Part of the debate – Senedd Cymru am 6:26 pm ar 23 Hydref 2019.
Rwy'n croesawu'r ddadl hon. Mae'n anodd pan nad oes gennych neb. Rwy'n sefyll yma heddiw fel mam i filwr sy'n gwasanaethu yn y fyddin Brydeinig ac fel rhywun a oedd yn ddigartref am gyfnod byr yn berson ifanc 15 oed. Oherwydd bywyd cartref gwirioneddol wael, roeddwn angen rhywle i aros, felly roeddwn yn byw mewn carafán gyda ffrindiau yn gyfnewid am wneud gwaith achlysurol gyda ffair deithiol. Chwe wythnos yn ddiweddarach, ymosodwyd arnaf a bu bron i mi gael fy nhreisio, ac nid oedd gennyf ddewis ond dychwelyd adref i ddioddef ymosodiadau pellach gan fy llysfam. Aeth hynny ymlaen ac ymlaen. Roeddwn i'n mynd rownd mewn cylchoedd am flynyddoedd. Ni wyddwn ble i droi, felly rwy'n credu fy mod yr hyn rydym yn ei alw heddiw'n 'syrffiwr soffas'. Roeddwn yn teimlo o dan bwysau, heb sylfaen, yn ansicr iawn ac yn gwbl ddiwerth. Ond oherwydd y sefyllfa gartref, ymddangosai mai dyma'r dewis gorau a oedd ar gael i mi ar y pwynt hwnnw.
Mae'r profiad hwnnw wedi llywio llawer o fy mhenderfyniadau mewn bywyd: i weithio'n galed, cynnal fy hun, a chadw to dros fy mhen a dros bennau fy mhlant, heb fod arnaf ddim i neb. Mae fy mab yn dal i wasanaethu fel milwr ac wedi bod ar wasanaeth gweithredol, gan gynnwys teithiau amrywiol yn Irac ac Affganistan, a meddwl am gyn-filwyr yn arbennig sydd wedi fy nghymell i siarad heddiw.
Gwn fod achosion digartrefedd yn niferus, yn amrywiol ac yn gymhleth, ac y bydd gan bob person stori wahanol. Fodd bynnag, gwlad fach iawn yw Cymru a chanddi haenau cymhleth iawn o wasanaethau cyhoeddus a chymorth. Ble mae mynd? Ble mae dechrau? Gwn fod pocedi o arferion da. Soniwyd am Tai yn Gyntaf, er enghraifft, fel ymarfer gorau rai blynyddoedd yn ôl rwy'n credu ac mae'n gwneud synnwyr perffaith i roi cymorth go iawn i rywun allu rheoli eu tenantiaeth, yn hytrach na dim ond rhoi'r allweddi iddynt a'u gadael iddi. Mae hynny'n sicr o fethu. Felly, nid wyf yn deall pam nad yw Tai yn Gyntaf nac unrhyw faes arall o ymarfer da yn cael ei gyflwyno ar draws Cymru gyfan erbyn hyn. Mae'n ymddangos bod podiau cysgu wedi cael eu hanwybyddu a'u diystyru, ac nid yw'n ymddangos bod cartrefi cynwysyddion—hyblyg a symudol—wedi bod yn llwyddiant mawr. Nid wyf yn gwybod pam.
Gwn fod grŵp gweithredu'n cynghori'r Gweinidog. Rwy'n croesawu hyn, ond mae Llafur Cymru wedi cael 20 mlynedd a mwy i wneud rhywbeth, i gyflawni rhywbeth, i sganio'r gorwel ac i astudio demograffeg a newid yn y boblogaeth. Rwy'n bryderus iawn ei bod yn ymddangos fel pe baem wedi cerdded yn ein cwsg i mewn i'r argyfwng presennol lle mae ein pobl yn llythrennol yn marw ar ein strydoedd. Mae cynlluniau gweithredu, grwpiau gweithredu, strategaethau yn hyfryd, ond nid ydym yn gweld y canlyniadau y byddem yn gobeithio amdanynt i'r person ifanc neu'r cyn-filwr sydd angen y cymorth mewn gwirionedd. Ac mae'n edrych fel pe na bai neb yn gwrando, oherwydd maent i gyd yn edrych i lawr ar y cyfrifiaduron ac nid ydynt yn gwrando. Dyma'r realiti, ac nid oes yr un ohonoch wedi bod drwy'r math hwnnw o beth, felly fe ddylech wrando. [Torri ar draws.]
Fy marn i yw nad oes gan yr un blaid fonopoli ar syniadau da ac rwy'n croesawu'r adroddiad meddylgar hwn gan y Ceidwadwyr. Ond buaswn yn dweud nad yw 'prysur' yn golygu effeithiol, ac mae'n bryd gwneud gwahaniaeth gwirioneddol yn y maes hwn. Mae pobl angen gobaith, mae pobl angen diogelwch, maent angen sefydlogrwydd. Ac mae pawb angen cartref.