2. Cwestiynau i'r Cwnsler Cyffredinol a’r Gweinidog Brexit (yn rhinwedd ei gyfrifoldebau fel Gweinidog Brexit) – Senedd Cymru ar 6 Tachwedd 2019.
4. A wnaiff y Cwnsler Cyffredinol ddatganiad am yr effaith y bydd oedi pellach i gytundeb Brexit yn ei chael ar Orllewin Caerfyrddin a De Sir Benfro? OAQ54642
Mae'r estyniad hyblyg hyd at 31 Ionawr yn golygu bod Brexit digytundeb trychinebus wedi'i osgoi, neu ei ohirio o leiaf. Yn economaidd, mae hynny'n golygu cynnal y status quo. Mae hefyd yn rhoi cyfle i wrthod cytundeb Brexit caled Boris Johnson a rhoi’r penderfyniad yn ôl i’r bobl.
Roedd gennyf deimlad y byddech chi'n dweud rhywbeth tebyg i hynny, Gwnsler Cyffredinol, felly rwy'n falch na chefais fy siomi. Wrth gwrs, yn y pen draw, credaf fod pob un ohonom yn clywed yr hyn rydym am ei glywed, a hoffwn ddweud wrthych beth y mae ffermwyr yn fy etholaeth yn ei ddweud wrthyf, gan eu bod yn dymuno cael ac angen sicrwydd ynglŷn â Brexit, ac o'r nifer o sgyrsiau rwyf wedi'u cael, gwn eu bod yn awyddus i gael cytundeb. Rywsut neu'i gilydd, maent am gael cytundeb er mwyn cael sicrwydd fel y gallant gynllunio ar gyfer y dyfodol. Ac eto, y mis diwethaf, yn San Steffan, pleidleisiodd y Blaid Lafur yn erbyn cymeradwyo cytundeb newydd y Llywodraeth Geidwadol, cytundeb a wnaethant gyda’r UE, ac a oedd i'w weld yn ennyn cefnogaeth amrywiaeth eithaf eang o wahanol sefydliadau, gwahanol sectorau diwydiannol, ffermwyr, ac yn y blaen. Ac ymddengys mai polisi Llywodraeth Cymru yw cael ail refferendwm. Pa warant y gallwch ei rhoi i fy ffermwyr yng Ngorllewin Caerfyrddin a De Sir Benfro, pe baech yn cynnal ail refferendwm, y byddech yn trafferthu cyflawni'r canlyniad?
Diolch i'r Aelod am gydnabod cysondeb fy ymagwedd ar ddechrau ei chwestiwn. Mae gennyf ffermwyr sy'n trafod eu pryderon gyda minnau hefyd, ac mae eu pryderon yn ymwneud â pha sicrwydd a gânt o gyllid gan Lywodraeth y DU yn lle'r gefnogaeth a gânt ar hyn o bryd. Pa gyllid y gallwn ei sicrhau ar gyfer buddsoddi rhanbarthol yng Nghymru gan Lywodraeth y DU yn lle'r gefnogaeth y gallwn ei darparu iddynt ar hyn o bryd? Yn anffodus, mae'n rhaid imi ddweud wrthynt mai'r sefyllfa mewn gwirionedd, er gwaethaf sloganau gobeithiol Boris Johnson, yw na allaf roi'r sicrwydd y maent yn dymuno'i gael. Y rheswm am hynny yw bod Llywodraeth y DU wedi esgeuluso'r sector amaethyddol yn llwyr fel rhan arwyddocaol o'n heconomi, er gwaethaf y datganiadau a welwn weithiau yn y penawdau. Felly, dyna'r realiti, a dyna y mae ffermwyr yn ei ddweud wrthyf, ac rwy'n synnu nad yw ffermwyr yn ei hetholaeth hi'n dweud wrthi eu bod yn poeni nad yw Llywodraeth y DU yn cyflawni ei chyfrifoldebau.
Weinidog, nododd etholwyr Angela Burns y pryderon ynghylch oedi posibl, ond beth yw eich ystyriaethau ar gyfer yr etholwyr hynny os caiff y cytundeb hwn ei dderbyn a bod gennym 11 mis i negodi cytundeb masnach rydd, sy'n annhebygol? Ymddengys bod pawb heblaw Michael Gove o'r farn fod hynny'n amhosibl, ac mae e'n bendant na fyddant yn gofyn am estyniad i unrhyw gyfnod pontio, sy'n golygu y byddwn yn gadael heb gytundeb ar 31 Rhagfyr y flwyddyn nesaf. Beth yw'r goblygiadau i'r etholwyr hynny os bydd hynny'n digwydd?
Wel, credaf fod yr Aelod yn gwneud pwynt pwysig iawn. Er bod 31 Ionawr yn rhoi rhywfaint o hyder inni mewn perthynas â Brexit heb gytundeb yn y dyfodol agos, mae'r pwynt a wna yn mynd at wraidd y gwendid yng nghytundeb Boris Johnson gyda'r Undeb Ewropeaidd, sef na cheir unrhyw sicrwydd nad ydym yn sôn am Brexit heb gytundeb gohiriedig. A gwyddom pa ddifrod y bydd hynny'n ei achosi i'r sector ffermio, i wahanol sectorau o'n heconomi a'n cymunedau yn gyffredinol. Rhannaf ei amheuaeth y gellir cyflawni'r math o gytundeb masnach rydd—oni bai ei fod yn hynod o gyfyngedig—y mae'n ei ddisgrifio yn y datganiad gwleidyddol o fewn y cyfnod hwnnw, hyd yn oed ar ei delerau ei hun. Unwaith eto, os edrychwn ar ffigurau Llywodraeth y DU, hyd yn oed os oes modd rhoi'r cytundebau masnach hynny ar waith, nid yw'r fantais i economi'r DU yn sgil hynny yn ddim o gymharu â'r niwed y byddai perthynas o'r fath â'r Undeb Ewropeaidd yn ei wneud i'n heconomi yn y dyfodol.