– Senedd Cymru am 5:56 pm ar 6 Tachwedd 2019.
Symudwn yn awr at y ddadl fer. Os oes Aelodau'n gadael y Siambr, a allant wneud hynny'n gyflym, yn dawel? Symudaf yn awr at y ddadl fer, a galwaf ar Paul Davies i siarad am y pwnc y mae wedi'i ddewis. Paul.
Diolch, Ddirprwy Lywydd. Pleser mawr yw defnyddio fy nadl fer heddiw i dynnu sylw unwaith eto at ddiogelu cofebion rhyfel ledled Cymru. Mae'n anrhydedd fawr i mi gael y cyfle i siarad unwaith eto am bwysigrwydd diogelu cofebion rhyfel yng Nghymru. Fel y dywedais droeon o'r blaen, maent yn rhan hanfodol o wead diwylliannol a chymdeithasol Cymru a Phrydain, ac mae mor bwysig ein bod yn diogelu'r cofebion hyn ar gyfer y dyfodol. Rhaid i genedlaethau'r dyfodol gofio a pheidio byth ag anghofio'r rhai a fu farw dros ein rhyddid, a thrwy wneud hynny, gallant ddysgu o ryfeloedd blaenorol fel na chânt eu hailadrodd byth eto. Felly, mae'n hanfodol i lywodraethau ar bob lefel wneud popeth yn eu gallu i ddiogelu'r cofebion hyn, gan eu bod, yn anffodus, wedi dod o dan fygythiad cynyddol dros y blynyddoedd diwethaf.
Wrth gwrs, nid ymgyrch plaid wleidyddol yw hon, gan fod cefnogaeth i ddiogelu ein cofebion rhyfel wedi dod gan wleidyddion ar bob lefel ac ar bob ochr i'r sbectrwm gwleidyddol, ac mae'r gefnogaeth a ddangoswyd gan gynifer i'r achos gwerthfawr hwn yn galondid mawr i mi. Yn San Steffan, dywedodd yr Aelod Seneddol dros Liverpool Wavertree ar y pryd, Luciana Berger, ac rwy'n dyfynnu,
Mae mor bwysig ein bod yn cofio'r aberth enfawr a wnaed... a diogelu, i bob un ohonom, y rhyddid rydym yn ei fwynhau heddiw. Mae cofebion rhyfel yn ein helpu i gofio am y bobl sydd wedi rhoi eu bywydau. Mae cofebion hefyd yn helpu cymunedau lleol a phobl ifanc i ymwneud â hanes lleol.
Ac yn Holyrood, dywedodd Aelod Greenock ac Inverclyde o Senedd yr Alban, Stuart McMillan, ac rwy'n dyfynnu eto,
Mae'n ddyletswydd arnom i'n milwyr i gadw'r cofebion sy'n anrhydeddu ac yn cofio'r rhai a fu farw.
Mae galwadau gan wleidyddion o bob plaid, ac o bob rhan o'r DU, yn ein hatgoffa nad ni yn unig sy'n ceisio anrhydeddu ein harwyr, ac maent hefyd yn ein hatgoffa o'r effaith enfawr y mae'r rhyfeloedd hynny wedi'i chael ar y Deyrnas Unedig. Ac felly cawn gyfle i arwain drwy esiampl a gweithio gyda'n gilydd i sicrhau bod cofebion rhyfel Cymru yn cael eu diogelu ar gyfer y dyfodol.
Nawr, yn ôl yr amcangyfrifon diweddaraf gan yr Ymddiriedolaeth Cofebion Rhyfel, ceir oddeutu 10,000 o gofebion rhyfel yn y Deyrnas Unedig. Mae pob cofeb ryfel yn unigryw yn ei hawl ei hun. Placiau yw rhai, gerddi yw rhai eraill, ac eraill yn gerfluniau, a cheir ffenestri hyd yn oed sy'n gofebion. Ond mae i bob un ohonynt arwyddocâd aruthrol i deuluoedd y rhai a syrthiodd mewn rhyfeloedd blaenorol ac i'r gymuned leol. I rai, efallai mai'r enwau a restrir ar gofeb fydd yr unig gofnod o aberth yr unigolyn hwnnw. Mae hynny'n peri cymaint mwy o bryder wrth inni barhau i glywed straeon am gofebion yn cael eu fandaleiddio a'u difrodi ar draws y wlad. Efallai y bydd yr Aelodau'n cofio, yn ôl ym mis Mawrth, pan gafodd swastica ei phaentio ar draws cofeb ryfel Cei Conna a Shotton. Mae fandaliaeth y gofeb honno'n dangos yr amarch dyfnaf tuag at y 70 milwr a gollodd eu bywydau yn ystod y rhyfel byd cyntaf.
