Part of 2. Cwestiynau i'r Cwnsler Cyffredinol a’r Gweinidog Brexit (yn rhinwedd ei gyfrifoldebau fel Gweinidog Brexit) – Senedd Cymru am 2:54 pm ar 6 Tachwedd 2019.
Wel, credaf fod yr Aelod yn taro'r hoelen ar ei phen. Credaf mai dyna'n union yw'r risg yn sgil y cytundeb hwn. Mewn gwirionedd, buaswn yn mynd gam ymhellach na'i alw'n risg; credaf fod natur y cytundeb yn datgelu'r math o ben draw y mae Llywodraeth bresennol y DU yn awyddus i fynd â'r DU iddo. Mae'n un o ddadreoleiddio, lle mae'r DU wedi rhoi'r gorau i amddiffyniad yn y gweithle a hawliau cymdeithasol ac amgylcheddol o'r math rydym ni yng Nghymru yn eu cymryd yn ganiataol ac yr hoffem barhau i gydymffurfio â hwy wrth gwrs.
Fel yr awgryma ei chwestiwn, mae'r cytundeb hwn hyd yn oed yn waeth na chytundeb Theresa May, a oedd o leiaf yn ymrwymo'r Llywodraeth i gynnal hawliau gweithwyr yr UE ar eu lefel bresennol ac a oedd yn rhoi rhywfaint o fecanwaith i Senedd y DU yn y dyfodol mewn perthynas â hynny. Mae'r math o weledigaeth a amlinellir yn y cytundeb hwn yn gwbl groes i flaenoriaethau Llywodraeth Cymru yma yng Nghymru fel y'u nodwyd yng ngwaith y Comisiwn Gwaith Teg yn ddiweddar, sy'n sicrhau y byddwn ni fel Llywodraeth yn parhau i wneud popeth y gallwn i sicrhau nad yw gweithwyr yng Nghymru dan anfantais os a phan fyddwn yn gadael yr Undeb Ewropeaidd.