Part of 1. Cwestiynau i Weinidog yr Economi a Thrafnidiaeth – Senedd Cymru am 1:56 pm ar 6 Tachwedd 2019.
Weinidog, y mis diwethaf, cynhyrchodd y Ffederasiwn Busnesau Bach adroddiad ar sut y mae cysylltedd band eang a ffonau symudol yn rhwystro busnesau bach yn ne-ddwyrain Cymru. Wrth drafod Cymru, maent yn tynnu sylw at y ffaith bod ffonau symudol yn dod yn elfen fwyfwy allweddol o gysylltedd i berchnogion busnesau bach. Mewn ardaloedd lle nad oes band eang cyflym iawn ar gael, mae niferoedd anghymesur o uchel o gwmnïau bach yn dweud eu bod yn defnyddio eu ffonau symudol ar gyfer bancio dros y rhyngrwyd ac i ryngweithio â chwsmeriaid a chyflenwyr ar yr un pryd. Weinidog, pa gamau y byddwch yn eu cymryd i ymestyn cyrhaeddiad band eang i ardaloedd sy'n anodd eu cyrraedd ar hyn o bryd, megis rhannau o Gymoedd de-ddwyrain Cymru? Diolch.