– Senedd Cymru ar 6 Tachwedd 2019.
Symudwn yn awr at eitem 11, ac a gaf fi atgoffa'r Aelodau eto ynglŷn â’r amseriadau? Bûm yn hael yn y ddadl hanner awr ddiwethaf. Ni fyddaf mor hael yn y ddadl hanner awr hon oherwydd dywedwyd wrthych i gyd beth yw'r amseriadau. Felly, eitem 11 yw dadl Plaid Cymru ar rotas newydd Bwrdd Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr, a galwaf ar Llyr Gruffydd i wneud y cynnig. Llyr.
Cynnig NDM7179 Rhun ap Iorwerth
Cynnig bod Cynulliad Cenedlaethol Cymru:
1. Yn gwrthwynebu penderfyniad Bwrdd Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr i gyflwyno rotas newydd a fydd yn ymestyn sifftiau staff nyrsio o fis Ionawr 2020.
2. Yn credu bod hwn yn gam niweidiol ac yn gam yn ôl—yn enwedig ar adeg pan fo mwy nag un o bob deg swydd nyrsio yn y Bwrdd Iechyd yn wag.
3. Yn nodi bod Bwrdd Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr wedi bod o dan fesurau arbennig dros y pedair blynedd diwethaf a'i fod felly o dan reolaeth uniongyrchol y Gweinidog Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol.
4. Yn galw ar Lywodraeth Cymru i wrthdroi'r penderfyniad a diogelu amodau gwaith nyrsys.
Diolch yn fawr, Ddirprwy Lywydd. Nawr, yr wythnos diwethaf, wrth gwrs, penderfynodd Bwrdd Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr y byddent yn gorfodi nyrsys, bydwragedd a gweithwyr cymorth gofal iechyd i ymestyn eu sifftiau heb unrhyw dâl ychwanegol. Y cynllun oedd gorfodi egwyl di-dâl o 30 munud ychwanegol fesul shifft, er nad oes gan lawer o nyrsys amser i gael eu hegwyl fel y mae wrth gwrs. A thrwy gyfaddefiad y bwrdd iechyd ei hun, byddai wedi golygu bod nyrsys yn gweithio sifft ddi-dâl ychwanegol y mis i gyflawni eu horiau. Nawr, roedd y penderfyniad i fod i arbed tua £25,000 y mis. Gallech ddweud nad yw’n swm ansylweddol, ond wrth gwrs, o’i roi yn ei gyd-destun, mae'r bwrdd eisoes yn gwario dros £1 filiwn y mis ar nyrsys asiantaeth, ac felly mae'n swm cymharol fach o arbediad ariannol, ond roedd y bwrdd iechyd yn barod i ddinistrio ewyllys da staff nyrsio sy'n cadw ein GIG yn weithredol.
Nawr, rwyf fi, fel llawer ohonoch rwy'n siŵr, wedi cael cannoedd o negeseuon yn ystod yr wythnosau diwethaf gan y nyrsys, y cleifion a'u teuluoedd, a fyddai wedi cael eu heffeithio gan hyn o bosibl. Roedd y bobl a oedd yn gweithio ar y rheng flaen yn dweud—ac fe ddyfynnaf un nyrs—
Hon fydd yr hoelen olaf yn yr arch i nyrsys sy'n gweithio i Betsi Cadwaladr. Rydym eisoes yn gweithio ar wardiau heb staff digonol, felly rydym yn lwcus os cawn egwyl, a bydd hyn yn golygu bod llawer o nyrsys yn troi cefn ar y proffesiwn nyrsio, a byddaf i yn un ohonynt.
Dywedodd nyrs arall wrthyf,
Byddai'r gostyngiad hwn yn y cyflog yn golygu fy mod yn gweithio shifft 6 awr ychwanegol y mis, gan achosi problemau gofal plant sylweddol a chostau uwch am hynny. Rwy'n teimlo bod y bobl sy'n gyfrifol eisiau mwy a mwy allan o weithlu sydd eisoes yn ei chael hi'n anodd.
Ac wrth gwrs, peidiwch ag anghofio bod dros 1,000 o nyrsys ym mwrdd iechyd Betsi Cadwaladr yn 55 oed neu'n hŷn, ac os collwch y grŵp hwnnw o weithwyr proffesiynol profiadol ac ymroddedig oherwydd yr ymgais gyfeiliornus hon—mae'n rhaid i mi ddweud—i arbed ychydig bunnoedd, byddwch yn amlwg yn medi'r hyn rydych yn ei hau. Mae un o bob 10 swydd nyrsio yn Betsi Cadwaladr yn wag ar hyn o bryd, sy'n golygu bod nyrsys a staff sydd dan ormod o bwysau eisoes yn gorfod gweithio oriau ychwanegol beth bynnag.
