Part of 2. Cwestiynau i'r Cwnsler Cyffredinol a’r Gweinidog Brexit (yn rhinwedd ei gyfrifoldebau fel Gweinidog Brexit) – Senedd Cymru am 2:34 pm ar 6 Tachwedd 2019.
Diolch. Weinidog, hoffwn ofyn i chi ynghylch cynlluniau Llafur ar gyfer negodi cytundeb Brexit newydd. Rwy'n ymwybodol eich bod wedi bod ym Mrwsel yn ddiweddar yn cwrdd â chynrychiolwyr o'r Undeb Ewropeaidd. A allwch chi ddweud wrtha i os gwnaethoch chi gynnal trafodaethau gyda nhw ynglŷn â chynlluniau'ch plaid i negodi cytundeb newydd wedi ei seilio ar greu undeb dollau newydd? Ac a wnaethoch eu holi a fydden nhw'n barod i rhoi estyniad arall i erthygl 50 er mwyn caniatáu amser i negodi'r cytundeb hwn ac yna i alw refferendwm?