeiladu mwy o dai cyngor. Rwy'n gwybod fy mod yn rhygnu ymlaen am hyn drwy'r amser, ond yr unig amser ers yr ail ryfel byd nad oedd gennym argyfwng tai oedd pan oeddem yn adeiladu tai cyngor ar raddfa fawr. Dyna beth sydd angen i ni ei wneud—mynd yn ôl i adeiladu tai cyngor ar raddfa fawr. Mae gennym alw nad yw'n cael ei ddiwallu. Gallwn newid pwy sy’n cael blaenoriaeth gennym a sut i'w symud o gwmpas, ond y gwir amdani yw oni bai fod gennym dai digonol, rydym ond yn penderfynu bod gwahanol bobl yn mynd i gael cartref. Mae'n bwysig ein bod yn sicrhau bod digon o dai ar gael, ac mae gennym broblem enfawr oherwydd prinder tai cyngor, ac mae'n rhaid eu hadeiladu. Mae angen i ni fynd yn ôl i adeiladu ar raddfa fawr. Os edrychwn yn ôl ar y 50au a’r 60au, pan oedd gennym Lywodraethau Llafur a Cheidwadol yn San Steffan a oedd, ar adeg etholiad, yn ymgyrchu i weld pwy oedd yn mynd i adeiladu’r nifer fwyaf o dai cyngor. Mae’n debyg y byddai pobl fel Harold Macmillan yn ei chael hi’n anodd iawn bod yn rhan o Lywodraeth Boris Johnson. Roedd ganddynt ddiddordeb mawr mewn cael tai cyngor. Mae angen hynny arnom.
Mae angen i ni hefyd ddefnyddio tai a fflatiau gwag unwaith eto. Gall pob un ohonom grwydro o amgylch ein hetholaethau ein hunain a gweld tai, llawer ohonynt mewn ardaloedd poblogaidd, sydd wedi'u gadael yn wag, ac mae angen inni ddefnyddio’r rheini unwaith eto. Rwy'n gwybod bod Manselton yn fy etholaeth yn ardal boblogaidd o dai teras o ansawdd da, ond gallwch grwydro o amgylch y mwyafrif o strydoedd a dod o hyd i un neu fwy o dai sydd wedi'u gadael yn wag. Gwastraff adnoddau yw hyn, ac anfantais i bobl ddigartref mewn gwirionedd. Mae angen i ni gael mwy o dai cyngor a defnyddio tai a fflatiau gwag unwaith eto fel nad yw pobl yn ddigartref mwyach.