Part of the debate – Senedd Cymru am 3:11 pm ar 5 Tachwedd 2019.
Gaf i ddiolch i'r Prif Weinidog am y datganiad, ac wrth gwrs diolch i'r Arglwydd Thomas ac aelodau'r comisiwn am eu gwaith rhyfeddol o drwyadl yn cyrraedd at y pwynt lle y cyflwynwyd yr adroddiad arbennig yma i ni fel Cynulliad Cenedlaethol? Dechrau taith ydy hwn rŵan mewn difrif. Dwi'n falch ein bod ni'n cael datganiad heddiw a chyfle i wneud ychydig o sylwadau. Dwi'n falch hefyd bod amser yn mynd i gael ei neilltuo yn gynnar yn y flwyddyn newydd er mwyn cael dadl lawnach er mwyn gallu gwyntyllu'r pwyntiau mewn dipyn mwy o fanylder. Ond wedyn mi fydd angen cydweithio ar draws pleidiau gwleidyddol, ar draws Seneddau hefyd, wrth gwrs, er mwyn mynd â'r argymhellion yma yn eu blaen.
Dwi'n croesawu’r ffaith bod y Ceidwadwyr, sydd ddim yn gweld gwerth ar hyn o bryd mewn gwireddu'r argymhellion yma—eu bod nhw yn gofyn cwestiynau ynglŷn â sut i symud hyn ymlaen. Mae o'n fater o rywfaint o bryder i fi bod y mathau o gwestiynau sydd wedi cael eu gofyn heddiw gan arweinydd y Ceidwadwyr ar lefel mor sylfaenol—mae o bosib yn codi amheuon i fi o ran faint o sylw sydd wedi cael ei gymryd gan y blaid Geidwadol o'r argymhellion manwl yma a'r gwaith trwyadl sydd wedi cael ei wneud gan yr Arglwydd Thomas a'i dîm. Ond dwi'n barod i dderbyn bod yn rhaid gofyn cwestiwn ar bob lefel er mwyn inni allu symud ymlaen.
Mae yna gymaint o resymau pam dylem ni fel deddfwrfa fod yn gafael yn annwyl iawn yn yr argymhellion yma sydd wedi cael eu rhoi o'n blaenau ni. Ar bwynt o egwyddor yn unig, fel llunwyr deddfau, mae'n bwysig i lawer ohonom ni fan hyn ein bod ni'n gallu troi yn Senedd sy'n gorff deddfwriaethol sydd yn ymwneud â'r system gyfiawnder fel mater o egwyddor. Mae yna elfennau ymarferol o'r anhawster gennym ni ar hyn o bryd mewn gallu cael cydlyniad rhwng cyfiawnder a'r mathau o bolisïau sydd yn effeithio ar y system gyflawnder.
Wrth gwrs, yn Lloegr a'r Alban, maen nhw'n gallu llunio polisi o fewn cyd-destun gwahanol. Ond y prif reswm—a'r prif reswm sy'n cael ei amlinellu'n glir iawn yn yr adroddiad gan yr Arglwydd Thomas—dros fod eisiau bwrw ymlaen efo'r argymhellion yma ydy bod y diffygion sydd wedi cael eu hamlygu yn effeithio ar fywydau pobl go iawn yng Nghymru a'r ffordd mae'r system gyfiawnder yn ymdrin â nhw, p'un ai sut ydym ni'n trin merched o fewn y system gyfiawnder, sut ydym ni'n trin pobl o leiafrifoedd ethnig o fewn y system gyfiawnder, sut rydym ni yn gweithredu deddfwriaeth o fewn y llysoedd teulu mewn ffordd sydd yn sensitif i anghenion ein pobl ifanc ni a'n plant ni yng Nghymru, fel y cyfeiriodd y Prif Weinidog ato fo.
Mi fydd llawer ohonoch chi, dwi'n siŵr, fel finnau, wedi darllen—neu wedi dechrau darllen yn fy achos i—The Secret Barrister, sydd yn edrych ar wendidau y system gyfiawnder ym Mhrydain, neu yng Nghymru a Lloegr i gyd ar hyn o bryd. Wel, mae gennym ni gyfle yng Nghymru erbyn hyn i fynd i'r afael â'r gwendidau yna, sydd yn hysbys i gymaint o bobl sy'n gweithio o fewn y system gyfiawnder, ac i weithredu mewn ffordd am y tro cyntaf sy'n gadael i ni lunio system sydd yn sensitif i anghenion pobl Cymru yn benodol. Felly, mi gydweithiwn ni efo'n gilydd ar y cwestiynau yma.
Cwpwl o gwestiynau ichi: dwi'n croesawu'r ffaith y bydd yna is-bwyllgor o'r Cabinet, wedi ei gadeirio gan y Prif Weinidog; beth am rôl y gwasanaeth sifil yn hyn oll? Mae yna gwpwl o bethau yn codi amheuon ynof i ynglŷn ag agwedd y gwasanaeth sifil. Mi ddywedodd y gwasanaeth sifil Cymreig y byddai angen 200 yn fwy o swyddogion polisi, ar gost o ryw £14 miliwn, er mwyn gweithredu'r math yma o newidiadau. Awgrym yr Arglwydd Thomas oedd mai 10 o bobl fyddai eu hangen ac y byddem ni'n gallu creu model newydd o weithio, yn tynnu ar arbenigedd ein prifysgolion ni, ac ati, yn adlewyrchu mantais gwlad fach fel Cymru o ran effeithlonrwydd. Nid copïo beth maen nhw'n ei wneud ar lefel Cymru a Lloegr, ond llunio rhywbeth neilltuol Gymreig. Buaswn i'n croesawu sylwadau gan y Prif Weinidog ynglŷn â'r hyder sydd ganddo fo y gall y gwasanaeth sifil ddod i fod yn bartner pwysig wrth ddelifro hyn.
O ran, wedyn, yn olaf, y rôl y bydd yna, wrth gwrs, i wleidyddion ar lefel Brydeinig i ddelifro'r newidiadau yma, mi glywsom ni'r Prif Weinidog yn dweud yn gynharach ei fod o'n ymgyrchu ers 1985 yn galw am y mathau yma o newidiadau. Wel, mae'n rhaid imi godi cwestiynau ynglŷn â'r dylanwad rydych chi wedi ei llwyddo i'w gael ar eich cyd-aelodau Llafur chi yn San Steffan. Rydym ni'n gwybod, onid ydym, fod Aelodau Seneddol Llafur ymhell iawn, iawn, iawn ar ôl 1985, wedi bod yn floc ar ddatganoli elfennau o gyfiawnder. Felly, yn y cyd-destun hwnnw, pa mor hyderus ydych chi rŵan y gallwch chi berswadio eich plaid chi ar lefel Brydeinig, (1) i roi'r argymhellion yma mewn maniffesto ar gyfer etholiad rŵan? Mae'r argymhellion sydd o'n blaenau ni mor eglur, mor ddiamwys, does yna ddim rheswm pam na allai unrhyw blaid, mwy neu lai, symud ymlaen at addo gweithredu'r rhain. Felly, dangoswch i ni fod gennych chi'r dylanwad o fewn eich plaid chi, achos dwi'n addo ichi mi fydd gweithredu ar argymhellion yr Arglwydd Thomas yn gryf iawn yn ein maniffesto ni wrth fynd i mewn i'r etholiad yma rŵan.