Ac nid dyna'r unig achos o fandaliaeth yn ystod y misoedd diwethaf. Cafodd cofeb i'r Rhyfel yn erbyn y Boeriaid ar lan y môr yn Abertawe, gyferbyn â chae rygbi Sain Helen, ei baentio â symbolau anarchiaeth a'r geiriau 'smash empire' a 'troops out'. Ac yn dilyn protest newid hinsawdd yng ngogledd Cymru ym mis Medi, cafodd cofeb ryfel ym Mangor ei fandaleiddio. Digwyddodd yr holl ddigwyddiadau hyn dros y 12 mis diwethaf, gan brofi bod diogelu cofebion rhyfel Cymru yr un mor bwysig a pherthnasol ag erioed. Ac felly, heddiw, yn y Siambr hon, gobeithio y bydd yr Aelodau'n ymuno â mi i ddweud y byddwn yn cofio'r rhai a ymladdodd ac a fu farw dros y wlad hon, ac y byddwn ni, fel cynrychiolwyr cymunedau ledled Cymru, yn gwneud popeth a allwn i ddiogelu a chofio eu haberth.
Nawr, fel y bydd y Gweinidog yn gwybod, nid dyma'r tro cyntaf i mi alw ar Lywodraeth Cymru i ddiogelu cofebion rhyfel yng Nghymru. Yn ôl yn 2012, cyflwynais nifer o'r un dadleuon ag a gyflwynaf heddiw i Huw Lewis, y Gweinidog Tai, Adfywio a Threftadaeth ar y pryd. Rhaid imi ddweud, roedd ymateb y Gweinidog yn ddiffuant, ac ar y pryd ymrwymodd i gyflwyno cynigion a fyddai'n cryfhau diogelwch i gofebion rhyfel ledled y wlad. Yn anffodus, er mor galonogol oedd ei eiriau, ychydig iawn a wnaethpwyd mewn gwirionedd. Ac felly rwy'n dweud, gyda'r parch mwyaf i'r Dirprwy Weinidog, fy mod yn gobeithio y bydd Llywodraeth Cymru yn dechrau bod o ddifrif ynglŷn â'r mater hwn. Dywedodd y Gweinidog ar y pryd, ac rwy'n dyfynnu:
'O ran dyletswydd statudol i warchod, mae gennym bellach broses agored wrth ddatblygu’r Bil treftadaeth er mwyn edrych yn drylwyr ar hynny, er bod yn rhaid cofio cymhlethdod y patrymau cyfrifoldeb a amlinellwyd eisoes gan Paul.'
Fodd bynnag, nid oedd Deddf yr Amgylchedd Hanesyddol (Cymru) 2016 a ddilynodd yn cynnwys unrhyw fesur penodol i ddiogelu cofebion rhyfel. Felly, mae'n destun gofid o hyd mai'r unig ddeddfwriaeth sy'n benodol i gofebion rhyfel yng Nghymru yw Deddf Cofebion Rhyfel (Pwerau Awdurdodau Lleol) 1923, a gwelliannau dilynol. Ac felly, yn anad dim arall heddiw, rwy'n mawr obeithio y bydd y Dirprwy Weinidog yn ymrwymo i adolygu'r ddeddfwriaeth ynghylch diogelu cofebion rhyfel, a gweithio gyda rhanddeiliaid i dynhau'r ddeddfwriaeth honno, a dod â hi i mewn i'r unfed ganrif ar hugain. Rwy'n siŵr y bydd y Dirprwy Weinidog yn cytuno â mi mai dyma'r peth lleiaf y mae ein harwyr marw yn ei haeddu.