Nawr, mae'r cynnig hwn wedi dryllio morâl mewn gweithlu sydd eisoes ar y dibyn, ac mae llawer o nyrsys, fel y dyfynnais, wedi dweud y byddant yn rhoi'r gorau iddi, gyda rhai'n dweud y byddent yn ymddeol yn gynnar, eraill yn awgrymu y gallai fod rhaid iddynt fynd ar absenoldeb salwch hyd yn oed pe bai’r cynllun yn cael ei weithredu. Mae Plaid Cymru a'r undebau wedi brwydro’n ffyrnig yn erbyn hyn. Fel plaid, casglasom dros 3,500 o enwau ar ddeiseb. Casglodd Unite enwau ar y ddeiseb hefyd; gyda'n gilydd, rwy'n credu ei fod dros 8,000 o enwau rhyngom. Ac roedd yr undeb, wrth gwrs, yn sôn am roi pleidlais i’r aelodau ar weithredu diwydiannol posibl, a streicio hyd yn oed. Nawr, beth y mae hynny'n ei ddweud pan fydd gweithwyr iechyd proffesiynol ymroddedig yn dweud 'digon yw digon' ac yn ystyried yr hyn sydd y tu hwnt i amgyffred a streicio er mwyn diogelu eu hamodau gwaith? A dyna, wrth gwrs, oedd y cyd-destun y gwnaethom ni ym Mhlaid Cymru gyflwyno'r cynnig hwn gerbron y Cynulliad Cenedlaethol heddiw. Mae’n sefyllfa y mae nyrsys, bydwragedd, gweithwyr cymorth gofal iechyd, cleifion a chymaint o rai eraill ohonom yn ei chael yn annioddefol.
Ond wrth gwrs, mae pethau wedi newid. Yn hwyr y prynhawn yma, torrodd y newyddion fod Bwrdd Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr wedi rhoi’r gorau i’r argymhellion mewn buddugoliaeth amlwg i’r rhai ohonom sydd wedi bod yn ymgyrchu dros hyn, ac wrth gwrs, mae’n rhyddhad enfawr i’r rhai a fyddai wedi cael eu heffeithio gymaint gan yr argymhellion hyn. Ond mae cymaint o gwestiynau i'w gofyn yn awr. Sut y daeth hi i hyn? Pam na welodd y bwrdd ffolineb ei ffyrdd yn gynt? Daeth Plaid Cymru â dadl ar yr union fater hwn i'r Cynulliad Cenedlaethol ychydig wythnosau yn ôl; gallai'r Gweinidog fod wedi ei atal bryd hynny, ond dewisodd gefnogi'r bwrdd. Mae cwestiynau mawr i’w gofyn am yr holl broses a pha mor ystyrlon, mewn gwirionedd, oedd y broses ymgynghori. Felly, edrychaf ymlaen at glywed beth sydd gan y Gweinidog i'w ddweud am yr holl fater a sut y caniatawyd i fwrdd iechyd o dan ei reolaeth uniongyrchol fynd ar drywydd yr argymhellion hyn yn y lle cyntaf. A byddaf yn edrych am sicrwydd yn eich ymateb, Weinidog, na chaniateir i hyn ddigwydd eto. Os rhowch hynny inni, mae'n debyg na fyddaf yn symud y cynnig hwn i bleidlais y prynhawn yma, ond os na wnewch hynny, yn amlwg, bydd angen datganiad gan y Cynulliad Cenedlaethol hwn yn ei gwneud yn glir fod yr argymhelliad hwn yn gwbl annerbyniol ac na fyddwn yn goddef argymhelliad o'r fath eto yn y dyfodol.
Diolch. Rwyf wedi dewis pum gwelliant i'r cynnig. Os derbynnir gwelliant 1, bydd gwelliannau 2, 3 a 4 yn cael eu dad-ddethol. Galwaf ar y Gweinidog Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol i gynnig gwelliant 1, a gyflwynwyd yn enw Rebecca Evans, yn ffurfiol.
Gwelliant 1—Rebecca Evans
Dileu popeth a rhoi yn ei le:
Cynnig bod Cynulliad Cenedlaethol Cymru:
1. Yn gwerthfawrogi gweithlu’r GIG a’n trefniadau gweithio mewn partneriaeth gymdeithasol ym Mwrdd Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr (BIPBC) ac ym mhob bwrdd iechyd yng Nghymru.
