Part of 5. Cwestiynau Amserol – Senedd Cymru am 3:01 pm ar 6 Tachwedd 2019.
Diolch i chi am hynny, Weinidog. Fel y gwyddoch, mae gennyf etholwyr sy'n gorfod teithio dros y ffin i Lerpwl a Manceinion i gael triniaeth. Byddant yn yr un adeilad â chleifion o Loegr sy'n gallu cael mynediad at y feddyginiaeth hon. Weinidog, a allwch fy sicrhau bod y negodiadau yn y sgyrsiau rydych yn eu cael gyda Vertex yn parhau a'u bod yn gadarnhaol fel y gall fy etholwyr a phobl Cymru gael mynediad at y meddyginiaethau hyn cyn gynted â phosibl? Ac yn olaf, Weinidog, a ydych chi hefyd wedi ystyried cyflwyno cynllun dros dro ar gyfer mynediad i gleifion, fel y digwyddodd yn GIG yr Alban, wrth ddod i gytundeb ynghylch mynediad at y meddyginiaethau pwysig hyn?