Felly, yr ymrwymiad cyntaf y gofynnaf i Lywodraeth Cymru ei wneud heddiw yw dechrau cynnal rhestr genedlaethol, gyfoes o gofebion rhyfel yng Nghymru. Rwy'n sylweddoli ei bod yn dipyn o gamp, ond mae'n bwysig iawn fod data'n cael ei gofnodi sy'n nodi nifer a lleoliad yr holl gofebion rhyfel yma yng Nghymru. Gellid gwneud hyn drwy awdurdodau lleol, a allai fod mewn sefyllfa well i nodi a llunio rhestr o'r cofebion rhyfel yn eu hardaloedd. Wrth gwrs, rwy'n derbyn, mewn rhai achosion, y gall cofebion fod ar dir preifat, neu, er enghraifft, wedi'u lleoli mewn ysgol neu eglwys, ac fel y cyfryw, byddai'r cyfrifoldeb dros gynnal y cofebion hynny'n disgyn arnynt hwy. A hyd yn oed heddiw, cefais ohebiaeth ynghylch pa mor agored i niwed oedd cofebion rhyfel answyddogol, a'r angen am fwy o ddiogelwch iddynt. Felly, mae'n hanfodol fod Llywodraeth Cymru yn gweithio gydag awdurdodau lleol i ganfod ble mae ein cofebion rhyfel, ac o dan stiwardiaeth pwy.
Nawr, rwy'n derbyn, fel rhan o Cymru'n Cofio 1914-1918, rhaglen goffáu canmlwyddiant y rhyfel byd cyntaf, fod Cadw wedi lansio'r cynllun grantiau ar gyfer cofebion rhyfel yng Nghymru. Yn ôl yr hyn a ddeallaf, fe'i datblygwyd mewn partneriaeth â'r Ymddiriedolaeth Cofebion Rhyfel, a'i nod oedd darparu cyllid ar gyfer atgyweirio a chynnal cofebion ar draws Cymru, ac mae'r fenter honno i'w chroesawu'n fawr iawn. Ond dim ond un darn o'r pos yw ariannu, ac felly mae'n hanfodol fod Llywodraeth Cymru, wrth symud ymlaen, yn gweithio gyda sefydliadau fel Cadw a'r Ymddiriedolaeth Cofebion Rhyfel, a rhanddeiliaid ac awdurdodau lleol hefyd, i sicrhau bod y cofebion sydd fwyaf o angen eu hatgyweirio yn cael eu nodi, a'u blaenoriaethu yn wir.
Felly, hoffwn ddweud unwaith eto wrth Lywodraeth Cymru y dylai fod dyletswydd statudol ar awdurdodau lleol i ddiogelu ein cofebion rhyfel. Fel y dywedais yn ôl yn 2012, byddai hyn yn golygu y byddai'r ddyletswydd gyfreithiol yn ei gwneud yn ofynnol i awdurdodau lleol ledled Cymru sicrhau bod cofebion rhyfel yn eu hardaloedd yn cael eu cynnal. Gwyddom fod Deddf cofebion rhyfel 1923 yn caniatáu i awdurdodau lleol ddefnyddio arian cyhoeddus i gynnal cofebion, ond nid oes unrhyw reidrwydd ar gynghorau i wneud hynny. Byddai hyn yn golygu sicrhau bod gan bob awdurdod lleol, gan weithio'n agos gyda grwpiau a sefydliadau cymunedol, geidwad penodol sy'n gyfrifol am nodi a chynnal cofebion rhyfel yn eu hardaloedd. Mae cyfle hefyd gyda'r rôl i gynnwys rhywfaint o waith addysgu allanol, i hyrwyddo cofebion rhyfel mewn ardaloedd lleol, er enghraifft drwy ymweld ag ysgolion, a siarad â phlant a phobl ifanc. Byddai creu'r rôl hon yn anfon neges glir fod Llywodraeth Cymru yn anrhydeddu ei harwyr drwy anadlu bywyd newydd i mewn i'w straeon a sicrhau bod cenedlaethau'r dyfodol yn deall eu harwyddocâd yn ein hanes yn llawn. Mae'n drueni mawr fod nifer o awdurdodau lleol ledled Cymru heb bwynt cyswllt i'r gymuned leol allu dysgu mwy am gofebion yn eu hardaloedd, ac mae hynny'n rhywbeth y mae taer angen ei newid.
