Cwestiynau Heb Rybudd gan Lefarwyr y Pleidiau

Part of 1. Cwestiynau i Weinidog yr Economi a Thrafnidiaeth – Senedd Cymru am 1:47 pm ar 6 Tachwedd 2019.

Danfonwch hysbysiad imi am ddadleuon fel hyn

Photo of Russell George Russell George Conservative 1:47, 6 Tachwedd 2019

(Cyfieithwyd)

Diolch, Weinidog. Fe fyddwch hefyd yn ymwybodol fod traffig ar yr M4 yn cynyddu'n ddyddiol. Rydym wedi cael arolwg barn newydd, sy'n dangos bod bron i ddwywaith cymaint o bobl yng Nghymru bellach yn credu y dylid adeiladu ffordd liniaru'r M4, yn groes i farn y Prif Weinidog a Llywodraeth Cymru. Ond a allwch gadarnhau p'un a yw'r opsiwn o adeiladu ffordd liniaru'r M4 o fewn cwmpas cylch gorchwyl Comisiwn Trafnidiaeth De-ddwyrain Cymru ai peidio? Ac os felly, ac os ydynt yn argymell eich bod yn ei hadeiladu, a fyddwch yn gwneud hynny neu a fyddwch yn gwrthod canfyddiadau'r comisiwn annibynnol hwn?