Part of 5. Cwestiynau Amserol – Senedd Cymru am 3:20 pm ar 6 Tachwedd 2019.
Diolch i Joyce Watson am y sylwadau hynny, ac mae'r hyn a ddywed yn adleisio geiriau Christina Rees, wrth gwrs, a ddywedodd
Nid yw'r ffaith bod Alun Cairns wedi camu i lawr fel Ysgrifennydd Gwladol yn ddiwedd ar y mater o bell ffordd, ac mae'n gam hanner ffordd gwael na fydd yn twyllo neb.
Ac mae'n mynd yn ei blaen i ddweud
Nid yw wedi egluro ei ymddygiad o hyd ac nid yw wedi mynd i'r afael â'r materion difrifol a godwyd gan y negeseuon e-bost a ddatgelwyd ddoe.
A dylai wneud y peth iawn—ymddiheuro, ac ymddiswyddo fel ymgeisydd.
Ond credaf mai'r pwynt pwysicaf a gododd Joyce Watson heddiw yw pwysigrwydd sicrhau bod gan fenywod hyder i adrodd ac i roi gwybod am bethau sydd wedi digwydd iddynt, er mwyn sicrhau bod cymorth ar gael i'r menywod hynny, ac i sicrhau hefyd y gall y menywod dan sylw fod yn hyderus bob amser y perchir eu cyfrinachedd bob amser.