Part of the debate – Senedd Cymru am 6:15 pm ar 6 Tachwedd 2019.
Diolch yn fawr iawn. Gwn fod hwn yn faes rydych yn teimlo'n gryf iawn amdano, felly, tybed a wnewch chi ymuno â mi i longyfarch Patti Flynn, a welodd, yr wythnos diwethaf, blac i gofio am aelodau o gymuned y bobl dduon a lleiafrifoedd ethnig a ymladdodd drosom yn y rhyfel. Gosodwyd y plac hwnnw ar Gofeb Ryfel Genedlaethol Cymru yng Nghaerdydd ddydd Sadwrn diwethaf. Rwy'n siŵr y byddem i gyd yn ymuno i'w llongyfarch—am y 26 mlynedd y bu'n ymgyrchu—ond hefyd ar yr un pryd i gofio am y rhai a roddodd eu bywydau.