Part of 1. Cwestiynau i'r Prif Weinidog – Senedd Cymru am 1:30 pm ar 5 Tachwedd 2019.
Diolch am yr ateb yna. Daeth yr adroddiad i'r casgliad bod toriadau'r Torïaid i gymorth cyfreithiol wedi taro Cymru yn anghymesur o galed—eu geiriau nhw, nid fy rhai i. Ers y gostyngiad sylweddol i'r gyllideb yn 2013, mae nifer y cwmnïau sy'n darparu cymorth cyfreithiol yng Nghymru wedi gostwng gan bron i draean, gan greu'r hyn y mae'r adroddiad yn ei alw'n 'ardaloedd dim cyngor' mewn sawl rhan o'r wlad. Felly, mewn ymateb i adroddiad y comisiwn, sut y gwnaiff eich Llywodraeth hyrwyddo mynediad teg at gyfiawnder wrth i system gyfreithiol neilltuol i Gymru ddod i'r amlwg yn y blynyddoedd i ddod?