1. Cwestiynau i Weinidog yr Economi a Thrafnidiaeth

– Senedd Cymru am 1:30 pm ar 6 Tachwedd 2019.

Danfonwch hysbysiad imi am ddadleuon fel hyn

Photo of Elin Jones Elin Jones Plaid Cymru 1:30, 6 Tachwedd 2019

Yr eitem gyntaf ar ein hagenda ni y prynhawn yma yw'r cwestiynau i Weinidog yr Economi a Thrafnidiaeth, ac rwyf wedi derbyn hysbysiad o dan Reol Sefydlog 12.58 y bydd Dirprwy Weinidog yr Economi a Thrafnidiaeth, Lee Waters, yn ateb y cwestiynau ar ran y Gweinidog y prynhawn yma. Felly, mae'r cwestiwn cyntaf gan David Rees.