Part of the debate – Senedd Cymru am 5:28 pm ar 6 Tachwedd 2019.
Diolch yn fawr, Ddirprwy Lywydd. Nawr, yr wythnos diwethaf, wrth gwrs, penderfynodd Bwrdd Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr y byddent yn gorfodi nyrsys, bydwragedd a gweithwyr cymorth gofal iechyd i ymestyn eu sifftiau heb unrhyw dâl ychwanegol. Y cynllun oedd gorfodi egwyl di-dâl o 30 munud ychwanegol fesul shifft, er nad oes gan lawer o nyrsys amser i gael eu hegwyl fel y mae wrth gwrs. A thrwy gyfaddefiad y bwrdd iechyd ei hun, byddai wedi golygu bod nyrsys yn gweithio sifft ddi-dâl ychwanegol y mis i gyflawni eu horiau. Nawr, roedd y penderfyniad i fod i arbed tua £25,000 y mis. Gallech ddweud nad yw’n swm ansylweddol, ond wrth gwrs, o’i roi yn ei gyd-destun, mae'r bwrdd eisoes yn gwario dros £1 filiwn y mis ar nyrsys asiantaeth, ac felly mae'n swm cymharol fach o arbediad ariannol, ond roedd y bwrdd iechyd yn barod i ddinistrio ewyllys da staff nyrsio sy'n cadw ein GIG yn weithredol.
Nawr, rwyf fi, fel llawer ohonoch rwy'n siŵr, wedi cael cannoedd o negeseuon yn ystod yr wythnosau diwethaf gan y nyrsys, y cleifion a'u teuluoedd, a fyddai wedi cael eu heffeithio gan hyn o bosibl. Roedd y bobl a oedd yn gweithio ar y rheng flaen yn dweud—ac fe ddyfynnaf un nyrs—
Hon fydd yr hoelen olaf yn yr arch i nyrsys sy'n gweithio i Betsi Cadwaladr. Rydym eisoes yn gweithio ar wardiau heb staff digonol, felly rydym yn lwcus os cawn egwyl, a bydd hyn yn golygu bod llawer o nyrsys yn troi cefn ar y proffesiwn nyrsio, a byddaf i yn un ohonynt.
Dywedodd nyrs arall wrthyf,
Byddai'r gostyngiad hwn yn y cyflog yn golygu fy mod yn gweithio shifft 6 awr ychwanegol y mis, gan achosi problemau gofal plant sylweddol a chostau uwch am hynny. Rwy'n teimlo bod y bobl sy'n gyfrifol eisiau mwy a mwy allan o weithlu sydd eisoes yn ei chael hi'n anodd.
Ac wrth gwrs, peidiwch ag anghofio bod dros 1,000 o nyrsys ym mwrdd iechyd Betsi Cadwaladr yn 55 oed neu'n hŷn, ac os collwch y grŵp hwnnw o weithwyr proffesiynol profiadol ac ymroddedig oherwydd yr ymgais gyfeiliornus hon—mae'n rhaid i mi ddweud—i arbed ychydig bunnoedd, byddwch yn amlwg yn medi'r hyn rydych yn ei hau. Mae un o bob 10 swydd nyrsio yn Betsi Cadwaladr yn wag ar hyn o bryd, sy'n golygu bod nyrsys a staff sydd dan ormod o bwysau eisoes yn gorfod gweithio oriau ychwanegol beth bynnag.
Nawr, mae'r cynnig hwn wedi dryllio morâl mewn gweithlu sydd eisoes ar y dibyn, ac mae llawer o nyrsys, fel y dyfynnais, wedi dweud y byddant yn rhoi'r gorau iddi, gyda rhai'n dweud y byddent yn ymddeol yn gynnar, eraill yn awgrymu y gallai fod rhaid iddynt fynd ar absenoldeb salwch hyd yn oed pe bai’r cynllun yn cael ei weithredu. Mae Plaid Cymru a'r undebau wedi brwydro’n ffyrnig yn erbyn hyn. Fel plaid, casglasom dros 3,500 o enwau ar ddeiseb. Casglodd Unite enwau ar y ddeiseb hefyd; gyda'n gilydd, rwy'n credu ei fod dros 8,000 o enwau rhyngom. Ac roedd yr undeb, wrth gwrs, yn sôn am roi pleidlais i’r aelodau ar weithredu diwydiannol posibl, a streicio hyd yn oed. Nawr, beth y mae hynny'n ei ddweud pan fydd gweithwyr iechyd proffesiynol ymroddedig yn dweud 'digon yw digon' ac yn ystyried yr hyn sydd y tu hwnt i amgyffred a streicio er mwyn diogelu eu hamodau gwaith? A dyna, wrth gwrs, oedd y cyd-destun y gwnaethom ni ym Mhlaid Cymru gyflwyno'r cynnig hwn gerbron y Cynulliad Cenedlaethol heddiw. Mae’n sefyllfa y mae nyrsys, bydwragedd, gweithwyr cymorth gofal iechyd, cleifion a chymaint o rai eraill ohonom yn ei chael yn annioddefol.
Ond wrth gwrs, mae pethau wedi newid. Yn hwyr y prynhawn yma, torrodd y newyddion fod Bwrdd Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr wedi rhoi’r gorau i’r argymhellion mewn buddugoliaeth amlwg i’r rhai ohonom sydd wedi bod yn ymgyrchu dros hyn, ac wrth gwrs, mae’n rhyddhad enfawr i’r rhai a fyddai wedi cael eu heffeithio gymaint gan yr argymhellion hyn. Ond mae cymaint o gwestiynau i'w gofyn yn awr. Sut y daeth hi i hyn? Pam na welodd y bwrdd ffolineb ei ffyrdd yn gynt? Daeth Plaid Cymru â dadl ar yr union fater hwn i'r Cynulliad Cenedlaethol ychydig wythnosau yn ôl; gallai'r Gweinidog fod wedi ei atal bryd hynny, ond dewisodd gefnogi'r bwrdd. Mae cwestiynau mawr i’w gofyn am yr holl broses a pha mor ystyrlon, mewn gwirionedd, oedd y broses ymgynghori. Felly, edrychaf ymlaen at glywed beth sydd gan y Gweinidog i'w ddweud am yr holl fater a sut y caniatawyd i fwrdd iechyd o dan ei reolaeth uniongyrchol fynd ar drywydd yr argymhellion hyn yn y lle cyntaf. A byddaf yn edrych am sicrwydd yn eich ymateb, Weinidog, na chaniateir i hyn ddigwydd eto. Os rhowch hynny inni, mae'n debyg na fyddaf yn symud y cynnig hwn i bleidlais y prynhawn yma, ond os na wnewch hynny, yn amlwg, bydd angen datganiad gan y Cynulliad Cenedlaethol hwn yn ei gwneud yn glir fod yr argymhelliad hwn yn gwbl annerbyniol ac na fyddwn yn goddef argymhelliad o'r fath eto yn y dyfodol.