Part of 1. Cwestiynau i'r Prif Weinidog – Senedd Cymru am 2:18 pm ar 5 Tachwedd 2019.
Diolchaf i'r Aelod am hynna. Rydym ni'n darparu canllawiau ar gyflogau sector cyhoeddus yng Nghymru drwy wahanol ddulliau, fel llythyron cylch gwaith i gyrff a noddir gan Lywodraeth Cymru a chyrff adolygu cyflogau, ac rydym ni ar fin ymgynghori ar gyfres o egwyddorion cyffredin a fydd yn sail i'n dull o ymdrin â chyflogau'r sector cyhoeddus ledled Cymru.