3. Datganiad gan y Prif Weinidog: Adroddiad y Comisiwn ar Gyfiawnder yng Nghymru

Part of the debate – Senedd Cymru am 2:50 pm ar 5 Tachwedd 2019.

Danfonwch hysbysiad imi am ddadleuon fel hyn

Photo of Mark Drakeford Mark Drakeford Labour 2:50, 5 Tachwedd 2019

(Cyfieithwyd)

Y canfyddiad mwyaf trawiadol, mae'n ymddangos i mi, ym mharagraff cyntaf un yr adroddiad, yw bod pobl Cymru yn cael eu siomi gan y system gyfiawnder. Dyna yw casgliad diamwys y comisiwn. Ac rwy'n credu na ddylem danbrisio arwyddocâd y canfyddiad hwnnw. Mae system gyfiawnder sy'n deg, yn effeithiol ac yn hygyrch yn un o gonglfeini rhyddid a democratiaeth. Nid yw hyn, neu ni ddylai hyn fod, yn rhywbeth y gellir ei negodi. Rhaid inni beidio â chaniatáu ein hunain i ymgyfarwyddo â methiannau annatod, heb sôn am eu derbyn nhw, er mwyn bodloni'r safonau hynny.

Llywydd, gadewch imi sôn am rai materion penodol yn yr adroddiad. Nid yw cyfiawnder ar gael, meddai, fel y dylai fod. Mewn sawl ardal yng Nghymru, fel yr awgrymodd y cwestiwn gan Joyce Watson yn gynharach y prynhawn yma, mae pobl yn wynebu teithiau hir ac anodd i'w llys agosaf. Ceir risg ddifrifol, medd yr adroddiad, i gynaliadwyedd ymarfer y gyfraith, yn enwedig o ran gwasanaethau cyfreithiol traddodiadol ar y stryd fawr. Ac mae hyn i gyd yn digwydd ar adeg pan fo gan Gymru, fel y dywed yr adroddiad, un o'r poblogaethau mwyaf o garcharorion fesul pen yng ngorllewin Ewrop, er mai'r dystiolaeth yw bod dedfrydau cymunedol cadarn yn cyflawni gwell canlyniadau mewn cymaint o achosion. Yn y cyfamser, mae nifer yr erlyniadau yn gostwng. Nid oes gennym  gyfleusterau ar gyfer menywod sy'n troseddu ac mae gormod o fylchau yn y ddarpariaeth trwy gyfrwng yr iaith Gymraeg. Llywydd, natur gronnol y casgliadau sy'n eu gwneud nhw'n fwy grymus byth.

Nawr, ni ellir goresgyn yr her hon heb newid i swyddogaethau penodol San Steffan a'r sefydliadau datganoledig, a hefyd mewn ymarfer proffesiynol yn y gwahanol agweddau niferus ar y system gyfiawnder. Mewn un canfyddiad allweddol, mae'r comisiwn yn dweud wrthym:

Ni allwn weld sut mae modd gwneud y newidiadau sydd eu hangen mewn ffordd sy'n darparu ateb hirdymor ymarferol ac yn gwneud gwahaniaeth gwirioneddol i bobl Cymru, heb ddatganoli'n sylweddol swyddogaethau cyfiawnder. Fel y dywed yr adroddiad, nid ynys yw cyfiawnder, ac mae'n rhaid i'r penderfyniadau ynghylch sut y dylai'r system weithredu gyd-fynd â blaenoriaethau cymdeithasol ac economaidd eraill. Ac fel y dywed yr awduron, mae angen sicrhau atebolrwydd clir a democrataidd o ran y ffordd y mae'r system yn gweithredu yng Nghymru. Mae'r canfyddiad canolog hwn yn gyson â safbwynt hirsefydlog Llywodraeth Cymru, a gadarnhawyd yn fwyaf diweddar yn ein papur ni, 'Diwygio'r Undeb ', a gyhoeddwyd fis diwethaf.

Nawr, yn y gorffennol, Llywydd, rydym wedi dadlau hyn yn aml o safbwynt cyfansoddiadol—sef y dylai cenedl sy'n pennu ac yn gweithredu ei chyfreithiau ei hun eu plismona nhw hefyd, yn ystyr ehangaf y gair hwnnw. Ond yr hyn y mae'r adroddiad hwn yn ei ddweud wrthym yw bod heriau ymarferol gwirioneddol yn deillio o rannu cyfrifoldebau rhwng San Steffan a Chymru. Sut, felly, y dylid gweithredu argymhellion yr adroddiad a'i gynigion niferus eraill? Wel, fel y bydd yr Aelodau yn gwybod, o fewn llai nag wythnos ar ôl cyhoeddi'r adroddiad, bu galwad am etholiad cyffredinol. Mae hyn yn golygu y bydd bwlch anorfod yn ein gallu ni i ddechrau trafod â Llywodraeth y DU, ond bydd angen i'r drafodaeth honno ddechrau cyn gynted ag y gwelwn ni Lywodraeth mewn grym unwaith eto.

