Ymddiswyddiad Ysgrifennydd Gwladol Cymru

Part of 5. Cwestiynau Amserol – Senedd Cymru am 3:23 pm ar 6 Tachwedd 2019.

Danfonwch hysbysiad imi am ddadleuon fel hyn

Photo of Rebecca Evans Rebecca Evans Labour 3:23, 6 Tachwedd 2019

(Cyfieithwyd)

Diolch i Alun Davies am godi'r mater penodol hwnnw, ac wrth gwrs, yn ddiweddar mae Prif Weinidog Cymru wedi nodi ei weledigaeth, os mynnwch, ar gyfer y berthynas rynglywodraethol rhwng gwledydd cyfansoddol y DU. Rwy'n credu ei bod yn bwysig iawn fod y system honno o gysylltiadau'n seiliedig ar y peirianwaith a fydd yn gweddu orau i'n huchelgeisiau ar gyfer y ffordd y byddwn yn ymwneud â rhannau eraill o'r DU.