Part of 1. Cwestiynau i Weinidog yr Economi a Thrafnidiaeth – Senedd Cymru am 1:46 pm ar 6 Tachwedd 2019.
Mae'r Prif Weinidog a Gweinidog yr economi wedi dweud yn glir iawn wrth gadeirydd y comisiwn ein bod yn disgwyl cael argymhellion cynnar erbyn y Nadolig, a dyna yw ein disgwyliad o hyd.
Cymerwyd peth amser i gynnull panel o bobl uchel eu parch. Maent wedi cyhoeddi eu cylch gorchwyl a'u ffordd o weithio. Mae'n galonogol iawn na fyddant wedi'u cyfyngu, fel a ddigwyddodd gydag astudiaethau blaenorol, i edrych ar opsiynau ffyrdd yn unig, ond byddant yn edrych ar yr ystod lawn o ymyriadau, gan gynnwys newid ymddygiad, i fynd i'r afael â thagfeydd a'r ddibyniaeth ar geir yn y rhan honno o Gymru, yn hytrach na'r dulliau traddodiadol sydd wedi dominyddu'r ddadl hon ers blynyddoedd lawer.
Felly, rwy'n disgwyl ystod gyffrous o gynigion, gyda rhai syniadau cychwynnol erbyn diwedd eleni.