2. Yn nodi bod BIPBC yn parhau i ymgysylltu â’r staff nyrsio a’u hundebau llafur ynglŷn â newidiadau i rotas nyrsio.
Yn ffurfiol.
Diolch yn fawr. Galwaf ar Mark Isherwood i gynnig gwelliannau 2, 3 a 4, a gyflwynwyd yn enw Darren Millar. Mark.
Ie. Wel, rydym yn gresynu bod y Gweinidog Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol wedi methu atal y penderfyniad hwn rhag cael ei wneud tan yn awr. Rydym yn gresynu hefyd fod nifer y diwrnodau gwaith a gollwyd oherwydd straen a materion yn ymwneud ag iechyd meddwl ym Mwrdd Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr wedi cynyddu 20 y cant ers 2014. Ac rydym yn nodi bod y bwrdd iechyd wedi bod o dan fesurau arbennig am fwy na phedair blynedd ac felly o dan reolaeth uniongyrchol y Gweinidog. Rwy'n cynnig gwelliannau 2, 3 a 4 yn unol â hynny.
Mae rheolwyr effeithiol yn deall bod straen a gorweithio yn brif achosion lefelau uchel o absenoldeb staff, fel y mae morâl isel a’r diffyg cymhelliant sy'n digwydd pan fydd staff yn teimlo nad ydynt yn cael eu gwerthfawrogi ddigon. Ddoe, ysgrifennodd prif weithredwr y bwrdd iechyd at aelodau ynglŷn â newidiadau i sifftiau nyrsys a gweithwyr cymorth gofal iechyd, gan nodi,
Ni ddylid talu staff am gyfnodau egwyl heblaw yn yr amgylchiadau a nodwyd.
Ychwanegodd fod y bwrdd iechyd wedi ymgynghori â'i staff a'i bartneriaid undeb llafur ynghylch y newidiadau arfaethedig. Fodd bynnag, nododd swyddog cydlynu rhanbarthol undeb Unite ddoe fod staff yn ddig ac yn barod i gymryd camau diwydiannol, rhywbeth nad oedd erioed wedi clywed nyrsys yn ei ddweud o’r blaen.
Mae llawer o nyrsys wedi ysgrifennu ataf a daw'r dyfyniadau canlynol ganddynt hwy:
Os yw Betsi Cadwaladr yn bwrw ymlaen â'u cynlluniau presennol, maent mewn perygl o elyniaethu'r staff y maent yn dibynnu arnynt ymhellach. Hefyd mae recriwtio staff i lenwi swyddi gwag eisoes yn anodd a bydd hyn yn cael effaith negyddol.
Nid wyf yn gwybod sut y bydd rhywun sy'n gweithio amser llawn a chanddynt deulu yn gallu ymdopi. Rwyf o ddifrif yn ystyried gadael fy mhroffesiwn a gwn am lawer o bobl eraill sy'n ystyried gwneud yr un peth, ac ni fydd hynny'n helpu'r broblem genedlaethol o ran prinder staff.
Mae'r newid yn adweithiol a phrin yw'r gobaith y bydd yn helpu i unioni'r gyllideb asiantaeth, a bydd yn cael effaith ganlyniadol... ar ymgysylltiad â staff... a fydd yn arwain at fwy o anawsterau yn y tymor hir.
Mewn sifft 12 awr a hanner... mae cyfnodau egwyl yn hanfodol ond oherwydd llwyth gwaith ni fyddem bob amser yn cymryd ein hegwyl neu byddai rhywbeth yn tarfu arnynt neu byddent yn fyrrach na'r angen. Ni fydd gwneud y cyfnodau egwyl yn ddi-dâl yn newid hyn.
Bron bob amser, fi yw'r unig fydwraig Band 7 ar sifft nos. Golyga hyn nad wyf byth yn gallu cymryd fy nghyfnod egwyl. Nid wyf byth yn hawlio amser yn ôl... os daw'r newid arfaethedig hwn yn weithredol, byddaf yn hawlio pob eiliad ychwanegol y byddaf yn ei gweithio ac rwy'n siŵr y bydd pob un o fy nghydweithwyr yn gwneud hynny hefyd.
Pan ysgrifennais at y Gweinidog iechyd hwn gyda'r pryderon hyn, atebodd na all ef na'i swyddogion ymyrryd mewn materion gweithredol. Wel, os yw mesurau arbennig yn golygu unrhyw beth, rhaid i Lywodraeth Cymru gymryd cyfrifoldeb a gweithredu. Neu a yw wedi camu nôl erbyn hyn? Oherwydd cyhoeddodd y wasg leol gwta ddwy awr yn ôl fod y bwrdd iechyd bellach, yn hwyr yn y dydd, wedi newid ei feddwl.
