Part of the debate – Senedd Cymru am 5:45 pm ar 6 Tachwedd 2019.
Diolch yn fawr, Ddirprwy Lywydd. Diolch i'r Aelodau am eu cyfraniadau amrywiol. Rwyf am ddweud yn glir ar y dechrau na fyddwn yn cefnogi gwelliannau'r Ceidwadwyr na Phlaid Brexit. Fel y nodais yn ystod y ddadl ar y mater hwn ar 18 Medi, mae rotas staffio yn fater gweithredol, fel y dylent fod, ac yn gyfrifoldeb i sefydliadau unigol—yn yr achos hwn, yn amlwg, Bwrdd Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr. Mae angen i sefydliadau ystyried rotas yng ngoleuni eu dyletswyddau statudol i sicrhau eu bod wedi'u cynllunio i fodloni gofynion darparu gwasanaeth ac anghenion staff, gan gynnwys eu lles yn arbennig, a'u bod yn rhoi anghenion cleifion wrth wraidd y broses o reoli'r gweithlu.
Mae'r cynnig sydd ger ein bron yn dweud bod y bwrdd iechyd o dan fy rheolaeth uniongyrchol i. Fel rydym wedi dweud droeon o'r blaen, o dan fesurau arbennig, nid yw Llywodraeth Cymru yn rhedeg y bwrdd iechyd yn uniongyrchol. Y bwrdd a'r tîm arweinyddiaeth sy'n gyfrifol am faterion gweithredol o hyd. Dyma bwynt sydd wedi'i wneud droeon o'r blaen, a chredaf ei fod yn gwbl ddealledig beth bynnag am y modd y drafftiwyd y cynnig.
Yn ystod y ddadl ym mis Medi, nodais fy nisgwyliadau y byddai'r bwrdd iechyd yn gweithio'n agos gyda staff ac undebau llafur ar y newidiadau arfaethedig, yn ystyried ac yn ymateb yn briodol i'r holl sylwadau a phryderon, ac yn ystyried unrhyw effaith ar gydraddoldeb a phob adborth cyn gwneud unrhyw benderfyniad terfynol. Sylwaf fod drafft o asesiad o'r effaith ar gydraddoldeb wedi'i ddarparu yn ystod mis Hydref.
Dros y naw wythnos o ymgynghori—fe wnaethom ei ymestyn yn dilyn cais gan bartneriaid undebau llafur—cynhaliwyd 53 o gyfarfodydd gwahanol ar draws y tair ardal. Cyhoeddwyd yr ymateb i'r ymgynghoriad, yr asesiad o'r effaith ar gydraddoldeb a chynllun gweithredu'r bwrdd iechyd yr wythnos diwethaf, yn dilyn trafodaeth gyda'r fforwm partneriaeth lleol.
Fodd bynnag, rwy'n ymwybodol, wrth gwrs, fod pryderon parhaus gan yr undebau llafur ar ran eu haelodau sy'n gweithio yng ngogledd Cymru, a bod Unsain, y Coleg Nyrsio Brenhinol ac Unite wedi ysgrifennu ar y cyd at y bwrdd iechyd. Ysgrifennais at gadeirydd y bwrdd iechyd yr wythnos diwethaf i ofyn am sicrwydd eu bod yn parhau i ymgysylltu â'u staff a'u cynrychiolwyr undebau llafur i ddatrys pryderon a oedd heb eu datrys ac i roi'r wybodaeth ddiweddaraf i mi am unrhyw gynnydd.
Wrth wrthwynebu'r cynnig heddiw, mae'r Llywodraeth wedi cyflwyno gwelliannau sy'n ailadrodd y gwerth rydym yn ei roi ar ein staff nyrsio a threfniadau gweithio mewn partneriaeth gymdeithasol yma yng Nghymru, a fy nisgwyliad parhaus y bydd y bwrdd iechyd yn ymgysylltu â staff a'u cynrychiolwyr i ddatrys pryderon. Mae gennym hanes yng Nghymru o ddod o hyd i ffordd o ddod i gytundeb ar ffordd ymlaen. Gwn fod cyfarfod arall o'r fforwm partneriaeth wedi'i drefnu ar gyfer dydd Gwener yr wythnos hon. Rwy'n disgwyl i bob parti barhau i weithio'n ddidwyll i ddatrys unrhyw bryderon sy'n aros, ac er bod trafodaethau'n mynd rhagddynt, mae'r bwrdd iechyd wedi dweud yn glir heddiw mewn ymateb i'r llythyr ar y cyd gan yr undebau na fyddant yn bwrw ymlaen â'r newidiadau arfaethedig. Dywedant eu bod yn croesawu'r cyfathrebu ar y cyd ag Unsain, y Coleg Nyrsio Brenhinol ac Unite, eu bod yn gwbl ymrwymedig i gydweithio â'u partneriaid undebau llafur, y byddant yn canolbwyntio ar weithio mewn partneriaeth a sut i symud ymlaen gyda'i gilydd, ac i wneud hynny ni fyddant yn bwrw ymlaen â'r newidiadau arfaethedig, a bydd y cyfarfod ddydd Gwener yn ymwneud yn gyfan gwbl â'r mater hwn.
Rwy'n wirioneddol falch o'n dull o weithio mewn partneriaeth yma yng Nghymru. Gwyddom nad yw'n bodoli mewn unrhyw ran arall o'r Deyrnas Unedig. Dylai'r Aelodau sy'n cyfeirio at ffyrdd eraill o weithio ledled y DU edrych ar yr hyn y mae ein hundebau llafur yn ei gydnabod ac yn ei ddweud am y ffordd rydym yn ymgymryd â gwaith yma yng Nghymru. Felly, edrychaf ymlaen at weld y mater hwn yn cael ei ddatrys mewn partneriaeth, yn unol â fy nisgwyliadau, ond yn llawer mwy pwysig, yn unol â'n ffordd sefydledig ni o weithio yma yng Nghymru.