Yn y cyfamser, nid yw hynny'n ein rhwystro ni, wrth gwrs, rhag canolbwyntio ar yr agweddau hynny o'r adroddiad sy'n eiddo i lawer o weithredwyr cyfiawnder yma yng Nghymru. Rhof un enghraifft yn unig, Llywydd: mae'r adroddiad yn herio ysgolion gwych y gyfraith yng Nghymru i weithio'n fwy effeithiol gyda'i gilydd i gydnabod safle cyfraith Cymru mewn addysg gyfreithiol a sicrhau bod deunyddiau addysgu ar gael yn y ddwy iaith. Ac mae'r adroddiad, wrth gwrs, hefyd yn ystyried hanes cysylltiad Llywodraeth Cymru, yn ystod cyfnod llawn datganoli, â materion cyfiawnder troseddol, ac yn gwneud cynigion ar gyfer y dyfodol.

Yn wir, un peth y bydd llawer o ddarllenwyr yn synnu ato, rwy'n credu, yw'r amcangyfrif bod 38 y cant o'r holl wariant ar gyfiawnder yng Nghymru yn dod eisoes oddi wrth Lywodraeth Cymru ac awdurdodau lleol Cymru, a hynny er gwaethaf ein swyddogaeth gyfyngedig iawn o ran llunio polisi a sicrhau bod yr arian hwnnw'n cael ei wario'n fuddiol ac mewn ffordd sy'n gyson â'n blaenoriaethau ni.

Felly, mae'r comisiwn yn eglur bod angen gwneud llawer mwy. Ac yn yr achosion lle bydd Llywodraeth Cymru yn gyfrifol am gyflawni rhai o'r argymhellion yn yr adroddiad, byddwn nawr yn ystyried eu rhoi nhw ar waith. A'r prynhawn yma, rwyf eisiau rhoi tair enghraifft gryno o'r ffordd y byddwn ni'n mynd ati i wneud y gwaith pwysig hwnnw.

Mae'r comisiwn yn galw ar Lywodraeth Cymru i ddarparu prentisiaethau cyfreithiol sydd wedi cael eu hariannu'n llawn fel llwybr newydd i mewn i'r proffesiwn, llwybr a all helpu pobl a fyddai o bosib yn dewis ymarfer mewn rhannau o'r wlad lle nad oes digon o ymarferwyr i'w cael erbyn hyn. Byddwn yn gweithio nawr gyda'r proffesiynau i ystyried y ffordd orau o gyflawni hyn, gan adeiladu ar y dewisiadau o brentisiaethau uwch sydd gennym eisoes ym meysydd profiant a thrawsgludo yma yng Nghymru.

Yn ail, mae'r comisiwn yn galw hefyd am greu Cyngor y Gyfraith i Gymru i hyrwyddo buddiannau addysg gyfreithiol ac ymwybyddiaeth o gyfraith Cymru. Nid yw hynny'n rhywbeth y gall Llywodraeth Cymru ei wneud ar ei phen ei hun, ond byddwn yn cymryd y cam cyntaf i gefnogi sefydlu hyn a chael y Cyngor i gychwyn ar ei waith pwysig.

Mewn ymateb uniongyrchol i alwad y comisiwn am fuddsoddi mewn datblygiadau technolegol, efallai y bydd yr Aelodau wedi gweld bod cyllid o £4 miliwn wedi cael ei roi tuag at labordy arloesi cyfreithiol newydd ym Mhrifysgol Abertawe.

Yn olaf, Llywydd, mewn ymateb i alwad y comisiwn am gryfhau'r arweinyddiaeth o fewn Llywodraeth Cymru ar faterion cyfiawnder, rwyf wedi penderfynu sefydlu pwyllgor cyfiawnder newydd yn y Cabinet, ac mae hwnnw'n bwyllgor Cabinet y byddaf i'n ei gadeirio. Bydd y pwyllgor hwn yn gyfrifol am fwrw ymlaen â'r argymhellion hyn, y rhai sy'n dod i ran Llywodraeth Cymru, a goruchwylio'r trafodaethau gyda'r Llywodraeth newydd ar lefel y DU.

Llywydd, fel y dywedais yn fy sylwadau agoriadol, bydd yr adroddiad yn gofyn am drafodaeth lawnach a thrafodaeth ehangach nag y gallwn ni ei rhoi'r prynhawn yma. Ond mae'n briodol y bydd y Cynulliad yn awyddus i wybod am y cynnydd sy'n cael ei wneud. Felly gallaf roi sicrwydd y prynhawn yma y bydd y Llywodraeth, fel cam cyntaf, yn cyflwyno dadl ar yr adroddiad yn y flwyddyn newydd. Yn y cyfamser, gadewch imi ddiolch unwaith eto i'r comisiwn am ei holl waith ac am ffrwyth y gwaith hwnnw, sef yr adroddiad pwysig hwn yr wyf i'n falch o'i groesawu yn y fan hon y prynhawn yma.