Diolch. Galwaf ar Mandy Jones i gynnig gwelliant 5, a gyflwynwyd yn enw Caroline Jones.
Cynigiwyd. Iawn, newid araith yn sydyn mewn munud.
Bydd fy ngrŵp yn pleidleisio o blaid y cynnig hwn heddiw, ac mae Plaid Brexit hefyd wedi cyflwyno gwelliant yn enw Caroline Jones sy'n galw ar Lywodraeth Cymru i sicrhau nad yw Bwrdd Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr a byrddau iechyd eraill ledled Cymru yn ceisio osgoi Deddf Lefelau Staff Nyrsio (Cymru) 2016 drwy ailddosbarthu patrymau gwaith.
Weinidog, rwyf wedi cael nifer o etholwyr yn cysylltu â fy swyddfa ynglŷn â'ch newidiadau dadleuol i rotas. Mae fy swyddfa wedi cael nyrsys yn eu dagrau, yn dweud na allant fforddio gwneud y sifftiau ychwanegol, y siwrneiau ychwanegol i'r gwaith. Costau gofal plant; golchi dillad hyd yn oed. Rwy'n ei hystyried yn warthus fod y newidiadau hyn i fod i gael eu gwneud pan fo un o reolwyr y GIG yng ngogledd Cymru yn cael ei dalu ar gyfradd o bron i £2,000 y dydd ac yn cael gweithio o'i gartref yn Marbella. Yn yr oes sydd ohoni, ni ddylai nyrsys fod mewn sefyllfa o'r fath. Mae'n broffesiwn y dylem i gyd fod yn falch ohono.
Byddaf yn edrych ymlaen at yr hyn sydd gan y Gweinidog i'w ddweud gan fod y bwrdd iechyd wedi newid ei feddwl ar hyn yn ystod yr ychydig oriau diwethaf y prynhawn yma, ac wedi cau'r caead ar y llanastr hwn, gobeithio. Ond mae'n amlwg bellach nad Brexit yw'r perygl mwyaf i hawliau gweithwyr, ond y Llywodraeth Lafur hon, sydd wedi methu atal y penderfyniad hwn rhag cael ei wneud yn y lle cyntaf.
Mi oedd bwriad Bwrdd Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr i gyflwyno'r rotas newydd yma wedi codi nyth cacwn anferth yn lleol, a hynny yn gwbl ddealladwy. A dwi'n falch iawn bod y newid meddwl yma wedi digwydd rŵan—ac rydym ni wedi clywed amdano fo dim ond rhyw awr yn ôl. Mi fyddai hyn, petai o wedi digwydd, wedi bod yn gam hynod niweidiol ac yn cymryd mantais o'r nyrsys sydd yn gweithio mor galed ac, yn aml iawn, yn mynd ymhell tu hwnt i ofynion eu swyddi nhw. Dwi yn falch bod y penderfyniad wedi ei wyrdroi, ond, o hyn ymlaen, dwi'n erfyn ar y bwrdd iechyd ac ar y Llywodraeth i roi'r parch sy'n ddyledus i'n nyrsys ni.
Mi ges i lythyr yr wythnos yma gan nyrs sy'n gweithio mewn ysbyty yn y gogledd. Ac, er bod y penderfyniad wedi ei roi o'r neilltu, mae'n werth ichi glywed beth oedd ganddi hi i'w ddweud: 'Rwyf wedi gweithio fel nyrs hyfforddedig am dros 28 mlynedd ac rwyf yn wfftio at y newidiadau i rotas nyrsys sydd i'w cyflwyno ar ôl y Nadolig. Rwy'n teimlo mor gryf am y mater, roedd yn rhaid i mi ysgrifennu atoch chi. Mae pawb yn gandryll gyda'r newidiadau sydd ar y gweill, a dwi ddim wedi siarad efo'r un nyrs sydd o blaid hyn. Mae morâl o fewn y byd nyrsio yn isel iawn yn barod. Ni fyddai'r un corff arall yn derbyn y newidiadau yma. Mi fyddai'n golygu colli ewyllys da—yn sicr ewyllys da y nyrsys yw calon gwasanaeth iechyd cyhoeddus.' Ar ddiwedd ei llythyr, mae hi'n gofyn beth fedrwn ni ei wneud i newid hyn. Wel, mi fydd y nyrs yma yn falch iawn o glywed fod yna newid wedi digwydd wrth i bobl godi llais, wrth i bobl ddod at ei gilydd i wrthwynebu ac ymgyrchu a chefnogi eu gilydd. Ac mae Plaid Cymru yn falch o fod wedi gweithio efo'r undebau er mwyn gwyrdroi'r penderfyniad yma, oedd yn un hurt o'r cychwyn cyntaf.
