Effaith Brexit ar Buro Dŵr Yfed

Part of 2. Cwestiynau i'r Cwnsler Cyffredinol a’r Gweinidog Brexit (yn rhinwedd ei gyfrifoldebau fel Gweinidog Brexit) – Senedd Cymru am 2:20 pm ar 6 Tachwedd 2019.

Danfonwch hysbysiad imi am ddadleuon fel hyn

Photo of Mike Hedges Mike Hedges Labour 2:20, 6 Tachwedd 2019

(Cyfieithwyd)

Un o'r pethau pwysicaf mewn bywyd yw dŵr yfed glân, fel y mae llawer o bobl mewn rhai o wledydd y trydydd byd yn ei ddarganfod bob dydd, yn anffodus. Yr hyn y mae Brexit wedi'i ddysgu inni, fodd bynnag, yw'r ffordd y mae ein heconomi wedi teneuo a pha mor ddibynnol rydym ni fel gwlad ar fewnforio angenrheidiau sylfaenol. Er nad yw'n newid bywyd i allu prynu llysiau tymhorol yn unig, mae diffyg dŵr glân yn newid bywydau ac o bosibl yn rhoi diwedd ar fywydau. Beth y mae Llywodraeth Cymru yn ei wneud i sicrhau parhad y cyflenwad o gemegau sydd eu hangen i buro dŵr, a pha gefnogaeth y maent yn ei rhoi i'r cwmni dŵr sy'n gwasanaethu'r rhan fwyaf o Gymru a'r cwmni dŵr arall sy'n gwasanaethu gweddill Cymru er mwyn sicrhau bod y dŵr a gawn o'n tapiau yn lân ac o'r ansawdd rydym yn ei ddisgwyl ac yn ei gael ar hyn o bryd?