4. Datganiad gan y Gweinidog Tai a Llywodraeth Leol: Cefnogi Awdurdodau Tai Lleol i sicrhau opsiynau tai tymor hir yn y Sector Rhentu Preifat

Part of the debate – Senedd Cymru am 3:57 pm ar 5 Tachwedd 2019.

Danfonwch hysbysiad imi am ddadleuon fel hyn

Photo of Julie James Julie James Labour 3:57, 5 Tachwedd 2019

(Cyfieithwyd)

Diolch yn fawr, Dirprwy Lywydd. Mae'r datganiad hwn yn rhoi manylion am gynllun arbrofol newydd sydd â'r nod o gynyddu'r stoc tai sydd ar gael i awdurdodau lleol o ran cyflawni eu dyletswyddau tai, ac, yn fwy arbennig, eu dyletswyddau ynghlwm wrth Ran 2 Deddf Tai (Cymru) 2014. Mae'r broses o gyflawni'r dyletswyddau hyn gan awdurdodau lleol wedi gwneud llawer i atal unigolion a theuluoedd rhag bod yn ddigartref. Fodd bynnag, mae llawer gormod o bobl na lwyddir i'w cadw rhag digartrefedd. Mae'r arbrawf hwn yn cynnig defnyddio'r sector rhentu preifat i gynyddu'r stoc sydd ar gael i awdurdodau lleol wrth gyflawni eu dyletswyddau Rhan 2 drwy gynnig tai o ansawdd da am renti fforddiadwy i denantiaid, gyda chymorth priodol. Rydym yn rhoi'r cynllun ar brawf mewn nifer fach o awdurdodau lleol er mwyn profi'r cysyniad a darparu'r sylfaen dystiolaeth angenrheidiol er mwyn datblygu model i'w gyflwyno ledled Cymru.  

Mae 'Ffyniant i Bawb' yn pwysleisio swyddogaeth cartrefi o ansawdd da ym mhob agwedd ar fywyd unigolyn a phwysigrwydd tai diogel, fforddiadwy fel sail ar gyfer byw bywyd gwell ac iachach. Gall ansicrwydd deiliadaeth neu dai o ansawdd gwael, wrth gwrs, achosi neu waethygu pryder ac afiechyd, a chyfyngu ar allu rhentwyr i ymwneud â'u cymuned neu ar allu eu plant i ymgynefino mewn addysg.

Mae atal a datrys digartrefedd o bob math yn flaenoriaeth allweddol i'r Llywodraeth hon. Mae'r sefyllfa o ran nifer yr aelwydydd sydd mewn perygl, neu deuluoedd eisoes yn ddigartref, yng Nghymru wedi gwaethygu oherwydd cynni a thoriadau i fudd-daliadau. Mae'r Llywodraeth hon wedi ymrwymo i adeiladu cartrefi cymdeithasol ar raddfa fawr ac yn gyflym, ond rydym ni hefyd yn derbyn nad yw cartrefi'n cael eu hadeiladu mewn diwrnod. Rydym ni'n edrych ar ddulliau ychwanegol, arloesol o gynyddu'r stoc tai, a gallai model fel hyn wneud gwahaniaeth sylweddol a phwysig i Gymru.

Yn gynyddol, mae awdurdodau lleol yn disgwyl i'r sector rhentu preifat ddod o hyd i gartrefi ar gyfer y teuluoedd a'r unigolion maen nhw'n eu cefnogi. Fodd bynnag, yn gynyddol, mae ystod lawer ehangach o bobl nag oedd yn y gorffennol yn dewis rhentu yn y sector preifat yn gynyddol. Mae'r dyddiau pan oedd rhentu yn rhywbeth i fyfyrwyr a gweithwyr proffesiynol ifanc cyn iddyn nhw 'fwrw gwreiddiau' wedi hen ddiflannu. Heddiw, mewn rhai ardaloedd, mae'r farchnad ar gyfer eiddo rhent yn gystadleuol iawn. Gall landlordiaid ddewis i bwy y maen nhw'n rhentu ac, o ganlyniad, maen nhw wedi gwthio rhai o'n haelwydydd mwyaf agored i niwed allan o'r farchnad honno.

Mae llawer o awdurdodau lleol yn gweithio'n galed i ddarganfod landlordiaid sy'n fodlon derbyn teuluoedd ar fudd-daliadau ac i dderbyn y rhenti isel a gynigir gan fudd-daliadau. Mae'r gwaith caled hwn yn glodwiw, ond yn aml nid yw ond yn arwain at ateb tymor byr. Gyda dim ond chwe mis o sicrwydd a phrin ddim cymorth, gwyddom fod y tenantiaethau hyn yn aml yn chwalu a bod y teulu yn mynd yn ôl i'r cylch dieflig.

I'r rheini sy'n cael trafferth ariannol, mae'r gwahaniaeth rhwng cyfraddau'r lwfans tai lleol a rhenti'r farchnad yn cyfyngu ar eu gallu i rentu yn y sector preifat. Caiff y broblem hon ei dwysáu gan rywfaint o'r dystiolaeth anecdotaidd sy'n awgrymu bod landlordiaid preifat yn llai tebygol o rentu i'r rhai sy'n cael budd-daliadau. Mae gwerthuso a buddsoddi mewn cynllun arbrofol sy'n canolbwyntio ar ei gwneud hi'n haws i grwpiau o'r fath gael cartref sicr o ansawdd yn fenter deilwng ac yn werth ei gwneud.

