Mawrth, 5 Tachwedd 2019
Cyfarfu’r Cynulliad am 13:30 gyda’r Llywydd (Elin Jones) yn y Gadair.
Yr eitem gyntaf yw'r cwestiynau i'r Prif Weinidog, ac mae'r cwestiwn cyntaf gan Joyce Watson.
1. Pa asesiad y mae'r Prif Weinidog wedi'i wneud o adroddiad y Comisiwn ar Gyfiawnder yng Nghymru a gyhoeddwyd y mis diwethaf? OAQ54638
2. Pa drafodaethau y mae'r Prif Weinidog wedi'u cael gyda'r Gweinidog Iechyd a Gofal Cymdeithasol ynghylch gwella'r cymorth i'r rhai sy'n dioddef profedigaeth ar ôl hunanladdiad yng Nghymru...
Cwestiynau nawr gan arweinwyr y pleidiau, ac arweinydd Plaid Cymru, Adam Price.
3. Pa strategaeth y bydd Llywodraeth Cymru yn ei dilyn i gefnogi'r economi yng Nghymru? OAQ54634
4. A wnaiff y Prif Weinidog ddatganiad am y camau a gymerwyd gan Lywodraeth Cymru i wella gwasanaethau iechyd meddwl i bobl ifanc? OAQ54645
5. Pa gamau y mae Llywodraeth Cymru yn eu cymryd i wella mynediad cleifion at ofal iechyd yng Ngorllewin De Cymru? OAQ54644
6. Pa drafodaethau y mae Llywodraeth Cymru wedi'u cael ynghylch gweithredu'r gronfa ffyniant gyffredin arfaethedig? OAQ54640
7. A wnaiff y Prif Weinidog ddatganiad am gefnogaeth Llywodraeth Cymru i addysg cyfrwng Cymraeg yng Nghanolbarth a Gorllewin Cymru? OAQ54623
9. Pa ganllawiau y mae Llywodraeth Cymru wedi'u cyhoeddi ynghylch cyflogau'r sector cyhoeddus yng Nghymru? OAQ54614
Yr eitem nesaf, felly, yw'r datganiad a chyhoeddiad busnes, a dwi'n galw ar y Trefnydd i wneud y datganiad hwnnw. Rebecca Evans.
Yr eitem nesaf, felly, yw'r datganiad gan y Prif Weinidog ar adroddiad y Comisiwn ar Gyfiawnder yng Nghymru. Dwi'n galw'r Prif Weinidog i wneud ei ddatganiad—Mark Drakeford.
Eitem 4 ar yr agenda yw datganiad gan y Gweinidog Tai a Llywodraeth Leol, ar gefnogi awdurdodau tai lleol i sicrhau opsiynau tai tymor hir yn y sector rhentu preifat, a galwaf ar y Gweinidog Tai...
Eitem 5 ar yr agenda yw datganiad gan y Gweinidog Cyllid a'r Trefnydd ar y diweddariad blynyddol ar ddiwygio cyllid llywodraeth leol. Galwaf ar y Gweinidog Cyllid a'r Trefnydd, Rebecca Evans.
Eitem 6 ar yr agenda yw dadl ar adroddiad blynyddol Comisiynydd y Gymraeg ar gyfer 2018-19. Galwaf ar Weinidog y Gymraeg a Chysylltiadau Rhyngwladol i gynnig y cynnig—Eluned Morgan.
A wnaiff y Prif Weinidog ddatganiad am effaith y gostyngiad yn y grant bloc ers 2010?
Senedd Cymru (Saesneg: Welsh Parliament) neu'r Senedd yw'r corff datganoledig sy'n cael ei ethol yn ddemocrataidd i drafod polisïau ac sy'n cymeradwyo deddfwriaeth sy'n ymwneud â Chymru. Rhan o'i waith yw dwyn Llywodraeth Cymru i gyfrif. Rhwng mis Mai 1999 a mis Mai 2020, enw'r sefydliad oedd Cynulliad Cenedlaethol Cymru (Saesneg: National Assembly for Wales). – Wicipedia