Dwi yn erfyn ar y Llywodraeth a'r bwrdd iechyd i ddysgu gwersi o'r saga yma—a saga ydy o. Mae'n rhaid, o hyn ymlaen, gweithio ochr yn ochr â'r undebau sy'n cynrychioli'r staff ym Mwrdd Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr. Mae'n rhaid ymgynghori mewn ffordd llawer iawn mwy ystyrlon pan fo yna newidiadau yn cael eu gwneud. Mae yna lawer iawn o waith pontio angen digwydd rŵan. Mae yna lawer o waith i'w wneud i adfer y berthynas, a llawer o waith i'w wneud i adfer yr ymddiriedaeth. Dyna sy'n fy mhoeni fi—bod yr holl bennod yma, dylid bod wedi ei hosgoi yn y man cyntaf, yn niweidiol i forâl y nyrsys ac i'r berthynas yna, ac mae'n rhaid gweithio yn galed iawn rŵan er mwyn adfer hynny. Mae'r nyrsys yma yn gweithio mor galed er lles eu cleifion, ac mae'n rhaid iddyn nhw gael eu parchu yn llawn o hyn allan.
Diolch i Blaid Cymru am gyflwyno'r cynnig hwn. Byddaf yn pleidleisio o blaid y cynnig, gan fy mod yn cefnogi ein nyrsys, ac nid wyf yn credu ei bod yn deg i'w hamodau gwaith waethygu. Adeiladwyd y GIG ar gefn y staff nyrsio. Mae nyrsio'n waith caled ac anodd, ac mae nyrsys angen yr holl gymorth y gallwn ei roi iddynt. Ac yn fy marn i, mae'r argymhellion a ddaeth gan Betsi Cadwaladr ynglŷn â'r rotas yn anghredadwy. Rwy'n falch eu bod wedi penderfynu rhoi'r gorau i'r argymhellion, ond mae'r meddylfryd y tu ôl i'r argymhellion hyn yn destun pryder ynddo'i hun. Byddai'n ymddangos yn beth gwrthgynhyrchiol i'w wneud i newid amodau gwaith nyrsys mewn modd mor niweidiol iddynt pan fo'r bwrdd yn awyddus i recriwtio nyrsys a staff eraill. Ac er bod Betsi Cadwaladr wedi rhoi'r gorau i'r argymhellion bellach, mae'n ddrwg gennyf, ond rwy'n credu bod y difrod eisoes wedi'i wneud. Mae aelodau eraill wedi sôn am y gostyngiad yn y morâl, am ysbryd y staff yn gwaethygu, ond mae'n mynd i wneud cyflogaeth yn Betsi Cadwaladr yn llai atyniadol ar adeg pan fo taer angen staff o safon ar y bwrdd, ac adeg y mae angen iddo wneud ei hun mor atyniadol ag sy'n bosibl i recriwtiaid.
Rydym i gyd yn gyfarwydd iawn â hanes Betsi Cadwaladr a'r nifer o ffyrdd y mae wedi syrthio'n brin o'r hyn y mae gan gleifion yng ngogledd Cymru hawl i'w ddisgwyl gan eu GIG. Ac ymhellach, rydym i gyd yn ymwybodol o'r ffordd y mae GIG Cymru dan Lafur wedi pydru ac yn siomi pobl Cymru yn gynyddol. Ni fyddai'r erydiad hwn ar amodau gwaith nyrsys, neu yn hytrach yr argymhellion y rhoddwyd y gorau iddynt bellach, wedi'u cynnig oni bai am fethiant Llafur i ddatrys y problemau yn y bwrdd iechyd dros y blynyddoedd y bu o dan fesurau arbennig, ac o dan reolaeth uniongyrchol y Llywodraeth Lafur hon. Gellid ei hystyried hefyd yn ymgais sinigaidd i gael y cyhoedd i feio'r problemau ar y staff a'r nyrsys drwy ddweud eu bod yn cael gormod o amser egwyl. Ond nid bai staff rheng flaen yw hyn, ac rwy'n ddig, bob tro y bydd beirniadaeth o'r GIG yng Nghymru yn cael ei wneud yn y lle hwn, fod y Gweinidog a'r Llywodraeth yn rhedeg ac yn cuddio y tu ôl i staff gweithgar y GIG er mwyn osgoi'r feirniadaeth y gellir ei hanelu'n gywir at y Gweinidog. Na, mae'n fai ar y bwrdd a Llywodraeth Lafur Cymru, sydd wedi ei gamreoli.