Drwy gydweithio rhwng Llywodraeth Cymru, awdurdodau lleol a chymunedau lleol yn unig y gallwn sicrhau bod cofebion rhyfel yn cael eu gwarchod yn iawn. Felly, yn fy marn i, cael dyletswydd statudol i awdurdodau lleol ddarparu ceidwad cadwraeth neu swyddog cofebion rhyfel fyddai'r ffordd orau o sefydlu pwynt cyswllt ar gyfer y cyhoedd, datblygu partneriaethau gyda grwpiau a sefydliadau cymunedol lleol, sydd â chyfrifoldeb wedi'i sefydlu eisoes dros rai cofebion yn yr ardal, ac yn wir, creu cysylltiadau gydag ysgolion lleol i addysgu plant a phobl ifanc am bwysigrwydd cofebion rhyfel ac i adrodd hanesion am yr aberth mawr a wnaed drosom.
Wrth gwrs, mae rhai grwpiau cymunedol eisoes yn gwneud gwaith gwych yn diogelu cofebion rhyfel a dylid eu hannog i barhau i wneud hynny. Rhaid caniatáu i'r grwpiau hynny barhau â'u gwaith a rhaid inni gefnogi ymdrechion grwpiau cymunedol, sydd â chyfrifoldeb wedi'i sefydlu dros gofebion yng Nghymru. Fodd bynnag, byddai perthynas waith gref â phwynt cyswllt mewn awdurdod lleol yn cryfhau lefel y diogelwch a gynigir i'w cofebion rhyfel a gallai fod yn ffordd o'u diogelu'n well ar adeg pan fo achosion o ddwyn a difrodi cofebion ar gynnydd mewn gwirionedd.
Fy argymhellion terfynol, Ddirprwy Lywydd, yw galw ar Lywodraeth Cymru i sicrhau bod gan awdurdodau lleol yr adnoddau gorau posibl i frwydro yn erbyn y rheini sy'n targedu cofebion rhyfel ar gyfer metel sgrap. Mae y tu hwnt i ddeall pam y byddai rhywun yn dewis dwyn cofeb, neu rannau ohoni, ond yn anffodus, mae'n digwydd. A rhaid inni gofio nad yw'r rhain yn droseddau heb ddioddefwyr o gwbl—maent yn droseddau yn erbyn cymdeithas ac mae iddynt ganlyniadau pellgyrhaeddol i'n cymunedau. Felly, rwy'n falch fod Llywodraeth y DU, yn 2013, wedi cyflwyno Deddf Delwyr Metel Sgrap 2013 i gryfhau'r rheoliadau mewn perthynas â delwyr metel sgrap ac i dynhau'r drefn bresennol.
Mae'r ddeddfwriaeth bellach yn ei gwneud yn ofynnol i bob unigolyn a busnes gwblhau proses ymgeisio fanwl i gael trwydded deliwr metel sgrap, gan roi pŵer i awdurdodau lleol wrthod ymgeiswyr anaddas a dirymu trwyddedau. Mae'r ddeddfwriaeth honno wedi cael effaith enfawr mewn gwirionedd, ac amcangyfrifir bod lefelau dwyn metel wedi disgyn fwy na thri chwarter yn y pedair blynedd gyntaf ers i'r ddeddfwriaeth ddod i fodolaeth. Fodd bynnag, mae mwy y gellir ei wneud bob amser. Rwy'n siŵr bod y Dirprwy Weinidog eisoes yn ymwybodol o'r llofnod SmartWater newydd sy'n weladwy o dan olau uwchfioled yn unig, dyfais a all helpu'r heddlu i olrhain cofebion sydd wedi'u dwyn. Ar ôl ei osod, mae hi bron iawn yn amhosibl dileu SmartWater a gall wrthsefyll llosgi, chwythu tywod ac amlygiad hirdymor i UV. Dyma un ffordd o ddiogelu cofebion rhyfel, a gobeithiaf y byddai Llywodraeth Cymru yn cytuno i ddatblygu partneriaeth ehangach â'r SmartWater Foundation a'r Ymddiriedolaeth Cofebion Rhyfel i ddefnyddio'r arf ataliol grymus hwn a sicrhau bod ein hawdurdodau lleol yn gallu gwneud defnydd ohono.
