Effaith Oedi Pellach o ran Brexit

Part of 2. Cwestiynau i'r Cwnsler Cyffredinol a’r Gweinidog Brexit (yn rhinwedd ei gyfrifoldebau fel Gweinidog Brexit) – Senedd Cymru am 2:42 pm ar 6 Tachwedd 2019.

Danfonwch hysbysiad imi am ddadleuon fel hyn

Photo of Jeremy Miles Jeremy Miles Labour 2:42, 6 Tachwedd 2019

(Cyfieithwyd)

Wel, credaf fod yr Aelod yn gwneud pwynt pwysig iawn. Er bod 31 Ionawr yn rhoi rhywfaint o hyder inni mewn perthynas â Brexit heb gytundeb yn y dyfodol agos, mae'r pwynt a wna yn mynd at wraidd y gwendid yng nghytundeb Boris Johnson gyda'r Undeb Ewropeaidd, sef na cheir unrhyw sicrwydd nad ydym yn sôn am Brexit heb gytundeb gohiriedig. A gwyddom pa ddifrod y bydd hynny'n ei achosi i'r sector ffermio, i wahanol sectorau o'n heconomi a'n cymunedau yn gyffredinol. Rhannaf ei amheuaeth y gellir cyflawni'r math o gytundeb masnach rydd—oni bai ei fod yn hynod o gyfyngedig—y mae'n ei ddisgrifio yn y datganiad gwleidyddol o fewn y cyfnod hwnnw, hyd yn oed ar ei delerau ei hun. Unwaith eto, os edrychwn ar ffigurau Llywodraeth y DU, hyd yn oed os oes modd rhoi'r cytundebau masnach hynny ar waith, nid yw'r fantais i economi'r DU yn sgil hynny yn ddim o gymharu â'r niwed y byddai perthynas o'r fath â'r Undeb Ewropeaidd yn ei wneud i'n heconomi yn y dyfodol.