5. Cwestiynau Amserol – Senedd Cymru ar 6 Tachwedd 2019.
1. Pa ystyriaeth y mae Llywodraeth Cymru wedi'i gwneud o benderfyniad GIG Lloegr i gymeradwyo'r defnydd o Orkambi a Symkevi? 359
Diolch am y cwestiwn. Nid yw GIG Lloegr ond wedi cymeradwyo defnyddio Orkambi a Symkevi drwy gytundeb mynediad masnachol. Mae fy swyddogion wedi cyfarfod â Vertex ac maent yn aros am gynnig ffurfiol ganddynt. O ystyried natur gyfrinachol ein trafodaethau, mae yna derfyn i'r sylwadau y gallaf eu gwneud wrth gwrs.
Diolch i chi am hynny, Weinidog. Fel y gwyddoch, mae gennyf etholwyr sy'n gorfod teithio dros y ffin i Lerpwl a Manceinion i gael triniaeth. Byddant yn yr un adeilad â chleifion o Loegr sy'n gallu cael mynediad at y feddyginiaeth hon. Weinidog, a allwch fy sicrhau bod y negodiadau yn y sgyrsiau rydych yn eu cael gyda Vertex yn parhau a'u bod yn gadarnhaol fel y gall fy etholwyr a phobl Cymru gael mynediad at y meddyginiaethau hyn cyn gynted â phosibl? Ac yn olaf, Weinidog, a ydych chi hefyd wedi ystyried cyflwyno cynllun dros dro ar gyfer mynediad i gleifion, fel y digwyddodd yn GIG yr Alban, wrth ddod i gytundeb ynghylch mynediad at y meddyginiaethau pwysig hyn?
Bydd yr Aelod yn ymwybodol o'r llythyr a gyhoeddwyd gan Simon Stevens, prif weithredwr GIG Lloegr ar y mater hwn, a anfonwyd at Bwyllgor Dethol Iechyd a Gofal Cymdeithasol Tŷ’r Cyffredin. Roedd hwnnw'n nodi bod Gogledd Iwerddon a Chymru wedi sefyll ochr yn ochr â Lloegr wrth negodi'r cytundeb a wnaed. Rwy'n disgwyl y bydd y telerau hynny'n cael eu hanrhydeddu. Gwneuthum sylw cyhoeddus ddoe y byddwn yn ymrwymo heddiw i'r un telerau pro rata yn union ar gyfer Cymru, a hoffwn allu gwneud hynny. Dyna fy ymrwymiad. Ni ddylai unrhyw deulu wynebu oedi yng Nghymru. Edrychaf ymlaen at ymateb priodol o onest ac adeiladol gan Vertex a fydd yn caniatáu i hynny ddigwydd.
Weinidog, gwn eich bod yn rhannu fy mhryderon fod gennym, gyda phob dydd sy'n mynd heibio, gleifion yng Nghymru nad ydynt yn gallu cael mynediad at y meddyginiaethau hynod bwysig hyn. Nawr, ar 25 Hydref, fe ddywedoch eich bod chi a'ch swyddogion yn cyfarfod â chynrychiolwyr o Vertex yr wythnos ganlynol i drafod manylion y telerau hyn a sut y gellid eu cymhwyso. Rwy'n deall bod gennych faterion yn ymwneud â chyfrinachedd cwmnïau yma, ond a allwch chi roi unrhyw fath o ddiweddariad i ni ar hynny?
A gaf fi ofyn hefyd pa wersi a ddysgwyd o'r amser a gymerwyd i wneud cynnydd ar y mater hwn, a sut y gellid gwneud pethau'n wahanol yn y dyfodol i sicrhau na chawn ein gadael ar ôl pan fo angen dod i gytundeb i sicrhau bod cyffuriau sy'n achub bywydau ar gael i gleifion Cymru?
Ac yn olaf, o ran dysgu gwersi, deallaf fod y cwmni, ar ddechrau 2018, wedi bod mewn trafodaethau gyda GIG Cymru ar gynnig portffolio ar gyfer eu holl feddyginiaethau ffeibrosis systig presennol ac yn y dyfodol. Fodd bynnag, ac rwy'n dyfynnu'n uniongyrchol, daeth y trafodaethau hyn i stop ym mis Mawrth/Ebrill, oherwydd yr hyn y deallem ar y pryd a oedd yn fater staffio ym mhroses gaffael meddyginiaethau Cymru gyfan GIG Cymru. Weinidog, a allwch chi daflu unrhyw oleuni ar hynny a rhoi sicrwydd i ni na fydd y fath oedi'n digwydd eto?
Ar eich pwynt olaf, nid yw'n wir o gwbl. Nid yw'n wir o gwbl. Mae Vertex yn deall y mecanweithiau gwerthuso sefydledig sydd gennym ar gyfer meddyginiaethau newydd ar draws y Deyrnas Unedig yn iawn: system arfarnu'r Sefydliad Cenedlaethol dros Ragoriaeth mewn Iechyd a Gofal rydym wedi ymrwymo iddi, y systemau arfarnu penodol sydd hefyd ar gael yn yr Alban, ac yma yng Nghymru drwy Grŵp Strategaeth Meddyginiaethau Cymru Gyfan. Yr hyn y maent wedi'i wneud, wrth ddod i gytundeb â Lloegr, sydd wedi'i gynnwys yn llythyr Simon Stevens, yw cytuno i ddarparu data cleifion amser real ar sail lle maent wedi cytuno ar bris i sicrhau bod mynediad ar gael i bob claf sy'n dioddef o'r cyflwr ac sydd angen y driniaeth, ac yna byddant yn cyflwyno eu portffolio cyfan, gyda'r data amser real hwnnw, i'r Sefydliad Cenedlaethol dros Ragoriaeth mewn Iechyd a Gofal i'w arfarnu. Nawr, mae hynny'n gwneud synnwyr, ac nid dyna'r cynnig a roddwyd yma yng Nghymru.
Rwy'n glir nad ydym ni yng Nghymru yn gyfrifol am oedi mynediad at y meddyginiaethau hyn. Y broblem yw bod angen i Vertex wneud yr hyn y maent wedi ymrwymo i'w wneud, sef yr hyn sydd yn llythyr Simon Stevens. A dyna ddechrau a diwedd y mater. Ni ddylai'r un teulu yng Nghymru gael ei roi mewn sefyllfa lai manteisiol na theulu dros y ffin oherwydd anallu i fodloni telerau'r cytundeb y cytunwyd arno. Edrychaf ymlaen at ymateb cadarnhaol ac adeiladol gan y cwmni fferyllol.
Diolch. Daw'r ail gwestiwn amserol y prynhawn yma gan Angela Burns.