Part of 1. Cwestiynau i'r Prif Weinidog – Senedd Cymru am 2:13 pm ar 5 Tachwedd 2019.
Diolch, Prif Weinidog. Roeddwn i'n poeni'n fawr o ddarllen y papurau briffio o Araith ddiwethaf y Frenhines a oedd yn awgrymu y bydd y gronfa ffyniant gyffredin, a fydd yn disodli cyllid strwythurol yr UE, yn cael ei thrin yng nghyd-destun datganoli yn Lloegr. Y gobaith yw y bydd etholiad yn arwain at newid dull yn San Steffan, ond, yng ngoleuni pwysigrwydd unrhyw gynllun olynol i Gymru, a ydych chi'n cytuno â mi y dylid gwneud penderfyniadau ynghylch gweithrediad y gronfa yng Nghymru i sicrhau'r budd mwyaf posibl i bobl mewn etholaethau fel Cwm Cynon?