Part of 1. Cwestiynau i Weinidog yr Economi a Thrafnidiaeth – Senedd Cymru am 2:16 pm ar 6 Tachwedd 2019.
Un o'r uchafbwyntiau yw datblygiad SA1 yn fy etholaeth, sef datblygiad cymysg sy'n cynnwys tai a fflatiau, gwestai, bwytai a chyflogwyr mawr sy'n cynnwys Admiral, Prifysgol Cymru y Drindod Dewi Sant a chwmnïau â photensial twf sylweddol, fel Canolfan Cymru ar gyfer Gweithgynhyrchu Swp Uwch. Cyflawnwyd llawer o hynny o ganlyniad i fuddsoddiad gan y sector preifat a Llywodraeth Cymru. Faint sydd wedi'i fuddsoddi yn yr ardal, a faint yn fwy y gellir ei ddisgwyl?