Gan weithio ar y cyd â rhanddeiliaid presennol, rydym ni wedi datblygu model a fydd, yn ein barn ni, yn rhoi adnodd ychwanegol sylweddol i awdurdodau lleol i helpu atal a lliniaru digartrefedd. Mae dod o hyd i gynnig sydd hefyd yn gweithio i landlordiaid wedi bod yn rhan bwysig o ddatblygu'r model hwn. Mae hwn yn gynllun lle bydd pawb yn elwa, gan gynnig bargen dda i'r rhai sy'n chwilio am gartref sefydlog o ansawdd da, a bargen dda i landlordiaid sydd eisiau sefydlogrwydd incwm rhent hirdymor heb y cyfrifoldeb beunyddiol o fod yn landlord.

Yn gyfnewid am ymrwymiad gan landlordiaid sector preifat i brydlesu eu heiddo i awdurdod lleol am gyfnod o hyd at bum mlynedd, bydd y perchnogion eiddo hynny yn cael gwarant o rent, bob mis, am gyfnod y brydles, a dealltwriaeth, gan dderbyn y bydd rhywfaint o draul resymol ar ddiwedd y pum mlynedd, y cânt eu heiddo yn ôl yn yr un cyflwr ag yr oedd pan gafodd ei brydlesu. Hefyd, bydd perchnogion eiddo yn gymwys i gael grant a benthyciad di-log i ddod â'u heiddo i safon ofynnol, os nad yw eu heiddo yn bodloni'r gofynion sylfaenol ar gyfer y cynllun arbrofol. Bydd landlordiaid sector preifat sydd â diddordeb yn cael rhent ar y cyfraddau lwfans tai lleol perthnasol—mae hynny'n eithaf anodd ei ddweud—gyda swm wedi ei dynnu sy'n cyfateb i ffi rheoli gystadleuol.

Bydd safon ofynnol eiddo a dderbynnir ar y cynllun arbrofol yn gysylltiedig â safonau Safon Ansawdd Tai Cymru ac, fel y dywedais, bydd elfen o grant a benthyciad i sicrhau bod unrhyw eiddo sy'n rhan o'r arbrawf hwn o safon uchel. Mae'r teuluoedd yr ydym yn ceisio eu cartrefu yma yn haeddu cartrefi a dewis o ansawdd uchel gymaint ag unrhyw deulu arall, ond bydd y cymhellion y byddwn yn eu darparu hefyd yn helpu i wella safonau'r sector rhentu preifat yn fwy cyffredinol yng Nghymru.

Bydd tenantiaid sy'n byw yn yr eiddo, ar yr amod eu bod yn anrhydeddu telerau eu contract, yn cael sicrwydd o hyd at bum mlynedd o lety yn y sector rhentu preifat ar gyfraddau'r lwfans tai lleol. Yn bwysig, i'r tenant a'r landlord, bydd y teuluoedd sy'n ymgartrefu yn yr eiddo yn cael y cymorth sydd ei angen arnyn nhw i'w helpu i ffynnu yn eu cartrefi newydd.

Fel y dywedais, mae hwn yn gynllun lle mae pawb yn elwa; mae'n gweithio i landlordiaid ac awdurdodau lleol gymaint ag y mae'n gweithio i denantiaid. Bydd tenantiaid yn gallu rhentu tai sector preifat o ansawdd da a fforddiadwy, gyda'r math o gymorth na allent fel arfer ond ei gael mewn tai cymdeithasol. Gall landlordiaid fod yn ffyddiog y byddant yn cael rhent rheolaidd bob mis a bod rhywun yn gofalu am eu heiddo ac nad oes angen iddyn nhw boeni am lawer o'r cyfrifoldebau beunyddiol sy'n ymwneud â bod yn landlord gan y cânt eu cyflawni gan yr awdurdod lleol fel yr asiant rheoli. Bydd awdurdodau lleol yn elwa ar gael adnodd ychwanegol i'w helpu i gyflawni eu hamcanion ar gyfer atal a lleihau digartrefedd.

Rydym ni i gyd yn ymwybodol bod tenantiaid hirdymor sy'n cael cefnogaeth, sy'n hapus a sefydlog yn helpu i adeiladu cymunedau mwy integredig. Bydd cryn gefnogaeth ar gael i denantiaid a gartrefir drwy'r arbrawf hwn, os bydd ei angen arnynt, a rhan hanfodol o'r arbrawf fydd hyrwyddo annibyniaeth a'r sgiliau bywyd sydd eu hangen i leihau'r baich ar y cyflenwad o dai cymdeithasol.

Mae awdurdodau lleol mewn sefyllfa ddelfrydol i arwain y fenter hon. Mae gan eu timau yn y sector rhentu preifat eisoes gysylltiad â nifer o landlordiaid sector preifat a allai fod â diddordeb mewn prydlesu eu heiddo drwy fodel o'r fath ac maen nhw eisoes yn adnabod ac yn gweithio gyda'r teuluoedd sydd angen y cartrefi hyn.

Byddwn nawr yn gwahodd awdurdodau lleol i gyflwyno datganiadau o ddiddordeb o ran cynnal yr arbrawf. Byddwn yn penodi tri awdurdod lleol i weithredu'r cynllun arbrofol, a dewisir y rhain ar sail cyfres o fesurau ansoddol a meintiol. Byddaf yn rhoi rhagor o fanylion am yr ardaloedd llwyddiannus maes o law.

Y nod yw i'r arbrawf hwn ddarparu model y gellid ei gyflwyno mewn mannau eraill fydd yn arwain at gynllun cenedlaethol a fydd yn darparu llawer mwy o dai fforddiadwy, o ansawdd gwell, gyda mwy o sicrwydd o ran llety ledled Cymru. Diolch.