Part of 1. Cwestiynau i Weinidog yr Economi a Thrafnidiaeth – Senedd Cymru am 1:53 pm ar 6 Tachwedd 2019.
Diolch am eich cwestiwn. Mae Dawn Bowden yn llygad ei lle fod hwn yn faes heb ei ddatganoli, ond oherwydd methiant y farchnad ac anweithgarwch Llywodraeth y DU, mae Llywodraeth Cymru wedi gorfod camu i mewn yma i ddargyfeirio adnoddau sylweddol oddi wrth wasanaethau datganoledig i fynd i’r afael â’r methiant amlwg hwn gan Lywodraeth y DU i weithredu. Rydym wedi cyflawni canlyniadau sylweddol: band eang cyflym iawn mewn 95 y cant o safleoedd yng Nghymru. Nawr, rydym yn credu o ddifrif fod mynediad cyflym at y rhyngrwyd bellach yn wasanaeth modern hanfodol. Mae gan Lywodraeth y DU rwymedigaeth gwasanaeth cyffredinol ar gyfer gwasanaethau post, felly, os ydych yn postio llythyr at drac fferm, anghysbell, mae'n dal i fod—er efallai nad yw'n broffidiol, mae gan y Post Brenhinol rwymedigaeth i ddosbarthu'r llythyr hwnnw. Credwn y dylid cael rhwymedigaeth gwasanaeth cyffredinol debyg i ddarparwyr telathrebu ddarparu band eang modern, cyflym.
Mae Llywodraeth y DU yn cynnig yr hyn y mae'n ei alw'n rhwymedigaeth gwasanaeth cyffredinol, ac mae hynny mewn enw yn unig, mae arnaf ofn. Ceir hawl i ofyn am hyd at 10 Mbps, lle nad yw'r gost adeiladu yn fwy na £3,400, o fis Mawrth 2020. Felly, bydd hyn yn dal i adael rhannau helaeth o gefn gwlad Cymru heb wasanaeth band eang sy'n gweithio. Felly yn amlwg, nid yw hynny'n werth y papur y mae wedi'i ysgrifennu arno. Rydym yn edrych i weld beth y gallwn ei wneud, ac mae gennym ddatganiad a dadl cyn bo hir ar beth arall y gall Llywodraeth Cymru ei wneud i gyrraedd yr ardaloedd nad ydym wedi eu cyrraedd eto.
Ceir rhywfaint o gynnydd o ran technolegau eraill, yn enwedig 4G a 5G, sydd hefyd yn gallu darparu gwasanaethau rhyngrwyd. Cyfarfûm â'r cwmnïau telathrebu yn ddiweddar, ac rwy'n falch iawn o ddweud eu bod wedi llunio eu cynllun eu hunain i sicrhau newid sylweddol o ran darpariaeth 4G yng Nghymru erbyn 2025, er mwyn cynyddu'r cwmpas o 58 y cant i 86 y cant, heb ymyrraeth gan Ofcom. Rhaid i mi ddweud bod hynny'n galonogol iawn, ac rydym yn gweithio gyda hwy i weld beth y gallwn ei wneud i helpu i gynyddu hynny y tu hwnt i 86 y cant os oes modd. Rydym yn bryderus na fydd hyn yn cael ei gyflawni tan 2025, sy'n dal i adael bwlch hir iawn.
Rydym hefyd yn gweithio fel rhan o'r broses o gynnig am dreialon 5G mewn ardaloedd gwledig. Mae Simon Gibson yn arwain grŵp gorchwyl a gorffen sy’n edrych ar 5G ar gyfer Llywodraeth Cymru, ac fel rhan o hynny, mae wedi cyflwyno cais i dreialon 5G yr Adran dros Ddiwylliant, y Cyfryngau a Chwaraeon ar gyfer ardaloedd prawf, ac maent ar fin ei ystyried, cais a fyddai’n arwain at ffocws arbennig ar Flaenau Gwent, Blaenau'r Cymoedd a sir Fynwy, sef canlyniad gwaith gwerth £250,000 y mae'r Llywodraeth wedi'i gefnogi. Felly, credaf ein bod yn gwneud rhai pethau, er nad yw hyn yn fater wedi'i ddatganoli. Ond mewn gwirionedd, mae angen i Lywodraeth y DU ysgwyddo'i chyfrifoldeb am hyn ar unwaith.