Ddoe, rhybuddiodd Jeremy Corbyn etholwyr y DU y byddai dewis y Llywodraeth anghywir yn arwain at erydu hawliau gweithwyr a niwed hirdymor i'r GIG. Wel, mae gennyf neges i bleidleiswyr Lloegr: os ydych eisiau gweld sut y mae Llafur modern yn rhedeg gwasanaeth iechyd, dewch i edrych ar Betsi Cadwaladr yng ngogledd Cymru. Gan mai Cymru yw'r unig wlad yn y DU y mae ei GIG wedi argymell gwaethygu telerau ac amodau cyflogaeth nyrsys, mewn bwrdd iechyd sy'n cael ei reoli'n uniongyrchol gan Lywodraeth Lafur, yn yr unig wlad yn y DU sy'n cael ei rhedeg gan Lafur, ni allaf ond tybio bod Corbyn yn rhybuddio pobl yn erbyn pleidleisio dros Lywodraeth Lafur yn San Steffan. Buaswn yn cytuno ag ef yn hynny o beth.
Ond mae'n rhaid i mi ddweud fy mod yn synnu at yr achos difrifol o amnesia y mae Plaid Cymru i'w gweld yn ei ddioddef, o fod wedi cyflwyno'r cynnig hwn—ac rwy'n cytuno â'r cynnig ac yn gwerthfawrogi'r ffaith eu bod yn ei gyflwyno—oherwydd mae'n amlwg eu bod wedi anghofio iddynt gynnal y sefydliad Llafur yn annemocrataidd yn y gorffennol, y sefydliad Llafur a fu'n camreoli'r GIG, er bod eu pleidleiswyr eu hunain wedi pleidleisio yn erbyn yr un blaid. Pe bai pleidleiswyr Plaid Cymru wedi dymuno helpu Llywodraeth Lafur i aros ar ei thraed, byddent wedi pleidleisio dros Lafur. Ar ôl cefnogi Llywodraeth Lafur am flynyddoedd tra bod y GIG yn dirywio, rhaid i Blaid Cymru gymryd ei chyfran o'r bai am y sefyllfa y mae gweithwyr a chleifion y GIG yn ei hwynebu yn awr. Nid yw Plaid Cymru erioed wedi bod yn wrthblaid go iawn, ac mae Cymru'n dioddef o ganlyniad. Ond rwy'n cefnogi'r cynnig oherwydd fy mod yn cefnogi'r nyrsys. Ni fyddaf yn cefnogi gwahoddiad y Blaid Lafur i glodfori eu hunain a gadael iddynt gladdu eu pennau yn y tywod, a byddaf yn cefnogi gwelliannau'r Ceidwadwyr a Phlaid Brexit. Diolch.
A gaf fi alw ar y Gweinidog Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol? Vaughan Gething.
Diolch yn fawr, Ddirprwy Lywydd. Diolch i'r Aelodau am eu cyfraniadau amrywiol. Rwyf am ddweud yn glir ar y dechrau na fyddwn yn cefnogi gwelliannau'r Ceidwadwyr na Phlaid Brexit. Fel y nodais yn ystod y ddadl ar y mater hwn ar 18 Medi, mae rotas staffio yn fater gweithredol, fel y dylent fod, ac yn gyfrifoldeb i sefydliadau unigol—yn yr achos hwn, yn amlwg, Bwrdd Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr. Mae angen i sefydliadau ystyried rotas yng ngoleuni eu dyletswyddau statudol i sicrhau eu bod wedi'u cynllunio i fodloni gofynion darparu gwasanaeth ac anghenion staff, gan gynnwys eu lles yn arbennig, a'u bod yn rhoi anghenion cleifion wrth wraidd y broses o reoli'r gweithlu.
Mae'r cynnig sydd ger ein bron yn dweud bod y bwrdd iechyd o dan fy rheolaeth uniongyrchol i. Fel rydym wedi dweud droeon o'r blaen, o dan fesurau arbennig, nid yw Llywodraeth Cymru yn rhedeg y bwrdd iechyd yn uniongyrchol. Y bwrdd a'r tîm arweinyddiaeth sy'n gyfrifol am faterion gweithredol o hyd. Dyma bwynt sydd wedi'i wneud droeon o'r blaen, a chredaf ei fod yn gwbl ddealledig beth bynnag am y modd y drafftiwyd y cynnig.
