Part of 1. Cwestiynau i Weinidog yr Economi a Thrafnidiaeth – Senedd Cymru am 2:18 pm ar 6 Tachwedd 2019.
Fe sonioch chi am fargen ddinesig bae Abertawe, Ddirprwy Weinidog, ac wrth gwrs, rydym yn dal i aros i £18 miliwn cyntaf y fargen ddod drwodd. Deallaf mai'r rheswm dros yr oedi yw nad yw Llywodraeth Cymru wedi dweud wrth arweinydd y fargen ddinesig, Rob Stewart, un o'ch cymheiriaid Llafur, beth yw telerau ac amodau'r £18 miliwn y maent wedi bod yn aros amdano. Mae wedi cwyno ei bod wedi cymryd 16 wythnos, sy'n rhy hir o lawer. A allwch ddweud wrthym beth yw'r rheswm am yr oedi, os gwelwch yn dda?