Part of 1. Cwestiynau i'r Prif Weinidog – Senedd Cymru am 2:17 pm ar 5 Tachwedd 2019.
Diolchaf i Helen Mary Jones am y cwestiwn atodol yna ac am dynnu sylw at hanes ysgol Dewi Sant a'r lle sydd ganddi yn hanes addysg Gymraeg yma yng Nghymru. Byddaf yn sicr yn gwneud ymholiadau, fel y dywed yr Aelod, nid i ymyrryd mewn unrhyw ffordd yn y broses, ond i sicrhau bod gwybodaeth amdani yn hysbys mewn modd priodol i'r rhai sydd â buddiant uniongyrchol ynddi.