Part of 2. Cwestiynau i'r Cwnsler Cyffredinol a’r Gweinidog Brexit (yn rhinwedd ei gyfrifoldebau fel Gweinidog Brexit) – Senedd Cymru am 2:38 pm ar 6 Tachwedd 2019.
Yng nghyd-destun cwestiynau am Brexit, nid wyf am roi sylw i'r pwynt ehangach, ond credaf fod y Prif Weinidog wedi egluro ein safbwynt yn glir mewn perthynas â materion sy'n ymwneud â chyn Ysgrifennydd Gwladol Cymru. Mewn perthynas â chwestiynau sy'n berthnasol i Brexit, yn fy mhrofiad i, y man lle rydym wedi gwneud y cynnydd mwyaf mewn trafodaethau â Llywodraeth y DU yw lle rydym wedi gallu ymdrin â hwy'n uniongyrchol. Hyd yn oed wedyn, mae wedi bod yn her sylweddol mewn nifer fawr o ffyrdd. Ond mae'n amlwg yn wir mai'r cysylltiadau uniongyrchol hynny yw'r ffordd orau o amddiffyn buddiannau Cymru yn y dyfodol.