Part of 2. Cwestiynau i'r Cwnsler Cyffredinol a’r Gweinidog Brexit (yn rhinwedd ei gyfrifoldebau fel Gweinidog Brexit) – Senedd Cymru am 2:47 pm ar 6 Tachwedd 2019.
Diolch am eich ateb, Gwnsler Cyffredinol. Yn dilyn marwolaethau erchyll 39 o fudwyr o Fiet-nam yn Essex y mis diwethaf, mae nifer o uwch ASau ac arbenigwyr wedi rhybuddio bod y DU yn wynebu risg wirioneddol o gael ei heithrio o Europol a'u hasiantaethau, gan gynnwys yr uned atal masnachu pobl a Chanolfan Smyglo Mudwyr Ewrop, ar ôl Brexit. Aethant yn eu blaenau i ddweud y byddai mynediad y DU at y sefydliadau hynny, hyd yn oed gyda chytundeb, yn cael ei israddio.
Gallai hawl y DU i gyrchu a rhannu gwybodaeth am lu o faterion diogelwch fel masnachu pobl a throseddau rhyngwladol gael ei llesteirio'n ddifrifol ar adeg pan fo mwy o angen nag erioed am gydweithredu rhyngwladol. Mae cael eich eithrio o sefydliad sydd â gallu dihafal i olrhain troseddau ledled Ewrop a thu hwnt yn achos pryder mawr. Felly, Weinidog, pa drafodaethau a gawsoch gyda Llywodraeth San Steffan—neu y byddwch yn eu cael ar ôl iddi ddychwelyd—ynglŷn â sut y bwriadant gynnal mynediad at yr holl asiantaethau rwyf newydd eu crybwyll, yn enwedig nawr, a ninnau mewn cyfnod mor gythryblus yn rhyngwladol?