Part of 2. Cwestiynau i'r Cwnsler Cyffredinol a’r Gweinidog Brexit (yn rhinwedd ei gyfrifoldebau fel Gweinidog Brexit) – Senedd Cymru am 2:21 pm ar 6 Tachwedd 2019.
Diolch i'r Aelod am ei gwestiwn atodol. Mae hwn yn gwestiwn pwysig iawn, wrth gwrs. Mae gan Gymru beth o'r dŵr yfed o'r safon uchaf yn Ewrop, gyda'n cydymffurfiaeth yn erbyn y safonau perthnasol yn 99.95 y cant. Felly, mae'n fater pwysig i ni, a byddwn bob amser yn awyddus i barhau i fodloni'r safonau hynny, ni waeth beth fydd yn digwydd yn sgil Brexit. Fe fydd yn ymwybodol, wrth gwrs, fod diogelwch y cyflenwad dŵr yn y DU wedi bod yn rhan o broses gynllunio Operation Yellowhammer, ac mae corff cynrychiadol y diwydiannau dŵr, Water UK, a’r cwmnïau dŵr, gan gynnwys y rheini sy’n gweithredu yng Nghymru, wedi bod yn gweithio ar y cyd i sicrhau bod ganddynt ddealltwriaeth fanwl o'r gadwyn gyflenwi. Maent wedi cymryd camau penodol mewn perthynas â chasglu cemegau hanfodol a ddefnyddir i drin dŵr, yn ogystal â sefydlu trefniadau cyd-gymorth gyda chwmnïau dŵr eraill. Yn y senario waethaf—ond credwn ei bod yn annhebygol iawn y byddai hyn yn angenrheidiol—mae'r statudau'n rhoi'r grym i Weinidogion Cymru roi cyfarwyddiadau i'n cwmnïau dŵr liniaru unrhyw effeithiau a allai godi.