Part of 1. Cwestiynau i Weinidog yr Economi a Thrafnidiaeth – Senedd Cymru am 1:57 pm ar 6 Tachwedd 2019.
Wel, gyda phob parch i Mohammad Asghar, rwyf newydd ateb y cwestiwn hwnnw. Buaswn yn dweud wrtho mai Llywodraeth y DU—waeth beth fo'i phlaid, Llywodraeth y DU sydd â'r rôl arweiniol i'w chwarae yma. Ac ers i'w blaid ddod i rym, rydym ar ei hôl hi'n druenus. Rydym wedi camu i'r adwy lle na ddylem orfod gwneud hynny i ddarparu'r gwasanaeth hwn. Mae'n bryd bellach i'r Llywodraeth weithredu.