1. Cwestiynau i Weinidog yr Economi a Thrafnidiaeth – Senedd Cymru ar 6 Tachwedd 2019.
4. Sut y mae Llywodraeth Cymru yn cefnogi datblygu economaidd yng Ngogledd Cymru? OAQ54626
Yn ystod y flwyddyn ddiwethaf, mae Banc Datblygu Cymru wedi cefnogi 109 o fusnesau yng ngogledd Cymru, gyda chyfanswm o £40 miliwn o fuddsoddiad yn y rhanbarth ers 2016. Mae Busnes Cymru wedi helpu mwy na 6,000 o fusnesau ac entrepreneuriaid i gynhyrchu £30 miliwn o fuddsoddiad, £16 miliwn mewn allforion a bron i 3,000 o swyddi newydd.
Ar 28 Hydref, cyhoeddodd Gweinidog yr Economi a Thrafnidiaeth ddatganiad ysgrifenedig ar fetro gogledd Cymru. Roedd llawer o gynnwys y datganiad hwnnw wedi'i gymryd o ddogfennau gweledigaeth twf a chais twf Bwrdd Uchelgais Economaidd Gogledd Cymru—o barthau teithio integredig i'r llwybr rhwng Wrecsam a Bidston i'r seilwaith ffyrdd a rheilffyrdd. Roedd disgwyl i benawdau'r telerau ar y fargen twf gael eu cytuno erbyn diwedd mis Chwefror, yna cawsant eu gohirio tan fis Gorffennaf, yna tan fis Hydref neu fis Tachwedd, ac ar ôl iddynt gael eu cytuno, deallwn y bydd yn cymryd pedwar i chwe mis i gwblhau'r achos busnes cyn rhoi unrhyw rawiau yn y ddaear.
Fodd bynnag, ddoe, nododd ein papur lleol fod cynrychiolwyr Bwrdd Uchelgais Economaidd Gogledd Cymru wedi ymuno â Llywodraeth Cymru a Llywodraeth y DU i arwyddo penawdau'r telerau a chytuno ar y saith rhaglen a fydd yn ffurfio’r fargen o 2020 ymlaen, a dywedodd cadeirydd y bwrdd:
'Ein camau nesaf fydd dechrau gwaith ar y prosiectau â blaenoriaeth a cheisio cyllid gan y sector preifat mewn meysydd allweddol', y disgwylir iddo ddod i gyfanswm o £1 biliwn o fuddsoddiad. Pam nad yw Llywodraeth Cymru wedi rhannu’r cynnydd gwych hwn gyda ni wedi'r holl fisoedd hyn o oedi, o gofio bod hyn wedi'i godi yma dro ar ôl tro? A sut y bydd Llywodraeth Cymru yn sicrhau y byddwn yn cael ein briffio ar y rhaglenni blaenoriaeth hynny wrth iddynt fynd rhagddynt, pryd fyddant yn debygol o ddechrau, a sut y cânt eu cyflwyno?
Nid wyf yn hollol siŵr sut i ymateb i'r cwestiwn hwnnw, a dweud y gwir. Roedd yr oedi wrth arwyddo gyda Bwrdd Uchelgais Economaidd Gogledd Cymru yn ganlyniad i oedi gan Lywodraeth y DU. Ymddengys ei fod wedyn yn ein beirniadu am fabwysiadu polisïau roedd bwrdd uchelgais gogledd Cymru wedi'u hyrwyddo yn ei gynllun. Mae fel arfer yn ein beirniadu am beidio â chydweithredu'n ddigonol â Bwrdd Uchelgais Economaidd Gogledd Cymru, felly nid wyf yn hollol siŵr beth oedd y pwynt y ceisiai ei wneud.
Bellach, mae gennym ffordd ymlaen gyda'r bwrdd uchelgais, a mater iddynt hwy yw gweithio fel rhanbarth. Holl bwynt y dinas-ranbarthau hyn yw bod angen i'r arweinyddiaeth fod yn lleol. Mater i'r awdurdodau lleol, gan weithio gyda'i gilydd, yw llunio cynllun i fodloni Llywodraeth Cymru a Llywodraeth y DU fod ganddynt gynlluniau cadarn ar waith y gellir eu cyflawni ar amser ac o fewn y gyllideb, ac yna byddwn yn darparu'r arian. Nid dod i gwyno i Lywodraeth Cymru drwy'r amser eu bod yn disgwyl inni gymryd yr awenau. Dyma holl bwynt datblygu economaidd rhanbarthol: caiff ei arwain gan y rhanbarth, ac rydym yn gweithio'n agos gyda hwy i wneud hynny. Rydym yn cydgynhyrchu hynny gyda hwy drwy ein dull economaidd rhanbarthol newydd, ac mae prif swyddog rhanbarthol gogledd Cymru yn gweithio'n agos â'r bwrdd i wneud yr hyn a allwn. Ond partneriaeth yw hon, ac mae'n rhaid i'r ddau bartner weithredu.