Part of 1. Cwestiynau i Weinidog yr Economi a Thrafnidiaeth – Senedd Cymru am 1:58 pm ar 6 Tachwedd 2019.
Yn ystod y flwyddyn ddiwethaf, mae Banc Datblygu Cymru wedi cefnogi 109 o fusnesau yng ngogledd Cymru, gyda chyfanswm o £40 miliwn o fuddsoddiad yn y rhanbarth ers 2016. Mae Busnes Cymru wedi helpu mwy na 6,000 o fusnesau ac entrepreneuriaid i gynhyrchu £30 miliwn o fuddsoddiad, £16 miliwn mewn allforion a bron i 3,000 o swyddi newydd.