Yn ystod y ddadl ym mis Medi, nodais fy nisgwyliadau y byddai'r bwrdd iechyd yn gweithio'n agos gyda staff ac undebau llafur ar y newidiadau arfaethedig, yn ystyried ac yn ymateb yn briodol i'r holl sylwadau a phryderon, ac yn ystyried unrhyw effaith ar gydraddoldeb a phob adborth cyn gwneud unrhyw benderfyniad terfynol. Sylwaf fod drafft o asesiad o'r effaith ar gydraddoldeb wedi'i ddarparu yn ystod mis Hydref.
Dros y naw wythnos o ymgynghori—fe wnaethom ei ymestyn yn dilyn cais gan bartneriaid undebau llafur—cynhaliwyd 53 o gyfarfodydd gwahanol ar draws y tair ardal. Cyhoeddwyd yr ymateb i'r ymgynghoriad, yr asesiad o'r effaith ar gydraddoldeb a chynllun gweithredu'r bwrdd iechyd yr wythnos diwethaf, yn dilyn trafodaeth gyda'r fforwm partneriaeth lleol.
Fodd bynnag, rwy'n ymwybodol, wrth gwrs, fod pryderon parhaus gan yr undebau llafur ar ran eu haelodau sy'n gweithio yng ngogledd Cymru, a bod Unsain, y Coleg Nyrsio Brenhinol ac Unite wedi ysgrifennu ar y cyd at y bwrdd iechyd. Ysgrifennais at gadeirydd y bwrdd iechyd yr wythnos diwethaf i ofyn am sicrwydd eu bod yn parhau i ymgysylltu â'u staff a'u cynrychiolwyr undebau llafur i ddatrys pryderon a oedd heb eu datrys ac i roi'r wybodaeth ddiweddaraf i mi am unrhyw gynnydd.
Wrth wrthwynebu'r cynnig heddiw, mae'r Llywodraeth wedi cyflwyno gwelliannau sy'n ailadrodd y gwerth rydym yn ei roi ar ein staff nyrsio a threfniadau gweithio mewn partneriaeth gymdeithasol yma yng Nghymru, a fy nisgwyliad parhaus y bydd y bwrdd iechyd yn ymgysylltu â staff a'u cynrychiolwyr i ddatrys pryderon. Mae gennym hanes yng Nghymru o ddod o hyd i ffordd o ddod i gytundeb ar ffordd ymlaen. Gwn fod cyfarfod arall o'r fforwm partneriaeth wedi'i drefnu ar gyfer dydd Gwener yr wythnos hon. Rwy'n disgwyl i bob parti barhau i weithio'n ddidwyll i ddatrys unrhyw bryderon sy'n aros, ac er bod trafodaethau'n mynd rhagddynt, mae'r bwrdd iechyd wedi dweud yn glir heddiw mewn ymateb i'r llythyr ar y cyd gan yr undebau na fyddant yn bwrw ymlaen â'r newidiadau arfaethedig. Dywedant eu bod yn croesawu'r cyfathrebu ar y cyd ag Unsain, y Coleg Nyrsio Brenhinol ac Unite, eu bod yn gwbl ymrwymedig i gydweithio â'u partneriaid undebau llafur, y byddant yn canolbwyntio ar weithio mewn partneriaeth a sut i symud ymlaen gyda'i gilydd, ac i wneud hynny ni fyddant yn bwrw ymlaen â'r newidiadau arfaethedig, a bydd y cyfarfod ddydd Gwener yn ymwneud yn gyfan gwbl â'r mater hwn.
Rwy'n wirioneddol falch o'n dull o weithio mewn partneriaeth yma yng Nghymru. Gwyddom nad yw'n bodoli mewn unrhyw ran arall o'r Deyrnas Unedig. Dylai'r Aelodau sy'n cyfeirio at ffyrdd eraill o weithio ledled y DU edrych ar yr hyn y mae ein hundebau llafur yn ei gydnabod ac yn ei ddweud am y ffordd rydym yn ymgymryd â gwaith yma yng Nghymru. Felly, edrychaf ymlaen at weld y mater hwn yn cael ei ddatrys mewn partneriaeth, yn unol â fy nisgwyliadau, ond yn llawer mwy pwysig, yn unol â'n ffordd sefydledig ni o weithio yma yng Nghymru.
Diolch. A gaf fi alw ar Llyr Gruffydd i ymateb i'r ddadl?