Wrth gloi, mae gennym gyfle i ymestyn ein gallu i gofio a dangos ein parch mwyaf i gymuned ein lluoedd arfog drwy addo diogelu cofebion rhyfel yng Nghymru. Yn bersonol, rwy'n ymfalchïo yn nhreftadaeth filwrol Cymru a chredaf y dylai Llywodraeth Cymru wneud popeth yn ei gallu i weithio gydag eraill i helpu i ddiogelu a hyrwyddo ein cofebion rhyfel. Mae hyn yn ymwneud ag anrhydeddu ein harwyr a rhoi cyfleoedd i'n plant a'n pobl ifanc ddysgu mwy amdanynt a'r pris eithaf a dalwyd ganddynt am ein rhyddid. Felly, rwy'n galw ar Lywodraeth Cymru i ymrwymo o ddifrif i wneud mwy i ddiogelu cofebion rhyfel yng Nghymru. Mae dyletswydd arnom i'n harwyr a roddodd eu bywydau i wneud hynny, a dim llai.
Diolch. Rwy'n mynd i alw ar y Dirprwy Weinidog Diwylliant, Chwaraeon a Thwristiaeth i ymateb i'r ddadl—Dafydd Elis-Thomas.
Diolch yn fawr am y cyfle yma i ymateb i'r ddadl, a diolch i Paul Davies am ddewis y pwnc amserol yma i'w drafod heddiw.
Mae Comisiwn y Cynulliad, wrth gwrs, yn gyfrifol am gofeb nodedig iawn sydd o flaen y Senedd hon, ac yn fan yno y byddaf i yn y gwasanaeth arferol gyda'r llynges fasnach, oherwydd rydw i'n parhau i werthfawrogi'r swydd anrhydeddus o fod yn llywydd anrhydeddus i'r llynges fasnach, fel cydnabyddiaeth o'r berthynas arbennig sydd rhyngom ni yma yn y Senedd hon a'n hetifeddiaeth forol.
Mae gyda ni gofebau rhyfel, cymaint â 5,000, o bosib, ar draws Cymru, ac maen nhw ar wahanol ffurfiau—yn blaciau neu'n senotaffau bychain. Mae yna barciau, mae yna ysbytai, a neuaddau coffa hefyd, sydd yn rhan o'r hyn a fuddsoddwyd gan gymunedau yng Nghymru, gyda chefnogaeth gyhoeddus, i gofio'r rhai a gollwyd o'r cymunedau hynny yn y rhyfel byd cyntaf a’r ail ryfel byd, a pheidied ag anghofio, wrth gwrs, y rhyfeloedd ers hynny, nac, yn wir, y rhyfel cartref yn Sbaen.
Mae coffáu'r digwyddiadau yma'n ddyletswydd arnon ni i gyd. Rydw i wedi gwrando'n ofalus ar beth a gyflwynwyd gan Paul heddiw, ac wedi darllen beth y dywedodd o o'r blaen, ac rydw i'n canmol ei ddygnwch o yn parhau i ddilyn y drafodaeth yma. Felly, wrth ymateb, rwyf am ddweud y gwnawn ni edrych o'r newydd ar ein perthynas â'r Ymddiriedolaeth Cofebau Rhyfel—y War Memorials Trust. Dwi yn sylwi bod Historic England, y corff hanesyddol sy'n cyfateb i Cadw yn Lloegr, ac, yn wir, Historic Environment Scotland, mewn perthynas uniongyrchol gyda'r ymddiriedolaeth, ac efallai y byddai o'n briodol i ni gryfhau ein perthynas â'r ymddiriedolaeth, gan ein bod ni wedi cydweithio gyda nhw yn y cynllun grantiau y cyfeiriodd Paul ato fo.
Mae cymunedau lleol, wrth gwrs, yn cyfrannu, yn enwedig drwy'r Lleng Brydeinig Frenhinol a'r gwirfoddolwyr i'r gwaith hanfodol o ofalu am gofebau rhyfel, ac rydyn ni yn gweld ei bod hi'n bwysig ein bod ni, fel Llywodraeth, nid jest yn cydnabod ond yn cefnogi'r gweithgareddau yma. Mae'n deg imi ddweud bod Cadw wedi gweithredu yn y maes yma o safbwynt rhestru cofebau. Dwi'n derbyn nad ydy deddfwriaeth restru'n golygu bod yna gadwraeth ddiogel o angenrheidrwydd, ond mae nifer y cofebau wedi cynyddu, ac mae Llywodraeth Cymru, drwy'r rhaglen Cymru'n Cofio, y cyfeiriodd Paul ati, wedi bod yn dynodi canmlwyddiant y rhyfel byd cyntaf, ac fe baratôdd Cadw ganllawiau ymarferol i gymunedau sy'n dymuno gwarchod a gofalu am eu cofebau rhyfel. Ac mae yna dros 40 o grantiau unigol, cyfanswm o £230,000, ar gyfer gwarchod pob math o gofebau wedi dod allan o'r ffynhonnell yna. Un ohonyn nhw ydy'r gofeb arall—byddaf i yno ddydd Sul, gobeithio—sef cofeb rhyfel cenedlaethol Cymru ym Mharc Cathays.
