Cwestiynau Heb Rybudd gan Lefarwyr y Pleidiau

Part of 2. Cwestiynau i'r Cwnsler Cyffredinol a’r Gweinidog Brexit (yn rhinwedd ei gyfrifoldebau fel Gweinidog Brexit) – Senedd Cymru am 2:30 pm ar 6 Tachwedd 2019.

Danfonwch hysbysiad imi am ddadleuon fel hyn

Photo of Darren Millar Darren Millar Conservative 2:30, 6 Tachwedd 2019

(Cyfieithwyd)

Rwy'n falch o glywed neges gyson yn dod o'ch ceg y tro hwn, o leiaf, oherwydd, wrth gwrs, rydym wedi clywed pob math o newid meddwl gan Lywodraeth Cymru dros y misoedd diwethaf. Nawr, rydych wedi ceisio mynegi safbwynt Plaid Lafur y DU ar Brexit, ond y gwir amdani yw nad oes gan Blaid Lafur y DU safbwynt ar Brexit. Yr hyn sydd gennych yw safbwynt ar gynnal ail refferendwm, gan nad yw eich arweinyddiaeth, arweinyddiaeth Plaid Lafur y DU, yn ddigon dewr i ddweud sut y byddant yn ymgyrchu yn y refferendwm hwnnw. Nawr, mae fy mhlaid yn glir iawn. Mae gennym bolisi i gyflawni Brexit. Mae pleidiau eraill, a bod yn deg iddynt, hefyd yn glir iawn eu bod yn dymuno aros. Ond mae Plaid Lafur y DU yn gwneud yr hoci coci ar hyn, gydag un droed i mewn ac un droed allan o ran gadael neu aros.

Nawr, Weinidog, rwy'n siŵr y byddech yn cytuno ei bod yn hanfodol fod y cyhoedd yn gwybod beth yw safbwynt unrhyw Lywodraeth yn y DU yn y dyfodol ar Brexit. Felly, a ydych yn cytuno ei bod yn bryd i'ch cymheiriaid ym Mhlaid Lafur y DU ddweud y gwir wrth y cyhoedd, nodi safbwynt clir ar Brexit, a rhoi cyfle i bleidleiswyr ledled Cymru ddweud eu dweud ar 12 Rhagfyr, gan wybod beth yn union rydych chi'n sefyll drosto?