Part of the debate – Senedd Cymru am 3:54 pm ar 6 Tachwedd 2019.
Diolch yn fawr iawn i chi, oherwydd rwy'n derbyn eich pwynt yn llwyr am y swyddi arbenigol, a gobeithio y bydd y Gweinidog yn ei glywed, oherwydd, wrth gwrs, un o'r pethau cryfaf a glywsom yn ein tystiolaeth oedd bod meddygon teulu eu hunain yn dweud—meddygon teulu a Choleg Brenhinol yr Ymarferwyr Cyffredinol oedd yn dweud hyn—eu bod yn methu arwyddion o hepatitis C. Roedd cleifion yn dweud, er bod ganddynt yr holl symptomau, nad oedd meddygon yn sylwi arnynt. Ac oni bai fod gennym y swyddi arbenigol hyn yn eu lle, ofnaf y bydd mwy o bobl yn llithro drwy'r rhwyd.