Wel, ni chlywais unrhyw edifeirwch yno ynglŷn â'r ffaith ein bod wedi cyrraedd lle rydym wedi cyrraedd ar y mater hwn. Efallai y byddai ymddiheuriad wedi bod yn braf, neu o leiaf rhyw gydnabyddiaeth na ddylai fod wedi dod i hyn—ail ddadl yn y Siambr yn gofyn am yr egwyddor honno i gadarnhau na ddylai'r argymhellion hyn fynd yn eu blaenau. Mae'r Gweinidog yn dweud wrthym ei fod yn fater gweithredol, ond os yw'n anghywir, yna dylech ddweud hynny. Dyna beth y mae undeb Unite yn ei ddweud, dyna beth y mae'r Coleg Nyrsio Brenhinol yn ei ddweud, dyna beth y mae Plaid Cymru wedi bod yn ei ddweud, dyna beth y mae'r nyrsys a'r cleifion wedi bod yn ei ddweud. Ac rydych chi'n dweud nad ydych chi am fod yn rhan o'r peth. Dyna ni, dyna'ch penderfyniad, ond rwy'n credu y bydd pobl yn dehongli hynny fel y dymunant. Ac yna, wrth ymateb i rai o'r sylwadau, rydych yn dweud y dylem ofyn i undebau llafur sut rydym yn gweithredu yma yng Nghymru. Wel, mae fy sylw blaenorol yn sefyll, rwy'n meddwl—mae'r undebau'n dweud wrthych beth maent yn ei feddwl o'r argymhelliad hwn ac yn bendant, nid ydynt am iddo ddigwydd.
Fyddwn ni ddim yn cefnogi gwelliant y Blaid Lafur heddiw oherwydd yr hyn mae'r gwelliant am ei wneud yw dileu ein cynnig ni yn ei gyfanrwydd a chyflwyno rhywbeth sy'n sôn am bwysigrwydd ymgysylltu. Ac mor bwysig ag yw e, wrth gwrs, yr holl reswm dŷn ni'n dod â'r cynnig hwn gerbron heddiw yw er mwyn sefydlu'r egwyddor bod yr hyn sy'n cael ei gynnig yn anghywir yn y lle cyntaf. Mi fyddwn ni'n cefnogi'r gwelliannau eraill i gyd, gyda llaw.
Mi oedd Siân Gwenllian yn berffaith iawn i ddweud bod yna wersi i'w dysgu fan hyn. Er bod y penderfyniad wedi cael ei wyrdroi am y tro—a dwi'n dweud 'am y tro' gan wybod efallai fydd yn rhaid inni ddod yn ôl fan hyn eto os oes bwriad i gyflwyno hyn ymhellach—ond mae'r difrod wedi cael ei wneud i raddau helaeth o safbwynt tanseilio hyder y gweithlu yng ngallu'r bwrdd i adnabod ac i wrando ar lais y gweithlu, ac yn sicr o safbwynt y Gweinidog i fod yn barod i gydnabod hynny hefyd. Mae'n sicr wedi effeithio ar y morâl, sy'n isel yn barod, a dwi wedi darllen peth o'r dystiolaeth ac mae eraill fan hyn wedi darllen hefyd dystiolaeth y bobl sy'n gweithio yn y rheng flaen, nifer ohonyn nhw ar eu gliniau o dan bwysau, ac, wrth gwrs, y bwrdd yn disgwyl rhagor a rhagor allan ohonyn nhw.
Does dim amheuaeth gen i fod y penderfyniad yma i dynnu'r cynnig yma yn ôl o safbwynt y rotas i nyrsys yn y gogledd yn fuddugoliaeth i Blaid Cymru, i'r undebau, i'r nyrsys a'r cleifion hefyd. Mae'n resyn gen i nad yw'r Gweinidog yn barod i dderbyn bod hwn wedi bod yn gam gwag. Dŷn ni ddim wedi cael sicrwydd mewn unrhyw ffordd na fydd hyn yn cael ei ganiatáu i ddod yn ôl gerbron yn y dyfodol. Felly, ar y sail hynny, mi fyddwn i'n gofyn i Aelodau i ni gael symud i bleidlais ar y yma er mwyn sefydlu'r egwyddor ein bod ni, fel Cynulliad Cenedlaethol, yn gwrthwynebu'r cynnig gafodd ei roi gerbron er mwyn sicrhau nad oes posibilrwydd y bydd hynny'n cael ei ystyried eto yn y dyfodol.
Diolch. Y cynnig yw derbyn y cynnig heb ei ddiwygio. A oes unrhyw Aelod yn gwrthwynebu? [Gwrthwynebiad.] Gwrthwynebiad, felly pleidleisiwn ar yr eitem hon yn y cyfnod pleidleisio. Symudaf ymlaen at y cyfnod pleidleisio oni bai fod tri Aelod yn dymuno i'r gloch gael ei chanu. Na. O'r gorau.