Felly, rydyn ni, fel Llywodraeth wedi dangos bod gyda ni ewyllys tuag at goffáu yng Nghymru, ond rydyn ni hefyd wedi cefnogi cofebau o bwys cenedlaethol y tu allan i Gymru, gyda gwariant o £25,000 yn y gofeb Gymreig yn Fflandrys, a'r cymorth yn ogystal i'r gofeb yng Nghoedwig Mametz, yng ngogledd Ffrainc—gwariant o ryw £7,000 yn y fan honno. Ond gan fod y cyfnod penodol o ddathlu'r rhyfel mawr, y rhyfel cyntaf, yn dirwyn i ben, a gan ein bod ni wedi cydweithio gyda'r ymddiriedolaeth, y War Memorials Trust yn y gorffennol, fe wnaf i ymrwymiad fy mod i'n mynd i ystyried ymhellach sut y gallwn ni gryfhau ein gweithredu fel Llywodraeth yn y ffordd y mae Paul wedi'i awgrymu. Fyddai fo ddim yn disgwyl imi wneud ymrwymiad cryfach na hynny heddiw, ond mae gen i ddiddordeb fy hun, nid yn unig o safbwynt y Gweinidog sydd â chyfrifoldeb yn ateb heddiw, ond hefyd o ran y pwysigrwydd o gofio, ac o gofio'n briodol. A dwi'n gwerthfawrogi'n fawr y cyfraniadau sydd wedi cael eu gwneud yn y gwahanol gymunedau ar hyd y blynyddoedd i ddathlu, i gofio ac i gydnabod, ac i alaru, wrth gwrs. Mae'r pethau yma i gyd yn mynd gyda'i gilydd.
A wnewch chi dderbyn ymyriad?
Gwnaf, wrth gwrs, Joyce.
Diolch yn fawr iawn. Gwn fod hwn yn faes rydych yn teimlo'n gryf iawn amdano, felly, tybed a wnewch chi ymuno â mi i longyfarch Patti Flynn, a welodd, yr wythnos diwethaf, blac i gofio am aelodau o gymuned y bobl dduon a lleiafrifoedd ethnig a ymladdodd drosom yn y rhyfel. Gosodwyd y plac hwnnw ar Gofeb Ryfel Genedlaethol Cymru yng Nghaerdydd ddydd Sadwrn diwethaf. Rwy'n siŵr y byddem i gyd yn ymuno i'w llongyfarch—am y 26 mlynedd y bu'n ymgyrchu—ond hefyd ar yr un pryd i gofio am y rhai a roddodd eu bywydau.
Roeddwn ar fai'n anghofio sôn am Patti Flynn, person y mae gennyf barch personol uchel iawn tuag ati. Ac yn wir, mae a wnelo nid yn unig â phwysigrwydd coffâd y gofeb ryfel i'r cymunedau du ac ethnig a gymerodd ran mor weithredol yn amddiffyn y Deyrnas Unedig a'n cymunedau ar yr adegau anodd hyn, ond â phwysigrwydd hynny i ni fel Llywodraeth, i gydnabod ein bod yn gymdeithas amlddiwylliannol ac amlhiliol go iawn yma yng Nghymru. Felly, rwy'n ddiolchgar iawn i chi am fy atgoffa am bwysigrwydd cyfraniad Patti Flynn.
Felly, i grynhoi, dwi'n gobeithio mai cychwyn y drafodaeth ydyn ni heddiw, a dwi'n edrych ymlaen at gydweithio ymhellach efo Paul Davies ac Aelodau eraill o'r Cynulliad sydd yn amlwg â diddordeb, wedi aros yma am y drafodaeth yma heddiw, i sicrhau ein bod ni'n parhau i goffáu mewn modd priodol y rhai y mae ein rhyddid ni wedi dibynnu ar eu bywydau nhw.
Diolch yn fawr iawn. Daw hynny â thrafodion heddiw i ben. Diolch yn fawr.