Part of 1. Cwestiynau i'r Prif Weinidog – Senedd Cymru am 2:01 pm ar 5 Tachwedd 2019.
Diolch i David Rees am hynna, Llywydd. Rydym ni'n parhau i gynyddu ein buddsoddiad i wella gwasanaethau iechyd meddwl i bobl ifanc. Mae'r buddsoddiad hwn yn rhan o raglen waith ehangach Llywodraeth Cymru gydag amrywiaeth o bartneriaid i ymateb i anghenion iechyd meddwl newidiol plant a phobl ifanc.